Glasgow
Math | dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, lieutenancy area of Scotland |
---|---|
Poblogaeth | 626,410 |
Pennaeth llywodraeth | Philip Braat |
Gefeilldref/i | Bethlehem, Nürnberg, Marseille, Rostov-ar-Ddon, Torino, La Habana, Lahore, Barga, Dalian, Dinas Mecsico |
Nawddsant | Cyndeyrn |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Alban |
Sir | Dinas Glasgow |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 3,298 ±1 km² |
Gerllaw | Afon Clud, River Kelvin |
Yn ffinio gyda | Aberfoyle, De Swydd Lanark |
Cyfesurynnau | 55.8611°N 4.25°W |
Cod SYG | S19000510 |
Cod OS | NS590655 |
Cod post | G1-G80 |
GB-GLG | |
Pennaeth y Llywodraeth | Philip Braat |
Dinas fwya'r Alban yw Glasgow (Brythoneg: Glascou[1] Gaeleg yr Alban: Glaschu;[2] Sgoteg: Glesca)[3] a pedwaredd dinas fwyaf gwledydd Prydain o ran maint[4]. Saif ar Afon Clud yng ngorllewin iseldiroedd y wlad. Er taw Glasgow yw dinas fwyaf yr Alban, Caeredin, yr ail fwyaf, yw'r brifddinas.
Credir bod yr enw, fel llawer o leoedd eraill yn iseldiroedd yr Alban, o darddiad Brythoneg - "glas cau". Dywedir i'r ddinas dyfu ar safle mynachlog a sefydlwyd gan Sant Cyndeyrn, sydd a chysylltiad cryf gyda Llanelwy.
Sefydlwyd Prifysgol yno yn y 15g. Daeth Glasgow yn brif ganolfan y byd i'r diwydiant adeiladu llongau yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, a daeth yn borthladd pwysig iawn hefyd, ond dirywiodd ei statws rywfaint yn ystod yr 20g. Caidd ei chyfri hefyd fel ardal a fu'n ganolfan bwysig i ddatblygiad peirianneg trwm.[5] Oherwydd hyn arferid ei galw'n "Second City of the British Empire" am ran helaeth o Oes Victoria a'r cyfnod Edwardaidd.[6]
Yn 2012 cyfrifid hi'n un o 10 o ddinasoedd trin arian mwya'r byd.[7]
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Yn niwedd y 19eg a dechrau'r 20g cynyddodd Glasgow yn ei phoblogaeth gan gyrraedd ei hanterth (1,128,473) yn 1939,[8] gan ei gwneud y bedwaredd dinas fwya'n Ewrop ar ôl Llundain, Paris a Berlin.[9]
Roedd 585,090 o bobl yn byw o fewn terfynau Dinas Glasgow yn ôl Cyfrifiad 2001, a 1,168,270 gan gynnwys yr ardaloedd trefol o amgylch y ddinas.
Cludiant
[golygu | golygu cod]Mae gan y ddinas rwydwaith eang o gludiant, rheolir gan Bartneriaeth Strathclyde Drafnidiaeth, er defnyddir cwmnïau preifat i redeg mwyafrif ei gwasanaethau.
Bysiau
[golygu | golygu cod]Mae rhwydwaith eang o wasanaethau bws ar draws a thu hwnt y ddinas. Y brif gwmnïau bws yw First Glasgow, Gwasanaethau bws McGill, [[Stagecoach Gorllewin y Prif orsaf bws y ddinas yw Gorsaf Bws Buchanan.
Rheilffyrdd
[golygu | golygu cod]Mae gan Glasgow 2 brif orsaf reilffordd, Gorsaf reilffordd Glasgow Canolog, sydd yn cysylltu â Chaeredin, y de a Lloegr, a Gorsaf reilffordd Glasgow (Heol y Frenhines), sydd yn cysylltu â’r gogledd a Chaeredin[10]. Mae hefyd rhwydwaith eang o wasanaethau lleol, trefnir gan SPT (Strathclyde Partnership for Transport) sydd yn cynnwys 12 o awdurdodau lleol, gan gynnwys Glasgow. Mae SPT yn gyfrifol hefyd am Reilffordd Danddaearol Glasgow, sydd yn ffurfio cylch ynghanol y ddinas.[11]
Meysydd awyr
[golygu | golygu cod]Mae gan y ddinas 2 faes awyr; Maes awyr Glasgow[12] a Maes awyr Prestwick.[13][14]
Fferi Renfrew
[golygu | golygu cod]Mae fferi’n croesi Afon Clud rhwng Renfrew a Yoker. Mae Cwmni Clyde Link yn rhedeg y wasanaeth.[15]
Fferi Govan
[golygu | golygu cod]Mae Fferi Govan yn croesi’r afon rhwng Govan ac Amgueddfa Riverside rhwng Gorffennaf a Hydref.[16]
Maes Awyr Awyrennau Môr
[golygu | golygu cod]Mae Cwmni Loch Lomond Seaplanes yn rhedeg gwasanaethau rhwng Glasgow, Oban a Tobermory, yn mynd o’r afon.[15]
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Hunterian
- Amgueddfa Kelvingrove
- Amgueddfa Riverside
- Arena Hydro SSE
- Awditoriwm Clud (yr Armadilo)
- Croes y Farchnad
- Eglwys gadeiriol
- Theatr Brenhinol
- Tolbooth
- Ystafelloedd Te'r Helygen
Pontydd[17]
[golygu | golygu cod]- Pont Mileniwm (2002)
- Pont Bells (1989)
- Arc Clud / Y Bont 'Squinty' (2006)
- Pont Kingston (1970)
- Pont droed Tradeston (2008)
- Pont Siors V (1929)
- Ail bont Rheilffordd y Caledonian (1905)
- Pont gyntaf y Reilffordd Caledonian (1878)
- Pont Glasgow (1899)
- Pont grog Heol De Portland (1853)
- Pont Fictoria (1854)
- Pont Reilffordd Undod y Ddinas (1899)
- Pont Albert (1871)
- Argae Llanwol a Phont Bibell (1901 (ail-adeiladwyd 1949)
- Pont grog Sant Andrew (1856)
- Pont y Brenin (1933)
- Pont Polmadic (1955)
- Pont Rutherglen (1896)
- Pont reilffordd gyntaf Dalmarnock (1861)
- Ail Bont reilffordd Dalmarnock(1897)
- Pont Dalmarnock (1897)
Mae hefyd Twnnel Clud rhwng Govan a Scotstoun.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- William Black (1841–1898), awdur, newyddiadurwr a nofelydd
- Elizabeth MacNicol (1869–1904), arlunydd
- Katherine Cameron (1874–1965), arlunydd benywaidd
- Mortimer Wheeler (1890–1976), archaeolegwyr
- Nigel Tranter (1909-2000), nofelydd
- Molly Weir (1910–2004), actores
- Stanley Baxter (g. 1926), comediwr ac actor
- Winnie Ewing (g. 1929), gwleidydd
- Rosemary Margaret Smith (1933–2004), fotanegydd nodedig a aned yn Yr Alban
- Donald Dewar (1937-2000), gwleidydd
- Menzies Campbell (g. 1941), gwleidydd
- Billy Connolly (g. 1942), comediwr ac actor
- George Kerevan (g. 1949), gwleidydd
- John Barrowman (g. 1967), actor a chanwr
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ceir sawl Etholaeth Cyffredinol yng Nglasgow: Canol Glasgow, De Glasgow, Dwyrain Glasgow, Gogledd Glasgow, Gogledd-orllewin Glasgow, Gogledd-ddwyrain Glasgow a De-orllewin Glasgow.
- Rhestr etholaethau Senedd y DU yn yr Alban
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "The Brittonic language in the Old North" (PDF). tt. 91, 142. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-07. Cyrchwyd 2024-05-28.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 3 Hydref 2019
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 14 Ebrill 2022
- ↑ "World Gazetteer; adalwyd 30 Rhagfyr 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-09. Cyrchwyd 2012-12-30.
- ↑ "Glasgow Feature Page". Undiscovered Scotland. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2007.
- ↑ "Victorian Glasgow". BBC History. Cyrchwyd 14 Medi 2010.
- ↑ "Global Financial Centres Index 10: Glasgow Enters European Top Ten". Cyrchwyd 8 Mehefin 2012.
- ↑ "Factsheet 4: Population" (PDF). Glasgow City Council. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-07-03. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2007.
- ↑ "Visiting Glasgow: Clyde Bridges". Cyngor Dinas Glasgow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-03. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Gwefan raileurope.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-06. Cyrchwyd 2019-05-06.
- ↑ Gwefan SPT
- ↑ Gwefan maes awyr Glasgow
- ↑ Gwefan maes awyr Prestwick
- ↑ Gwefan skyscanner.com
- ↑ 15.0 15.1 Gwefan glasgowlive.co.uk
- ↑ Gwefan getintogovan.com
- ↑ "Gwefan discoverglasgow.org". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-07. Cyrchwyd 2019-07-07.