Arwba

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ynys ym Môr y Caribî sy'n perthyn i Deyrnas yr Iseldiroedd yw Arwba. Fe'i lleolir 27 km i'r gogledd o Orynys Paraguaná yn Feneswela. Mae ynysoedd Curaçao a Bonaire yn gorwedd i'r dwyrain; adwaenir y tair ynys fel yr Ynysoedd ABC. Roedd Arwba'n rhan o Antilles yr Iseldiroedd tan 1986. Mae gan yr ynys hinsawdd sych a heulog sy'n denu llawer o dwristiaid.

Oranjestad, prifddinas Arwba
Caribe-geográfico.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Caribî. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato