Afon Nene
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Swydd Northampton ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.5648°N 0.355°W, 52.2318°N 1.2103°W, 52.8214°N 0.2161°E ![]() |
Aber |
Môr y Gogledd ![]() |
Llednentydd |
Afon Ise ![]() |
Dalgylch |
1,634 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
146 cilometr ![]() |
![]() | |
Afon yn nwyrain Lloegr yw Afon Nene. Mae gan yr afon dri tharddiad yn Swydd Northampton. Tarddiad y Nene Daventry yw Bryn Arbury; tarddiad y Brampton Nene yw Naseby, a tharddiad y Nene Yelvertoft yw Yelvertoft. Mae’r tair afon yn uno yn Northampton, lle mae Camlas Grand Union yn ymuno â’r Nene hefyd. Mae’r afon yn llifo o Northampton, trwy Great Gidding, Earl’s Barton, Wellingborough, Thrapston, Oundle, Peterborough, March, Guyhirn, Wisbech, Sutton Bridge, Tydd Gote a Gedney Drove End cyn llifo i‘r Wash.
Gall cychod yn defnyddio’r afon rhwng ei chyffordd gyda Chamlas Grand Union ger Northampton, hyd at y môr 88 milltir i ffwrdd. Mae gan yr afon 38 o lociau.[1] Yn Swydd Northampton, mae’r afon yn llifo o dan Gamlas y Grand Union, rheilffordd yr arfordir gorllewinol a’r M1 a heibio Melin Kislingbury. Mae’n pasio Gwarchodfa Natur Titchmarsh, Rhielffordd Dyffryn Nene ger Wansford, Marina Oundle, Parc Archeologol Flag Fen a Washes Afon Nene, sydd yn 3,700 erw o wlyptir i’r dwyrain o Peterborough.
Mae sawl isafon, megis Afon Welland ac Afon Witham. Mae’r afon yn cysylltu ag Afon Great Ouse yn Salter’s Lode. Mae’r afon yna’n rhan o gyfundrefn ddraeniad mawr maint 270 milltir sgwâr. Mae pedair traphont reilffordd yn croeso’r afon, yn Irthlingborough, Thrapston, Wansford a Wellingborough.[2].
Mae’r Goleudy Dwyrain a Goleudy Gorllewin yn sefyll ar lannau’r afon yn Long Sutton. Erbyn hyn, dydy cludiant ddim mor bwysig ar yr afon; mae gweithgareddau awyr agored megis pysgota a hwylio’n bwysicach.[2]
