Peterborough
| Math | dinas, dinas fawr, ardal ddi-blwyf, tref newydd |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Dinas Peterborough |
| Poblogaeth | 194,000 |
| Sefydlwyd | |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaergrawnt (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 343 km² |
| Uwch y môr | 12 metr |
| Gerllaw | Afon Nene |
| Cyfesurynnau | 52.5725°N 0.2431°W |
| Cod OS | TL185998 |
| Cod post | PE |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Peterborough |
![]() | |
Dinas yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, yw Peterborough[1] (Cymraeg: Trebedr).[2] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn awdurdod unedol Dinas Peterborough. Saif ar Afon Nene, 119 km / 74 o filltiroedd i'r gogledd o Lundain.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Peterborough boblogaeth o 161,707.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Tan 1888 gweinyddwyd Peterborough gan swyddogion y ddinas (Marcwis Caerwysg, ceidwad y rholiau, ynadon ac uchel feili a benodwyd gan ddeon a chapidwl yr eglwys gadeiriol) yn annibynnol o Swydd Northampton. Yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1888, gwnaethpwyd y Soke of Peterborough yn sir weinyddol ar ei phen ei hun. Roedd yn sir fechan o ran poblogaeth, felly fe'i hunwyd â Swydd Huntingdon yn 1965 i greu sir newydd Huntingdon and Peterborough. O 1974 tan 1998, pan grewyd yr awdurdod unedol Dinas Peterborough, roedd y ddinas yn cael ei gweinyddu fel rhan o Swydd Gaergrawnt, ac mae'n dal yn rhan o sir seremoniol Swydd Gaergrawnt.
Mae yna enghreifftiau o bapurau newydd Cymraeg yr 19g lle cyfeirir at y dref fel Trebedr neu Caerbedr, yn bennaf yng nghyd-destun yr esgobaeth.[4]
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Peterborough
- Eglwys gadeiriol (gyda'r bedd Catrin o Aragon a bedd Mari I, brenhines yr Alban, cyn i'w mab ei symud i Abaty Westminster
- Flag Fen
- Guildhall
- Tŵr Longthorpe
Pobl o Beterborough
[golygu | golygu cod]- John Clare (1793-1864), bardd
- Henry Royce (1863-1933), peiriannydd
- Paul Nicholas (g. 1945), canwr ac actor
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 6 Gorffennaf 2020
- ↑ Geiriadur yr Academi, Peterborough
- ↑ City Population; adalwyd 12 Gorffennaf 2020
- ↑ "Papurau Newydd Cymru - Chwilio: 'caerbedr trebedr'". papuraunewydd.llyfrgell.cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-09-17.
Dinasoedd
Caergrawnt ·
Ely ·
Peterborough
Trefi
Cambourne ·
Chatteris ·
Godmanchester ·
Huntingdon ·
March ·
Ramsey ·
Soham ·
St Ives ·
St Neots ·
Whittlesey ·
Wisbech
