Gordon Brown

Oddi ar Wicipedia
Gordon Brown AS
Gordon Brown


Cyfnod yn y swydd
27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010
Rhagflaenydd Tony Blair
Olynydd David Cameron

Canghellor y Trysorlys
Cyfnod yn y swydd
2 Mai 1997 – 28 Mehefin 2007
Rhagflaenydd Kenneth Clarke
Olynydd Alistair Darling

Geni 20 Chwefror 1951
Glasgow, Yr Alban, DU
Etholaeth Kirkcaldy a Cowdenbeath
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Sarah Brown

Cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yw James Gordon Brown (ganwyd 20 Chwefror, 1951 yn Govan, Glasgow, yr Alban). Cymerodd y swydd ar 27 Mehefin, 2007, tridiau ar ôl dod yn arweinydd y Blaid Lafur. Yn gynt fe wasanaethodd fel Canghellor y Trysorlys dan Tony Blair o 1997 tan 2007, y cyfnod hwyaf i Ganghellor wasanaethu ers Nicholas Vansittart ar ddechrau'r 19g. Mae'n aelod blaenllaw o Cyfeillion Llafur Israel.

Mae gan Brown radd Doethur mewn hanes o Brifysgol Caeredin a threuliodd ei yrfa gynnar yn gweithio fel newyddiadurwr teledu.[1][2] Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dunfermline yn 1983 ac yn AS dros Kirkcaldy a Cowdenbeath yn 2005; ymddeolodd fel AS cyn Etholiad Cyffredinol, 2015 pan gipiodd yr SNP'r sedd.[3][4]

Fel Prif Weinidog, bu Brown hefyd yn dal swyddi Prif Arglwydd y Trysorlys a Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil. Nodwyd cangelloriaeth Brown gan ddiwygiadau arwyddocaol mewn polisi ariannol a chyllidol Prydain, yn cynnwys trosglwyddiad pwerau gosod cyfraddau llog i Fanc Lloegr, gan ehangu a dwysau grymoedd y Trysorlys. Ei weithredoedd mwyaf dadleuol oedd diddymu cymorth Blaendreth Corfforaeth (ACT) yn ei gyllideb gyntaf – gweithred a gafodd ei beirniadu am ei heffaith ar gronfeydd pensiwn – [5] a dileu'r cyfradd treth 10c yn ei gyllideb derfynol yn 2007.[6]

Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog wynebodd Brown ôl-effeithiau'r argyfwng economaidd a gwladoliad cysylltiedig Northern Rock ayb, y ddadl dros y gyfradd treth 10c, cynnydd mewn prisiau olew a phetrol, a chwyddiant cynyddol. Mae Brown hefyd wedi dioddef o ganlyniad i ymchwiliadau i mewn i gyhuddiadau o roddion anweddus i'w blaid, brwydr wleidyddol ddrud dros gadw terfysgwyr honedig o dan glo am 42 niwrnod, a threchiadau sylweddol mewn is-etholiadau, megis Dwyrain Glasgow, 2008. Er i boblogrwydd Brown a'r Blaid Lafur gynyddu ar gychwyn ei brifweinidogaeth, mae'u safiadau mewn polau piniwm ers hynny wedi gostwng yn sylweddol.[7][8] Yn ystod haf 2008 bu sôn am her bosib i arweinyddiaeth Brown,[9][10][11][12] ond enciliodd fygythiad cystadleuaeth ym mis Hydref yn dilyn Cynhadledd y Blaid Lafur a gwaethygiad yr argyfwng economaidd.[13] Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog ar 11 Mai, 2010.[14]

Cangelloriaeth[golygu | golygu cod]

Fel Canghellor y Trysorlys mae wedi llywyddu'r "cyfnod hwyaf o dwf a welodd y wlad erioed", gwneud Banc Lloegr yn annibynnol a chyflwyno cytundeb ar dlodi a newid hinsawdd yn Uwchgynhadledd yr G8 yn 2005.[15]

Prifweinidogaeth[golygu | golygu cod]

Prydeindod[golygu | golygu cod]

Pwysleiddiodd Brown 'Prydeindod', yn enwedig pan oedd yn Brif Weinidog ac yn ystod Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeinig" i ddod yn ŵyl flynyddol. Yn Ebrill yn yr un flwyddyn dywedodd ei fod eisiau gweld "baner (Jac yr Undeb) yn hedfan ym mhob gardd yn y wlad" ar y diwrnod hwnnw[16] Awgrymwyd gan feirniaid Gordon Brown fod hyn yn ymateb i wrthwynebiad rhai Saeson i gael Albanwr yn Brif Weinidog, ond mewn gwirionedd cafwyd sawl datganiad gan Brown yn pwysleisio Prydeindod cyn iddo gymryd yr awennau o ddwylo Blair yn 2007. Gweithiodd Brown yn frwd i sefydlu'r "Diwrnod y Lluoedd Arfog" newydd hefyd.[17] Bydd y 'diwrnod' hwnnw yn ymestyn dros benwythnos ac yn cynnwys gorymdeithiau milwrol, cyflwyniadau i ysgolion, a tattoos milwrol ar feysydd pêl-droed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Kearney, Martha (14 Mawrth, 2005). Brown seeks out 'British values'. BBC. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  2. (Saesneg) Gordon Brown timeline. BBC (15 Mehefin, 2004). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  3. (Saesneg) Brown is UK's new prime minister. BBC (27 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  4. (Saesneg) Gordon Brown. BBC (19 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  5. (Saesneg) Stewart, Heather (22 Gorffennaf, 2002). Pension blame falls on Brown. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  6. (Saesneg) Dawar, Anil (21 Ebrill, 2008). Q&A: 10p tax rate cut. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  7. (Saesneg) Prince, Rosa (13 Awst, 2007). Gordon Brown's huge poll lead. Daily Mirror. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  8. (Saesneg) Majendie, Paul (13 Ebrill, 2008). Brown in record poll slide. Reuters. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  9. (Saesneg) Current Voting Intention. UK Polling Report. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  10. (Saesneg) Porter, Andrew (27 Mehefin, 2008). Gordon Brown is 'electoral liability' says anniversary poll. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  11. (Saesneg) Sparrow, Andrew & Mulholland, Hélène (28 Gorffennaf, 2008). Brown hit by call for resignation and bad poll ratings. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  12. (Saesneg) Young, Vicky (28 Gorffennaf, 2008). Is Brown seriously at risk of axe?. BBC. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  13. (Saesneg) Brown critic 'ends hostilities'. BBC (7 Hydref, 2008). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
  14. Gordon Brown resigns as UK prime minister Gwefan newyddion y BBC. 11-05-2010
  15.  Bywgraffiad Y Gwir Anrhydeddus Gordon Brown, AS. Gwefan swyddogol 10 Stryd Downing. Adalwyd ar 30 Ionawr, 2008.
  16. Daily Telegraph "Fly the Flag in every garden" 14/04/06.
  17. The Daily Telegraph, 13.04.2008 Archifwyd 2008-04-22 yn y Peiriant Wayback. "Victory for Armed Forces Day campaign". Adalwyd ar 16 Ebrill 2008

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gordon Brown: Bard of Britishness, casgliad o ysgrifau golygwyd gan John Osmond, IWA, Caerdydd, 2006.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Dwyrain Dunfermline
19832005
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Kirkcaldy a Cowdenbeath
2005 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Kenneth Clarke
Canghellor y Trysorlys
2 Mai 199728 Mehefin 2007
Olynydd:
Alistair Darling
Rhagflaenydd:
Tony Blair
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
27 Mehefin 200711 Mai 2010
Olynydd:
David Cameron
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Tony Blair
Arweinydd y Blaid Lafur
24 Mehefin 200711 Mai 2010
Olynydd:
Harriet Harman