Caerwynt
Jump to navigation
Jump to search
Dinas yn ne Lloegr yw Caerwynt (neu Caer-wynt, Saesneg: Winchester), canolfan weinyddol Hampshire. Mae'n ddinas hanesyddol sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol Caerwynt, a godwyd yn yr 11g ar safle eglwys gynharach. Fel prifddinas teyrnas Sacsonaidd Wessex a safle llys ei brenhinoedd, bu bron mor bwysig â Llundain yng nghyfnod yr Eingl-Sacsoniaid. Mae'n gartref yn ogystal i Goleg Caerwynt, ysgol gyhoeddus hynaf Lloegr, a sefydlwyd gan William o Wykeham yn 1382. Mae gan y ddinas boblogaeth o tua 40,000. Saif ar lan afon Itchen. Bu farw'r nofelydd Jane Austen yng Nghaerwynt.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Castell Caerwynt
- Castell Wolvesey
- Palas Wolvesey
- Ysbyty St Cross
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Yr Ymerodres Matilda (1102-1167), ganed yn y ddinas yn Chwefror 1102 (yn ôl pob tebyg)
- John Lingard (1771-1851), hanesydd
- Colin Firth (g. 1960), actor