Ciwba

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cuba
Coat of arms of Cuba.svg
Flag of Cuba.svg
Arwyddair Fe Orchfygwn Angau neu Famwlad Edit this on Wikidata
Math gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Prifddinas La Habana Edit this on Wikidata
Poblogaeth 11,265,629 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 20 Mai 1902 (annibyniaeth oddi wrth UDA)
(datganiad)
Anthem La Bayamesa Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Miguel Díaz-Canel Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Santa Fe Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol America Ladin, America Sbaenig Edit this on Wikidata
Arwynebedd 109,884 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 22°N 79.5°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Pwer y Bobl Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Ciwba Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Miguel Díaz-Canel Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Ciwba Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Miguel Díaz-Canel Edit this on Wikidata
CAN orthographic.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 87,133 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 8,433 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian peso (Ciwba), peso cyfnewidiol (Ciwba) Edit this on Wikidata
Wrth gefn 144,018,160 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 3 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.615 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.769 Edit this on Wikidata

Gwlad yn Ynysoedd y Caribî yw Gweriniaeth Ciwba (Sbaeneg: República de Cuba). Lleolir Ciwba i'r de o'r Unol Daleithiau, i'r gorllewin o Haiti a'r Ynysoedd Turks a Caicos, i'r gogledd o Jamaica a'r Ynysoedd Caiman ac i'r dwyrain o Fexico. Ciwba yw'r ynys fwyaf ym Môr y Caribî. Y brifddinas yw La Habana (Havana).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir pedwar cyfnod yn hanes Ciwba. Y cyntaf yw'r cyn-drefedigaethol tra oedd yr ynys yn perthyn i bobl Amerindiaid sef y Taíno a'r Ciboney. Yr ail gyfnod yw'r Giwba drefedigaethol, a ddechreuwyd ym 1492, efo dyfodiad Christopher Columbus arosodd yn goloni Sbaen, tan y rhyfel efo UDA y Rhyfel Sbaenaidd–Americanaidd ym 1898. Y trydydd cyfnod yw Gweriniaeth Ciwba, daeth annibyniaeth o ryw fath yn 1902, ond roedd milwyr UDA yn bresennol o leiaf unwaith bob degawd. Y pedwerydd cyfnod yw ers Chwyldro Ciwba ym 1959 a arweinwyd gan Fidel Castro pan ddaeth Ciwba yn weriniaeth sosialaidd.

Ciwba gyn-drefedigaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ciwba drefedigaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

1400au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1492 28 Hydref - Christopher Columbus yn glanio ar ddwyrain Ciwba.
  • 1494 Columbus yn hwylio heibio'r ynys.

1500au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1508 Sebastián de Ocampo yn hwylio rownd yr ynys i gyd. Felly yn dangos ei bod hi'n ynys.
  • 1510 Concwest o Giwba o ynys Hispaniola. (Haiti a'r Weriniaeth Dominican).
  • 1511 Diego Velázquez de Cuéllar yn sefydlu dref Baracoa.
  • 1512 Llosgi Hatuey arweinydd Indiaid (o Haiti yn wreiddiol).
  • 1514 Sefydlu Havana.
  • 1523 Ymerawdwr Siarl V yn cynnig 4,000 darn aur i hybu cynhyrchu cotwm.
  • 1527 Caethion Du cyntaf yn cyrraedd.
  • 1532 Gwrthryfel y Caethion Du cyntaf.
  • 1537 Ffrancwyr yn cipio Havana.
  • 1538 Ail wrthryfel y Caethion Du.
  • 1555 Ffrancwyr yn cipio a dinistrio Havana.
  • 1586 Y môrleidr Francis Drake yn glanio ger Cabo San Antonio
  • 1597 Cwblhau Castillo del Morro ger harbwr Havana.

1600au[golygu | golygu cod y dudalen]

Twf araf mewn masnach, mae Hispaniolo yn dominyddu'r masnach Caribi. Twf dylanwad Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn y Caribi. Aur yn cael ei allforio i Sbaen o Dde America i gyd i fynd drwy Hafana - mewn Fflotila enfawr rhag y morleidr.

  • 1603 Cyfreithiau llym yn erbyn masnach tobaco â phobl tramor (Ffrainc a Lloegr).
  • 1607 Havana yn brifddinas Ciwba.
  • 1628 Iseldirwyr dan Piet Heyn yn dwyn tresor aur y "Morlu Sbaeneg" yn harbwr Havana
  • 1649 Pla yn lladd traean y boblogaeth.
  • 1662 Morlu Saesneg dan Christopher Myngs yn cipio Santiago de Ciwba a mynnu hawliau masnachol efo Jamaica
  • 1670 Sbaen yn ildio Jamaica i Loegr yn barhaol.

1700au[golygu | golygu cod y dudalen]

Prydain yn ymyrru ar yr ynys ac yn dod a Florida i'r ymerodraeth Prydeinig. Dylanwad y chwyldro Americanaidd ar yr ynys.

1800au[golygu | golygu cod y dudalen]

UDA yn ysgogi annibyniaeth a gwrthryfel yn yr ynys, Sbaen yn ildio Ciwba i'r UDA.

  • 1812 Juan Ruíz de Apodaca yn llwyodraethu Ciwba 1812-16.
  • 1843 Leopoldo O'Donnell, Dug Tetuan yn llwyodraethu Ciwba 1843-48.
  • 1844 Gwrthryfel y Caethion Du Blwyddyn y llach yn dod i ben wedi gorthrymu caled ar y boblogaeth ddu
  • 1853 28 Ionawr - Ganwyd José Julián Martí Pérez yn Havana.
  • 1868-78 Rhyfel annibyniaeth cyntaf Ciwba - yn para degawd cyfan
  • 1879 Awst - Ail rhyfel annibyniaeth sy'n dod i ben erbyn 1880.
  • 1886 Diwedd caethwasiaeth yng Nghiwba
  • 1895 23 Chwefror - Gwrthryfel gwyn Ciwba dan José Martí a Máximo Gómez y Báez.
  • 1896 Gwrthryfel yn llwyddo ond Sbaen yn elwa o Winston Churchill - yn ymladd ar ei hochr hi.
  • 1898
    • 6 Mehefin - cipio Bai Guantánamo gan milwyr Americanaidd a Chiwbaidd fel rhan o'r Rhyfel Sbaen-America.
    • 10 Rhagfyr - Cytundeb Paris yn dod a'r Rhyfel Sbaen-America i ben gyda 'annibyniaeth' i Giwba.
  • 1899
    • 1 Ionawr - Sbaen yn idlio pwer i'r 'North American Military Governor', Cadfridog John Ruller Brooke.
    • 23 Rhagfyr - Leonard Wood yn Llywodraethwr dros dro'r UDA i Giwba

Gweriniaeth Ciwba[golygu | golygu cod y dudalen]

1900au[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwyldro a'r Giwba Sosialaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

1950au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1952 Mawrth - Cadfridog Batista, yn cymryd grym unwaith eto.
  • 1953
  • 1954
    • Medi - Che Guevara yn cyrraedd o Ddinas Mecsico.
    • Tachwedd - Batista yn cael ei 'ethol' mewn etholliad un dyn.
  • 1955 Mai - Rhyddhau Fidel dan amnest gan Batista.
  • 1956
  • 1957
    • 13 Mawrth - Myfyrwyr yn ymosod ar Balas y Llywydd Havana.
    • 28 Mai - Castro yn cymryd El Uvero.
    • 5 Medi - Gwrthryfel gan y llynges yn Cienfuegos ond Batista yn dal ei rym.
  • 1958
    • Chwefror - Raúl Castro yn dechrau rhyfel gwrila yn y Sierra de Cristal.
    • 13 Mawrth - UDA yn atal cyflenwi milwyr Batista.
    • 9 Ebrill - Streic Cyffredinol
    • Mai - Batista syn anfon 10,000 i'r Sierra Maestra rhag Castro 300, Castro yn colli.
    • Tachwedd - Castro yn ennill dref Guisa ac wedyn talaith Oriente.
    • Rhagfyr - Guevara, William Alexander Morgan yn ymosod ar Santa Clara ac ennill
    • 31 Rhagfyr - Camilo Cienfuegos yn ennill Yaguajay, a Huber Matos yn cymryd Santiago dros Castro
  • 1959

1960au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1960
    • 17 Mawrth - Dwight Eisenhower yn gofyn i'r CIA hyfforddu milwyr Ciwba ar gyfer ymosod ar Giwba.
    • 5 Gorffennaf - Gwladoli holl eiddio UDA.
    • 19 Hydref - Embargo UDA rhag Ciwba yn dechrau.
    • 26 Rhagfyr - Operation Peter Pan yn cymryd 14,000 o blant o Giwba i'r UDA.
  • 1961
    • 1 Ionawr - Y cynllun llythrenedd.
    • 15 Ebrill - glaniad Bay of Pigs yn methiant i'r gwrth-gomiwnyddwyr
    • Embargo llawn UDA ar Giwba.
  • 1962
    • 17 Awst - Central Intelligence Agency yn awgrymu bod yr Undeb Sofietaidd yn adeiladu bas taflegrau yng Nghiwba.
    • 29 Awst - John F. Kennedy yn dweud: "I'm not for invading Cuba at this time... an action like that... could lead to very serious consequences for many people."
Central Havana
    • 16 Hydref - McGeorge Bundy yn dweud wrth President Kennedy bod "Soviet medium-range ballistic missiles are in Ciwba".
    • 23 Hydref - Blocâd môr ac awyr a bygythiad ymosod niwclear gan UDA, tasai taflegrau yn dod o Giwba.
    • 28 Hydref - Khrushchev yn cytuno gwaredu'r taflegrau o Giwba a'r UDA yn cytuno nid i oresgyn Ciwba.
    • 21 Tachwedd - diwedd y blocâd.
  • 1967
  • 1968
    • Mawrth - cau bob bar yn Nghiwba.

1970au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1972 Ciwba yn aelod o COMECO.
  • 1975 Yr Undeb Sofietaidd yn anfon milwyr Ciwba i Angola.
  • 1976 2 Rhagfyr - Fidel Castro yn Arlywydd Ciwba.
  • 1977 May - 50 milwyr cyntaf Ciwba yn cyrraedd Ethiopia, bydd 12,00 yno yn y diwedd.

1980au[golygu | golygu cod y dudalen]

ffoaduriaid o Giwba Mariel Boat Lift 1980
  • 1980 Ebrill - Mariel Boat Lift. Llywodreth Ciwba yn caniatau pobl i adael - 125,000 yn ffoi i'r UDA
  • 1983 25 Hydref - UDA yn oresgyn Grenada a saethu yn erbyn milwyr o Giwba.
  • 1984 Ciwba yn lleihau milwyr yn Ethiopia i 3,000 o 12,000.
  • 1989 17 Medi - Milwyr Ciwba yn gadael Ethiopia.

1990au[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1990 23 Mawrth - UDA yn caniatáu sianel teledu gwrth-gomiwnyddol TV Marti
  • 1991
  • 1992 Gorffennaf - etholiadau uniongyrchol dan ddylanwad Ewrop.
  • 1993 6 Tachwedd - Caniatáu buddsoddi preifat.
  • 1996 12 Mawrth - Yr Helms-Burton Act, yn ymestyn embargo UDA i gwmniau tu allan i'r UDA e.e. rhai yn Ewrop.
  • 1998 21 Ionawr - Pab John Paul II yn ymweld â Chiwba.
  • 1999 5 Tachwedd - bachgen 6 oed Elián González yn dod i'r lan ar y Straits of Florida ac yn dod yn ganolbwynt y rhyfel propaganda.

2000au[golygu | golygu cod y dudalen]

Fidel Castro yn Brazil, 2003.
  • 2000 14 Rhagfyr - Vladimir Putin yn ymweld â Chiwba a llofnodi cytundebau newydd.
  • 2002
    • Ionawr - Bas olaf Rwsia yng Nghiwba, yn Lourdes, yn cau.
    • 12 Mai - Cyn Llywydd UDA Jimmy Carter yn ymweld â Chiwba.
  • 2003 Ebrill - Arestio 78 ysgrifennwyr a gwleidyddion yng Nghiwba
  • 2004 8 Tachwedd - Banio'r US dollar, a threth 10% ar gyfnewid dollar-peso .
  • 2005 7 Gorffennaf - Corwynt Dennis yn lladd 16.
  • 2006 31 Gorffennaf - Raúl Castro yn Llywydd dros dro wedi salwch Fidel.
  • 2008 19 Chwefror - Fidel Castro yn cadarnhau ei ymddeoliad.

Cymru a Chiwba[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymdeithas Cymru Ciwba[golygu | golygu cod y dudalen]

Grwp sy'n cefnogi pobl Ciwba ac ymgyrchu rhag ddylanwad UDA. Maen nhw'n rhan o ymgyrch byd eang i gefnogi Ciwba yn ymarferol. Maen nhw'n bresennol bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn weithgar iawn drwy Gymru. http://www.cymrucuba.co.uk/index

Harri Morgan a Chiwba[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y llyngesydd Syr Henry Morgan, sef Harri Morgan yn y Gymraeg (tua 1635–1688), yn forwr, a oedd yn un o ffigyrau enwocaf y Caribi. Roedd yr enwocaf a mywaf llwyddiannus o'r preifatwyr o Gymru. Yn 1667, cafodd gomisiwn gan Modyford iddo ysbeilio arfordir deheuol Ciwba ac i ddal ysbeinwyr fel gwystlon o Giwba i amddiffyn Jamaica. Cyrhaeddodd Ciwba a 10 llong a 500 dyn, cymerodd ac ysbeiliodd Morgan ddinas Puerto Principe, Camaguey. Roedd y cynllun gwreiddiol i ymosod ar Hafana ond roedd hyn yn ormod. Gyrrodd stormydd ei llongau i'r lan yn y De, a dihangodd un o'r wystlon, felly cafodd dinasyddion Puerto Principe amser i ddianc efo'i trysor. Enillodd ddim ond 50,000 pieces of eight. Aethon nhw ymlaen i ysbeilio tref cyfoethocaf y Caribi wedyn sef Porto Bello a chasglu 200,000 'pieces of eight'.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthyglau: Demograffeg Ciwba a Crefydd yng Nghiwba
Cyfrifiad Swyddogol 1899-2002 Ciwba
Hil % 1899 1907 1919 1931 1943 1953 1981 2002
Gwyn 66.9 69.7 72.2 72.1 74.3 72.8 66.0 65.05
Du 14.9 13.4 11.2 11.0 9.7 12.4 12.0 10.08
Tras cymysg 17.2 16.3 16.0 16.2 15.6 14.5 21.9 24.86
Asiaidd 1.0 0.6 0.6 0.7 0.4 0.3 0.1 1.0

Yn ôl cyfrifiad 2002, roedd y boblogaeth yn 11,177,743,

Roedd mewnfudo ac allfudo enfawr yng Nghiwba. Cyn y 18g roedd y boblogaeth hanner du a hanner gwyn, ond yn y bedwerydd ganrif ar bymtheg daeth mewnforio poblogaeth i weithio yn y diwyddiant siwgr a thobaco, caethion a rhyddion a'r rhan fwyaf yn bobl ddu o'r caribi ac affrica. Ond erbyn diwedd y ganrif a rhywfaint o annibyniaeth (dan hegemoni UDA a Phrydain) daeth mwy o ymsefydlwyr o Sbaen a'r Unol Daleithiau, yn nodweddiadol o'r Ynysoedd Dedwydd, Catalwnia, Andalwsia, Galisia ac o hen drefedigaethau Sbaen i Giwba. Rhwng 1900 a 1930 daeth bron miliwn o Sbaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]