Disgwyliad oes

Oddi ar Wicipedia
Disgwyliad bywyd yn 2005

Mewn demograffeg, disgwyliad bywyd yw'r nifer o flynyddoedd ychwanegol y gall unigolyn mewn grŵp arbennig, e.e. yn ôl oedran a rhyw, ddisgwyl byw, o ran tebygolrwydd ystadegol.

Dibynna'r ffigwr am ddisgwyliad bywyd ar y modd y dewisir y grŵp i'w fesur. Mewn rhai gwledydd tlawd, mae cyfran marwolaethau ymysg babanod yn uchel iawn, ac mae hyn yn gostwng y disgwyliad bywyd i'r holl boblogaeth yn sylweddol. O'r herwydd, weithiau defnyddir ffigwr gwahanol, er enghraifft disgwyliad bywyd y bobologaeth dros ddeg oed.

Yn ystod y canrifoedd diwethaf, mae disgwyliad bywyd wedi cynyddu'n sylweddol, i raddau helaeth oherwydd gwelliannau mewn iechyd cyhoeddus a thriniaeth feddygol. Gwelwyd yr effeithiau hyn fwyaf yn y gwledydd cyfoethocaf. Yn yr Unol Daleithiau yn 1901 roedd disgwyliad bywyd yn 49, ond erbyn diwedd y ganrif roedd yn 77, gwelliant o fwy na 50%. Yn India a Gweriniaeth Pobl Tsieina, roedd disgwyliad bywyd tua 40 yng nghanol yr 20g, ond tua 63 erbyn diwedd y ganrif.

Bu rhai eithriadau i'r cynnydd yma, yn arbennig yn y gwledydd yn rhan deheuol Affrica a effeithiwyd fwyaf gan AIDS. Yn Rwsia ac eraill o gyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd, gwelwyd gostyngiad mewn disgwyliad bywyd wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd.