Jeremy Corbyn
| Jeremy Corbyn AS | |
|---|---|
| Arweinydd yr Wrthblaid | |
| Yn ei swydd 12 Medi 2015[1] – 4 Ebrill 2020 | |
| Teyrn | Elizabeth II |
| Prif Weinidog | David Cameron Theresa May |
| Rhagflaenydd | Harriet Harman |
| Olynydd | Keir Starmer |
| Arweinydd y Blaid Lafur | |
| Yn ei swydd 12 Medi 2015 – 4 Ebrill 2020 | |
| Dirprwy | Tom Watson |
| Rhagflaenydd | Ed Miliband |
| Olynydd | Keir Starmer |
| Aelod Seneddol dros Gogledd Islington | |
| Yn ei swydd | |
| Dechrau 9 Mehefin 1983 | |
| Rhagflaenydd | Michael O'Halloran |
| Mwyafrif | 7,427 (14.8%) |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | Jeremy Bernard Corbyn 26 Mai 1949[2] Chippenham, Wiltshire, Lloegr |
| Cenedligrwydd | Prydeiniwr |
| Plaid wleidyddol | Annibynnol |
| Cysylltiadau gwleidyddol |
Llafur (1965-2024) |
| Gŵr neu wraig | Jane Chapman (pr. 1974; ysgarwyd 1979) Claudia Bracchitta (pr. 1987; ysg. 1999) Laura Alvarez (pr. 2015) |
| Perthnasau | Piers Corbyn (brawd) |
| Plant | 3 |
| Gwefan | Gwefan swyddogol |
Gwleidydd o Loegr a chyn-arweinydd y Blaid Lafur yw Jeremy Bernard Corbyn (ganwyd 26 Mai 1949).[3] Mae ef ar ochr chwith y blaid, ac mae wedi pleidleisio yn erbyn chwipiau'r blaid yn rheolaidd dros y blynyddoedd, gan gynnwys 238 gwaith yn ystod cyfnod seneddol 2005-2010, sef tua 25% o holl bleidleisiau yn y cyfnod hwnnw.
Mae ef yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Gogledd Islington ym Llundain ers 9 Mehefin 1983[4] ac mae wedi ei ail-ethol ym mhob Etholiad Cyffrediol ers hynny. Ar 12 Medi 2015 cafodd ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur sef yr wrthblaid.[5] Mae hefyd yn aelod o'r Grŵp Sosialaidd (y Socialist Campaign Group), yr Ymgyrch dros Balesteina (Palestinian Solidarity Campaign), Amnest Rhyngwladol, yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear ac ef yw Cadeirydd cenedlaethol Stop the War Coalition. Yn dilyn etholiad cyffredinol 2019 lle na lwyddodd ennill mwyafrif i'r Blaid Lafur, penderfynodd sefyll lawr fel arweinydd. Cynhaliwyd gornest i ethol arweinydd newydd a daeth Keir Starmer yn arweinydd newydd ar 4 Ebrill 2020.[6]
Fe'i ganed yn Chippenham, Wiltshire, Lloegr, a bu'n fyfyriwr yn North London Polytechnic. Ar ôl gadael, cychwynnodd weithio i Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Cyhoeddus ac yna'r National Union of Tailors and Garment Workers. Ond yn 1974 y dechreuodd ei yrfa wleidyddol, pan gafodd ei ethol yn gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistrefol Haringey, Llundain. Yn Etholiad cyffredinol 1983 fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol dros Ogledd Islington ac mae wedi dal ei afael yn y sedd ers hynny.
Galwa'i hun yn 'Sosialydd Democrataidd' ac mae'n cytuno gydag ail-genedlaetholi gwasanaethau cyhoeddus a rheilffyrdd ac ailagor rhai pyllau glo. Mae'n credu hefyd y dylid bod yn fwy llawdrwm ar dwyllwyr treth yn hytrach na dilyn polisi 'toriadau llymder', fel roedd ei blaid ei hun yn ei argymell cyn ei benodi'n Arweinydd. Roedd llawer o'i syniadau'n perthyn yn nes at bolisïau'r SNP nag i'r Blaid Lafur. Lleisiodd ei farn droeon yn erbyn ffioedd myfyrwyr, gan droi'r cloc yn ôl ac ailgyflwyno'r system grantiau. Fel Tony Benn o'i flaen, bu hefyd yn dadlau dros y blynyddoedd dros ddiarfogi nwiclear a lliniaru meintiol er mwyn ariannu prosiectau amgylcheddol adnewyddol.
Enillodd Wobr Heddwch Rhyngwladol Gandhi yn 2013.[7]
Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddodd ei fod yn ffurfio plaid wleidyddol newydd, o'r enw "Your Party".[8][9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Reaction to Corbyn victory". BBC News (yn Saesneg). 12 Medi 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Medi 2015. Cyrchwyd 12 Medi 2015.
- ↑ Times Election Guide 2001 2005 2010
- ↑ "Wefan Jeremy Corbyn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-11. Cyrchwyd 2015-07-10.
- ↑ www.parliament.uk
- ↑ "Jeremy Corbyn MP". UK Parliament. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2015.
- ↑ Syr Keir Starmer yw arweinydd newydd y Blaid Lafur , Golwg360, 4 Ebrill 2020.
- ↑ "The Gandhi Foundation International Peace Award 2013". gandhifoundation.org. The Gandhi Foundation. 9 January 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-13. Cyrchwyd 8 Mehefin 2017.
- ↑ Chappell, Peter (24 July 2025). "Confusion surrounds Jeremy Corbyn's launch of 'Your Party'". The Times (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Gorffennaf 2025. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
- ↑ Pollock, Laura (24 Gorffennaf 2025). "'One that belongs to you': Jeremy Corbyn reveals temporary name of new party". The National (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Gorffennaf 2025. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2025.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) www.walesonline.co.uk
- (Saesneg) www.jeremyforlabour.com
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Michael O'Halloran |
Aelod Seneddol dros Ogledd Islington (etholaeth seneddol) 1983 – presennol |
Olynydd: presennol |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Ed Miliband |
Arweinydd y Blaid Lafur 2015 – 2020 |
Olynydd: Keir Starmer |