Yr Ariannin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Yr Ariannin
Coat of arms of Argentina.svg
Arwyddair Beats to your rhythm Edit this on Wikidata
Math gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
LL-Q5146 (por)-NMaia-Argentina.wav, Lb-Argentinien.ogg Edit this on Wikidata
Prifddinas Buenos Aires Edit this on Wikidata
Poblogaeth 44,938,712 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 9 Gorffennaf 1816 Edit this on Wikidata
Anthem Argentine National Anthem Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Alberto Fernández Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol America Ladin, Y gwedydd ABC, De America, De De America, America Sbaenig Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Ariannin Yr Ariannin
Arwynebedd 2,780,400 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Bolifia, Brasil, Tsile, Paragwâi, Wrwgwái Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 34°S 64°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Government of Argentina Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Argentine National Congress Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of Argentina Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Alberto Fernández Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
President of Argentina Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Alberto Fernández Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 637,590 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 14,398 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian Argentine peso Edit this on Wikidata
Wrth gefn 55,314,409,205 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 8.9 ±0.1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 2.322 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.825 Edit this on Wikidata

Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina "Cymorth – Sain" ynganiad ) neu'r Ariannin yn wlad yn ne-ddwyrain De America. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Wrwgwái, Brasil, Paragwâi, Bolifia a Tsile. Sbaeneg yw'r iaith swyddogol. Mae'r enwau Sbaeneg a Chymraeg yn dod o'r Lladin argentum ("arian"), metel gwerthfawr a anogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd. Gelwir person a anwyd yn yr Ariannin yn Archentwr.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif Erthygl: Hanes yr Ariannin

Ceir olion y trigolion cyntaf yn y tiroedd sy'n awr yn ffurfio yr Ariannin yn rhan ddeheuol Patagonia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth gogledd-orllewin o wlad yn rhan o ymerodraeth yr Inca yn ail hanner y 15g, a ceir y cofnodion cynharaf yn ffurf quipu yn y cyfnod hwnnw.

Dechreuodd hanes ysgrifenedig y wlad gyda dyfodiad yr Ewropeaid i'r rhanbarth yn gynnar yn yr 16g. Y cyntaf i gyrraedd yno oedd y Sbaenwr Juan Díaz de Solís a'i ŵyr yn 1516.

Yn 1776 sefydlodd y Sbaenwyr y Virreinato del Río de la Plata o nifer o diriogaethau blaenorol. Wedi Gwrthryfel Mis Mai yn 1810, sefydlwyd nifer o wladwriaethau annibynnol, yn cynnwys un yn dwyn yr enw Provincias Unidas del Río de la Plata. Cyhoeddwyd annibyniaeth ar 9 Gorffennaf 1816, a gorchfygwyd y Sbaenwyr mewn brwydr yn 1824. Sefydlwyd Gweriniaeth yr Ariannin rhwng 1853 a 1861,

Roedd adegau o groestyniad gwleidyddol rhwng y ceidwadwyr a'r rhyddfrydwyr, ac rhwng ymbleidiau sifil a milwrol. ar ôl yr Ail Rhyfel y Byd gwelwyd dyrchafiad y mudiad poblogol Peronistaidd. Roedd juntas gwaedlyd bob yn ail efo llywodraethau democratig tan 1983, yn dilyn problemau economaidd mawr, a'r trechiad yn Rhyfel y Falklands.

Ers dymchwel y junta milwrol ym 1983, mae pedwar etholiad rhydd wedi cadarhau lle'r Ariannin fel gweriniaeth ddemocrataidd, er gwaethaf gwaethygiad economaidd difrifol yn 2001 a dechrau 2002.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth yr Ariannin

Mae cyfansoddiad yr Ariannin, sydd yn dyddio o 1853 (wedi'i ddiwygio yn 1994), yn gwahanu nerthoedd y canghennau gweithredol, deddfwriaethol a barnwrol ar y lefelau cenedlaethol a thaleithiol. Ni all yr arlywydd na'r is-arlywydd gael eu hethol am fwy na dau dymor o bedair blynedd yn olynol. Gellir sefyll am drydydd tymor neu fwy ar ôl egwyl o un tymor neu fwy. Mae'r arlywydd yn penodi gwenidogion y llywodraeth ac mae'r cyfansoddiad yn rhoi llawer o rym iddo fe fel pennaeth y wladwriaeth a phennaeth y llywodraeth, yn cynnwys yr awdurdod i wneud cyfreithiau trwy ddyfarniad arlywyddol pan fo amodau "pwysig ac anghenrheidiol".

Senedd yr Ariannin yw'r Gyngres Genedlaethol dwy siambr, neu'r Congreso Naciónal, sy'n cynnwys y senedd (y Senado) o 72 o seddi a Siambr Dirpwyon (y Cámara de Diputados) o 257 o aelodau. Ers 2001 mae pob talaith, gan gynnwys y Brifddinas Ffederal, yn ethol 3 seneddwr. Mae'r Seneddwyr yn cael eu ethol am dymor o 6 blynedd, gydag etholiadau am draean o'r Senedd pob dwy flynedd. Mae aelodau Siambr y Dirpwyon yn cael eu hethol am 4 blynedd, a hanner y Siambr yn cael ei ethol bob dwy flynedd.

Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Salta.

Prif Erthygl: Taleithiau'r Ariannin

Mae gan yr Ariannin 23 talaith (provincias, unigol provincia), ac un rhanbarth ffederal (distrito federal; a nodir gyda *)

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif Erthygl: Daearyddiaeth yr Ariannin

Map yr Ariannin

Gellir rhannu'r Ariannin yn dri darn: gwastadedd ffrwythlon y Pampas dros hanner gogleddol y wlad, calon cyfoeth amaethyddol yr Ariannin; y llwyfandir Patagonia yn hanner de'r wlad ac yn ymestyn i lawr i ynys Tierra del Fuego; a mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin.

Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Tsile ac Ariannin, Y mynydd uchaf yw Aconcagua, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr – y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia.

Mynyddoedd uchaf yr Ariannin yw:

Mae'r prif afonydd yn cynnwys y Paragwâi, Bermejo, Colorado, Wrwgwái a'r hwyaf, y Paraná. Mae'r ddwy olaf yn ymuno â'i gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y Río de la Plata (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn dymherus gan fwyaf, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y de pell.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif Erthygl: Economi'r Ariannin

Mae gan yr Ariannin adnoddau naturiol gwerthfawr, poblogaeth wybodus iawn, amaeth da, a sylfaen ddiwydiannol amrywiol. Fodd bynnag, yn y 1980au hwyr bu dyledion rhyngwladol yr Ariannin yn codi'n enfawr, a graddfa chwyddiant wedi cyrraedd 200% y mis, a cynnyrch economaidd yn syrthio. I wella'r argyfwng economaidd, dechreuodd y llywodraeth ar ffordd i rhyddfrydoli masnach, di-rheoli, a preifateiddio. Yn 1991 daeth y peso eu sefydlu i'r Doler Americanaidd.

Roedd y diwygiadau yn llwyddiannus yn y dechrau, ond roedd argyfyngau economaidd hwyrach yn Mecsico, Asia, Rwsia a Brasil yn gwaethygu pethau o 1999 i flaen. Yn 2001 dymchwelodd y system bancio, ac roedd y peso yn nofio yn erbyn y doler ers Chwefror 2002. Ers hynny mae'r sefyllfa economaidd wedi gwella'n sylweddol.

Demograffaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif Erthygl: Demograffaeth yr Ariannin

Mae pobl yr Ariannin yn dod o lawer o grwpiau cenedlaethol ac ethnig, gyda disgynyddion pobl o'r Eidal a Sbaen yn y mwyafrif. Mae tua 500,000 o bobl o'r Canol Ddwyrain (Syria, Libanus, a gwledydd eraill) yn byw yn y dinasoedd. Y Sbaeneg yw'r unig iaith swyddogol.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant yr Ariannin

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llên yr Ariannin
José Hernández, awdur y llyfr Martín Fierro.

Daeth llenyddiaeth yr Ariannin i sylw rhyngwladol yn rhan olaf y 19g gyda chyhoeddi'r llyfr Martín Fierro gan José Hernández. Cyfieithwyd y llyfr yma i dros 70 iaith. Ymhlith prif lenorion yr 20g mae Jorge Luis Borges, Julio Cortázar a Juan Gelman, ill tri ymhlith awduron Sbaeneg pwysicaf yr 20g.

Cyhoeddwyd cryn dipyn o lenyddiaeth Gymraeg gan drigolion y Wladfa hefyd. Yr enwocaf o lenorion y Wladfa yw Eluned Morgan ac R. Bryn Williams.

Cerddoriaeth a dawns[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth y tango yn enwog fel dull o ddawnsio ac arddull cerddorol, gyda Buenos Aires fel canolbwynt. Gelwir Carlos Gardel yn "Frenin y Tango".

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon yn yr Ariannin. Enillodd y tîm cenedlaethol Gwpan Pêl-droed y Byd yn 1978 a 1986. Y mwyaf adnabyddus o bêl-droedwyr y wlad yw Diego Armando Maradona.

Mae bocsio hefyd yn boblogaidd, ac mae mwy na 30 o Archentwyr wedi dal pencampwriaeth y byd. Enillodd yr Ariannin bencampwriaeth pêl-fasged y byd yn 1950. Cafwyd cryn lwyddiant mewn tenis hefyd, gyda Guillermo Vilas a Gabriela Sabatini yn nodedig. Daeth Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin yn drydydd yng Nghwpan y Byd yn 2007. Enw adnabyddus arall ym maes chwaraeon yw'r gyrrwr Fformiwla Un Juan Manuel Fangio, a enillodd bencampwriaeth y byd bum gwaith yn y 1950au.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]


Taleithiau'r Ariannin Baner yr Ariannin
Dinas Ffederal | Buenos Aires | Catamarca | Chaco | Chubut | Córdoba | Corrientes | Entre Ríos | Formosa | Jujuy | La Pampa | La Rioja | Mendoza | Misiones | Neuquén | Río Negro | Salta | San Juan | San Luis | Santa Cruz | Santa Fe | Santiago del Estero | Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd De'r Iwerydd | Tucumán