Bangor, Gogledd Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bangor, Gogledd Iwerddon
Bangor The Long Hole At Dusk.jpg
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth61,011 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVirginia Beach, Virginia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArds and North Down Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.66°N 5.67°W Edit this on Wikidata
Am y ddinas yng Ngwynedd gweler Bangor. Gweler hefyd Bangor (gwahaniaethu).

Tref fawr yn Swydd Down, Gogledd Iwerddon, yw Bangor (Gwyddeleg: Beannchor), gyda phoblogaeth drefol o 76,851 o bobl (Cyfrifiad 2001), sy'n ei gwneud y dref fwyaf poblog yng Ngogledd Iwerddon. Tref glan môr yw hi, a leolir ar lan ddeheuol Belfast Lough yn Ardal Fetropolitanaidd Belfast. Marina Bangor yw un o'r rhai mwyaf yn Iwerddon gyfan, gyda statws Baner Las. Yn 2007, cafodd y dref ei hethol gan wylwyr UTV fel y lle mwyaf deniadol i fyw ynddo yng Ngogledd Iwerddon.

Tref breswyl ydyw yn bennaf, a gellid ei hystyried yn dref gomiwter ar gyfer ardal Belffast Fwyaf, a gysylltir â Bangor gan y ffordd A2 a rheilffordd uniongyrchol. Gorwedd Bangor 13.6 milltir (22 km) o ganol dinas Belfast ac yn agos iawn hefyd i Maes Awyr George Best Dinas Belffast.

Harbwr a marina Bangor

Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw Gwyddeleg gwreiddiol tref a phlwyf Bangor yw Beannchar. Gwreiddiau Beannchar yw beann, 'pigyn' ac ymddengys i'r enw gyfeirio at loc-palis o fangorwaith o gwmpas y fynachlog gynnar oedd yma ac a sefydlwyd gan Sant Comgall c. 555AD.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]