Sacsoniaid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweddillion sacs (uchod) ac atgynhyrchiad (isod)

Yn wreiddiol, roedd y Sacsoniaid yn bobl niferus a nerthol oedd yn byw yn yr ardaloedd sydd yn yr Almaen a'r Iseldiroedd heddiw. Roedd Ptolemi yn sôn amdanynt pan yn siarad am Jutland (rhan o Ddenmarc heddiw) a'r ardal sydd yn Schleswig-Holstein, y talaith mwyaf gogleddol yr Almaen heddiw. Mae'n ymddangos fod yr enw Sacson yn dod o'r sacs (Hen Sacsoneg sahs, Hen Saesneg seax), math o gleddyfan unfin yr oeddynt yn ei defnyddio.

Y Sacsoniaid ym Mhrydain[golygu | golygu cod y dudalen]

Mamwledydd posibl y Sacsoniaid, yr Eingl a'r Jiwtiaid cyn iddynt ddod i Brydain.

Aeth rhai Sacsoniaid ynghyd ag Angliaid (h.y. yr Eingl), Jiwtiaid a Ffrisiaid i Brydain yn ystod yr Oesodd Canol Cynnar. Roedd teyrnasoedd y Sacsoniaid yn ne-ddwyrain Lloegr, ac enw'r Sacsoniaid sydd wedi ei gadw hyd heddiw yn Essex, Sussex a Wessex (sef teyrnasoedd y Sacsoniaid Dwyreinol, y Sacsoniaid Deheuol a'r Sacsoniaid Gorllewinol). Yn ddiweddarach daeth y Sacsoniaid, yr Eingl ac eraill yn un genedl, a defnyddir yr enw 'Eingl-Sacsoniaid' amdanynt. Ymhen amser unwyd Lloegr yn un deyrnas. Daw'r enw Cymraeg Sais ~ Saeson, fel y gair am y Saeson yn yr ieithoedd Celtaidd eraill, o'r enw Lladin Saxō (un.) ~ Saxones (ll.) 'Sacson(iad)'. Mae eu henw amdanynt eu hunain, English, yn dod o'r enw 'Angliaid' (Eingl).

Y Sacsoniaid yn yr Almaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar y cyfandir yn ystod y 8g codwyd Dugiaeth y Sacsoni. Roedd y Sacsoniaid yn amharod i dderbyn Cristnogol am amser hir, ond gorfododd Siarlymaen (772-804) hwy i ddod yn Gristionogion ar ôl eu gorchfygu mewn rhyfel a lladd llawer ohonynt. Dinistriwyd Irminsul eu coeden sanctaidd.

Talaith Sacsoni Isaf yn yr Almaen gyfoes

O dan reolaeth y Carolingiaid roedd rhaid i'r Sacsoniaid talu teyrnged, fel y bobloedd Slafiaidd, megis yr Abodrites a'r Wendiaid. Beth bynnag, daeth Sacson i fod yn frenin hefyd (Harri yr Adarwr ym 919) ac yn ystod y 10g daeth Sacson yn ymerawdwr cyntaf yr Almaen (Otto I Fawr). Daeth ei rheolaeth i ben ym 1024 a rhanwyd y wlad ym 1180 pan oedd Harri y Llew, ei ŵyr, yn gwrthod dilyn yr ymerawdwr Ffredrig Barbarossa i frwydro yn yr Eidal.

Mae ardal o'r enw Sacsoni yn ne-ddwyrain yr Almaen. Cafodd yr ardal hon ei henw pan gipiodd yr ardalydd Meissen diriogaeth y Sacsoniaid ym 1423 a newidiodd ef enw y cyfan o'i diriogaethau o'r ‘Ardalyddiaeth Meissen’ (Markgrafschaft Meißen) i'r ‘Etholyddiaeth y Sacsoni’ (Kurfürstentum Sachsen) am fod y teitl Etholydd Tywysogol y Sacsoniaid yn swnio'n fwy nerthol na'i deitl gwreiddiol. Oherwydd hyn nid yw'r ‘Sacsoniaid’ modern, yn yr ysytyr o drigolion Sacsoni, yn cyfateb yn union i'r hen lwyth.

Heddiw, mae gan dair o daleithiau'r Almaen yr enw ‘Sacson’ yn rhan o'u henwau nhw: Sacsoni Isaf yn y gogledd-orllewin, Sachsen Anhalt yn y canolbarth a Sacsoni yn y de-ddwyrain.