Dinas Llundain
| Arwyddair | Domine dirige nos |
|---|---|
| Math | dinas, canolfan ariannol, ardal fusnes, siroedd seremonïol Lloegr, district of the United Kingdom, ardal gyda statws dinas, ardal ddi-blwyf |
| Ardal weinyddol | ardal Llundain |
| Poblogaeth | 8,583 |
| Pennaeth llywodraeth | Charles Bowman |
| Gefeilldref/i | Shanghai |
| Nawddsant | yr Apostol Paul |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2.904 km² |
| Uwch y môr | 20 metr |
| Gerllaw | Afon Tafwys, Afon Fleet |
| Yn ffinio gyda | Dinas Westminster, Camden, Islington, Hackney, Tower Hamlets |
| Cyfesurynnau | 51.5156°N 0.0931°W |
| Cod SYG | E09000001, E43000191 |
| GB-LND | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Corfforaeth Dinas Llundain |
| Corff deddfwriaethol | Court of Common Council |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arglwydd Faer Llundain |
| Pennaeth y Llywodraeth | Charles Bowman |
![]() | |
Dinas fechan o fewn Llundain yw Dinas Llundain (Saesneg: City of London). Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Tafwys; mae'n ffinio â Westminster i'r gorllewin, Camden i'r gogledd-orllewin, Islington a Hackney i'r gogledd, a Tower Hamlets i'r dwyrain; saif gyferbyn â Southwark ar lan ddeheuol yr afon.

Dyma graidd hanesyddol Llundain, sydd wedi cadw ei ffiniau traddodiadol ers yr Oesoedd Canol. Cyfeirir ati fel Y Ddinas, Dinas neu'r Filltir Sgwâr, am fod ganddi arwynebedd o 2.6 km², sef bron milltir sgwâr. Mae'r enwau yma yn gyfystyr â chanolfan cyllidol y Deyrnas Gyfunol.
Yn yr Oesoedd Canol bu'r enw Llundain yn cyfeirio at y Ddinas yn unig, a oedd ar wahân i Westminster. Cysylltwyd y ddau gan Stryd y Fflyd (fel y'i gelwid o fewn y Ddinas) a droes yn Y Strand tu allan i furiau'r Ddinas.
Y Ddinas yw sir seremonïol lleiaf Lloegr a'r ddinas lleiaf ym Mhrydain Fawr ar ôl Tyddewi. Sylwer nad yw'r Ddinas yn un o 32 bwrdref Llundain.

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
| |||||||
