Ieithoedd Celtaidd

Oddi ar Wicipedia
Celteg
Dosraniad
daearyddol:
Siaredid hwy'n eang ar draws Ewrop, ond erbyn heddiw yn Ynysoedd Prydain, Llydaw, Patagonia a Nova Scotia
Dosraniad Ieithyddol: Indo-Ewropeaidd
 Celteg
Israniadau:
ISO 639-2 a 639-5: cel

Mae'r ieithoedd Celtaidd yn tarddu o Gelteg (hefyd ‘Celteg Cyffredin’), cangen orllewinol o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Defnyddiwyd y term "Celteg" gyntaf i ddisgrifio'r grŵp hwn o ieithoedd gan Edward Lhuyd ym 1707.[1]

Siaredir yr ieithoedd Celtaidd yn bennaf ar ymylon gorllewin Ewrop, yn enwedig yng Nghymru, yr Alban, Iwerddon, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw, ac fe'u ceir ar Ynys Cape Breton yng Nghanada ac yng Ngwladfa Patagonia yn yr Ariannin. Gellir cael hyd i rai sy'n siarad yr ieithoedd mewn ardaloedd y bu siaradwyr ieithoedd Celtaidd yn ymfudo iddynt hefyd, fel yr Unol Daleithiau,[2] Canada, Awstralia,[3] a Seland Newydd.[4] Yn yr ardaloedd hyn i gyd, gan leiafrif o bobl y siaredir yr ieithoedd Celtaidd, er bod ymdrechion i'w hadfywio. Y Gymraeg yw'r unig iaith nad yw UNESCO yn ei dosbarthu'n iaith mewn perygl.

Yn ystod y mileniwm cyntaf CC, fe siaredid yr ieithoedd Celtaidd ar draws Ewrop, ar yr Orynys Iberaidd, o lannau Môr Iwerydd a Môr y Gogledd, drwy ddyffrynnoedd Rhein a Donwy hyd at y Môr Du, Gorynys Uchaf y Balcanau ac yng Ngalatia yn Asia Leiaf. Aeth Gaeleg yr Alban i Ynys Cape Breton a'r Gymraeg i Batagonia yn ystod y cyfnodau modern. Câi ieithoedd Celtaidd, yn enwedig yr Wyddeleg, eu siarad yn Awstralia cyn y cyfuno ym 1901 ac maent yn cael eu defnyddio yna o hyd i ryw raddau.

Ieithoedd byw[golygu | golygu cod]

Rhestra Ethnologue chwe iaith Geltaidd "fyw", lle mae pedair ohonynt wedi dal gafael ar nifer sylweddol o siaradwyr brodorol, sef: y Gymraeg a'r Lydaweg (a darddodd o'r Frythoneg) a'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban a darddodd o Aeleg cyffredin, a elwir yn Wyddeleg Fodern Gynnar (neu Wyddeleg Clasurol).

Siaradwyd y ddwy iaith arall, y Gernyweg a'r Fanaweg, hyd at y cyfnodau cynnar ond buont farw yn iaith gymunedol.[5][6][7] Ond bu mudiadau adfywiol i'r ddwy iaith sydd wedi dilyn i oedolion ddysgu'r iaith a hefyd siaradwyr plant brodorol.[8]

Ar y cyfan, roedd tua miliwn o siaradwyr brodorol o'r ieithoedd Celtaidd ers y 2000au.[9]

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Iaith Enw brodorol Dosbarth Nifer o siaradwyr brodorol Nifer o bobl sydd wedi caffael un neu ragor o sgiliau yn yr iaith Prif wlad/wledydd ymhle y siaredir yr iaith Rheolir gan/corff iaith
Cymraeg Cymraeg Brythonaidd Mae 562,000 (19.0% o boblogaeth Cymru) yn dweud eu bod yn "gallu siarad Cymraeg" yn ôl cyfrifiad 2011[10][11] Cyfanswm siaradwyr: ≈ 947,700 (2011)
Cymru: 788,000 siaradwr, pob gallu (26.7% o'r boblogaeth)[10][11]
Lloegr: 150,000[12]
Talaith Chubut, yr Ariannin: 5,000[13]
yr Unol Daleithiau: 2,500[14]
Canada: 2,200[15]
Cymru;
Y Wladfa, Chubut
Comisiynydd yr Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cymru
(Bwrdd yr Iaith Gymraeg gynt)
Gwyddeleg Gaeilge Goidelig 40,000–80,000[16][17][18][19]
Yn y Weriniaeth, mae 94,000 yn defnyddio'r Wyddeleg yn ddyddiol, y tu allan i'r byd addysg.[20]
1,887,437
Gweriniaeth Iwerddon:
1,774,437[20]
y Deyrnas Unedig:
95,000
yr Unol Daleithiau:
18,000
Iwerddon Foras na Gaeilge
Llydaweg Brezhoneg Brythonaidd 226,000 (2018) 206,000[21] Llydaw Ofis ar Brezhoneg
Gaeleg Gàidhlig Goidelig 58,552 yn 2001[22] yn ogystal ag amcangyfrif o 400–1000 o siaradwyr brodorol ar Ynys Cape Breton[23][24] 92,400[25] Yr Alban Bòrd na Gàidhlig
Cernyweg Kernewek Brythonaidd 600[26] 3,000[27] Cernyw Keskowethyans an Taves Kernewek
Manaweg Gaelg Goidelig 100,[28] gan gynnwys nifer bach o blant sydd yn siaradwyr brodorol newydd[29] 1,700[30] Ynys Manaw Coonceil ny Gaelgey

Ieithoedd cymysg[golygu | golygu cod]

Celteg Ynysig[golygu | golygu cod]

Rhennir yr ieithoedd Celtaidd gorllewinol, neu Ynysig, yn ddau deulu neu gangen o Gelteg Ynysig:

Goideleg[golygu | golygu cod]

Mae tair iaith yn deillio o'r Goideleg, a elwir weithiau'n Gelteg Q, sef:

Brythoneg[golygu | golygu cod]

Mae tair iaith yn deillio o'r Frythoneg, a elwir weithiau'n Gelteg P, sef:

Gweler hefyd:

  • Cymbreg, tafodiaith gynnar o'r Frythoneg yn ardal Cumbria a'r Hen Ogledd. Mae ei statws ieithyddol - fel iaith neu dafodiaith - yn ddadleuol.

Celteg y Cyfandir[golygu | golygu cod]

Roedd Celteg y Cyfandir neu Gelteg Gyfandirol yn cynnwys sawl iaith a thafodiaith Celteg a siaredid ar gyfandir Ewrop a rhan o Asia Leiaf, yn cynnwys,

Geiriau a fenthyciwyd o'r Gelteg drwy'r Lladin i'r Saesneg[golygu | golygu cod]

Benthyciwyd:[34]

Galeg Lladin Saesneg
ambactos ambactus ambassador
beccos beccus beak
bulgā bulga bilge (gwaelod cwch)
brennos drwy'r Ffrangeg 'bren' bran
bragos drwy'r Gatalaneg 'brau' brave
bulgā bulga budget
karros carrum, carrus car
crāmum drwy'r Ffrangeg cresme creme
kamb cambire change
ambactos ambasciata embassy
glanos glennare to glean (casglu)
vorēdos verēdus / paraverēdus palfrey (ceffyl)
trougo truant truant
wasso vassallus vassal (gwas)


Rhai Geiriau Celtaidd[golygu | golygu cod]

Rhifau

Cymraeg un dau tri pedwar pump chwech saith wyth naw deg
Llydaweg unan daou tri pevar pemp c'hwec'h seizh eizh nav dek
Gwyddeleg aon trí ceathair cúig seacht ocht naoi deich
Gaeleg yr Alban aon trì ceithir còig sia seachd ochd naoi deich

Lliwiau

Cymraeg lliw du glas brown gwyrdd llwyd oren coch gwyn melyn
Llydaweg liv du glas gell gwer louet liv-orañjez ruz gwenn melen
Gwyddeleg dath dubh gorm donn uaine, glas liath, glas oráiste, flann-bhui dearg bán buí
Gaeleg yr Alban dath dubh gorm donn uaine glas, liath orains dearg geal buidhe

Anifeiliaid

Cymraeg arth cath buwch ci gafr ceffyl llygoden dafad blaidd pysgodyn
Llydaweg arzh kazh buoc'h ki gavr marc'h logodenn dañvad bleiz pesk
Gwyddeleg béar cat madra, madadh, gadhar, cú gabhar capall, each luch caora mac-tíre iasc
Gaeleg yr Alban mathan cat bò, mart cù, madadh gobhar each luch caora madadh-allaidh iasc

Rhagenwau

Cymraeg fi, i ti fe, e hi ni chi nhw
Llydaweg me te hi ni c'hwi int
Gwyddeleg sé, é sí, í muid, sinn sibh iad
Gaeleg yr Alban mi thu e i sinn sibh iad

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cunliffe, Barry W. 2003. The Celts: a very short introduction. tud.48
  2. "Language by State - Scottish Gaelic" Archifwyd 2012-01-11 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Modern Language Association. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  3. "Languages Spoken At Home" o wefan Llywodraeth Awstralia Office of Multicultural Interests. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
  4. Languages Spoken:Total Responses o wefan Statistics New Zealand. Adalwyd 5 Awst 2008
  5. Koch, John T. (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn en). ABC-CLIO, tud. 34, 365–366, 529, 973, 1053. URL
  6. (Saesneg) A brief history of the Cornish language. Maga Kernow.
  7. Beresford Ellis, Peter (1990, 1998, 2005). The Story of the Cornish Language (yn en). Tor Mark Press, tud. 20–22. ISBN 0-85025-371-3
  8. 'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC (en) , BBC/British Council website, BBC. Cyrchwyd ar 9 Chwefror 2010.
  9. (Saesneg) Celtic Languages. Ethnologue.
  10. 10.0 10.1 "Welsh language skills by local authority, gender and detailed age groups, 2011 Census". Gwefan StatsWales. Llywodraeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2015.
  11. 11.0 11.1 "Office for National Statistics 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2013.
  12. United Nations High Commissioner for Refugees. "World Directory of Minorities and Indigenous Peoples – UK: Welsh". UNHCR. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mai 2011. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  13. "Wales and Argentina". Wales.com website. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2012. Cyrchwyd 23 Ionawr 2012.
  14. "Table 1. Detailed Languages Spoken at Home and Ability to Speak English for the Population 5 Years and Over for the United States: 2006–2008 Release Date: April 2010" (xls). United States Census Bureau. 27 Ebrill 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2014. Cyrchwyd 2 Ionawr 2011.
  15. "2006 Census of Canada: Topic based tabulations: Various Languages Spoken (147), Age Groups (17A) and Sex (3) for the Population of Canada, Provinces, Territories, Census Metropolitan Areas and Census Agglomerations, 2006 Census – 20% Sample Data". Statistics Canada. 7 Rhagfyr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2011. Cyrchwyd 3 Ionawr 2011.
  16. "| Irish Examiner". Archives.tcm.ie. 2004-11-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-01-19. Cyrchwyd 2011-08-19.
  17. Christina Bratt Paulston. Linguistic Minorities in Multilingual Settings: Implications for Language Policies. J. Benjamins Pub. Co. t. 81. ISBN 1-55619-347-5.
  18. Pierce, David (2000). Irish Writing in the Twentieth Century. Cork University Press. t. 1140. ISBN 1-85918-208-9.
  19. Ó hÉallaithe, Donncha (1999). Cuisle.
  20. 20.0 20.1 Central Statistics Office, 'Census 2011 - This is Ireland - see table 33a'www.cso.ie
  21. (Ffrangeg) Données clés sur breton, Ofis ar Brezhoneg
  22. "UNESCO Atlas of the World's Languages in Danger, 2010". Unesco.org. Cyrchwyd 2011-08-19.
  23. "CHIN/RCIP – Festivities". Virtualmuseum.ca. 1999-04-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-16. Cyrchwyd 2011-08-19.
  24. "de beste bron van informatie over highlandclearances. Deze website is te koop!". highlandclearances.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-12. Cyrchwyd 2011-08-19.
  25. "Mixed report on Gaelic language". BBC News. 2005-10-10. Cyrchwyd 2011-08-19.
  26. mae rhyw 600 o blant yn siaradwyr brodorol dwyieithog (amcangyfrif 2003, SIL Ethnologue).
  27. Tua 2,000 o siaradwyr rhugl."'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC". BBC/British Council website. BBC. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-08. Cyrchwyd 2010-02-09.
  28. "Anyone here speak Jersey?". Independent.co.uk. 2002-04-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-20. Cyrchwyd 2011-08-19.
  29. "Documentation for ISO 639 identifier: glv". Sil.org. 2008-01-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-28. Cyrchwyd 2011-08-19.
  30. "2006 Official Census, Isle of Man". Gov.im. 2006-04-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-29. Cyrchwyd 2011-08-19.
  31.  Shelta. Ethnologue.
  32. Bakker a Grant, Peter a P. (2006). Atlas of Languages of intercultural communication in the Pacific, Asia, and the Americas. "Interethnic Communication in Canada, Alaska, and adjacent areas". Saskatoon, Canada: Gabriel Dumont Institute. ISBN 0920915809URL
  33. "ROMLEX: Romani dialects". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-28. Cyrchwyd 2011-04-28.
  34. www.eupedia.com; adalwyd 19 Ionawr 2015
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Llydaweg ·Cernyweg ·Cymraeg |Gwyddeleg ·Manaweg ·Gaeleg
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.