Galisieg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Iaith romáwns sy'n perthyn yn agos i Bortiwgaleg a siaredir yng Nghymuned Ymreolaethol Galisia yw'r Galisieg (hefyd Galiseg neu Galego) a rhywfaint yn Asturias a Castile a León. Fel pob un o'r ieithoedd romáwns mae'n perthyn i'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn 2012 roedd 2.4 miliwn o bobl yn ei siarad (58% o boblogaeth Galisia).[1] Ceir llawer o eirfa Ieithoedd Germanaidd a Brythoneg ynddi.

Fel iaith swyddogol gyntaf Galisia, fe'i defnyddir yn helaeth ym meysydd gweinyddiaeth, addysgol a masnach yn y Gymuned ac fe'i haddysgir i bob plentyn.

O 2007 ymlaen, roedd hi'n bosib astudio Galisieg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wikipedia
Argraffiad Galisieg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd