Prifysgol Bangor

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Prifysgol Cymru, Bangor)
Jump to navigation Jump to search
Prifysgol Bangor
University from Bangor Mountain.JPG
Prif adeiladau Prifysgol Bangor
Arwyddair Gorau Dawn Deall
Sefydlwyd 1884
Math Cyhoeddus
Canghellor Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
Llywydd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, AC
Is-ganghellor Yr Athro John G Hughes
Myfyrwyr 14,020[1]
Israddedigion 8,500[1]
Ôlraddedigion 2,030[1]
Myfyrwyr eraill 3,490 Addysg bellach[1]
Lleoliad Bangor, Baner Cymru Cymru
Cyn-enwau Prifysgol Cymru, Bangor
Coleg Prifysgol Gogledd Cymru
Lliwiau coch a melyn
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Gwefan http://www.bangor.ac.uk

Prifysgol ym Mangor, Gwynedd, gogledd Cymru yw Prifysgol Bangor (cyn-enwau: Prifysgol Cymru, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru). Mae'n aelod-sefydliad o Brifysgol Cymru. Derbyniodd siarter Frenhinol yn 1885 ac roedd yn un o'r cyrff hynny a sefydlodd y Brifysgol ffederal. Cawsai ei hadnabod am y rhan fwyaf o'i hoes fel "Brifysgol Cymru, Bangor". Ers Medi 2007 fe'i gelwir yn Brifysgol Bangor, gan iddi wahanu oddi wrth Brifysgol ffederal Cymru.

Pan archwiliwyd asesiadau ymchwil y coleg yn 2008, gwelwyd fod bron i 50% o'r holl waith ymchwil o fewn ei muriau yn flaenllaw - a hynny yn nhermau bydeang. Caiff ei gydnabod fel y 251fed prifysgol mwyaf blaenllaw yn y byd.[2] Yn ôl Canllaw'r Sunday Times i Brifysgolion Prydain, 2012,[3] caiff ei gyfri fel y brifysgol orau yng Nghymru o ran yr addysgu ac o fewn y 15eg gorau ym Mhrydain yn y categori hwn.

Cyhoeddir Esgor, cyfnodolyn cyntaf y Gymraeg ar fydwreigiaeth, gan y brifysgol.

Myfyrwyr newydd yn cyrraedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Ffotograff gan Geoff Charles (1958).

Cynfyfyrwyr a staff enwog[golygu | golygu cod y dudalen]

Academyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Colegau[golygu | golygu cod y dudalen]

Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad

  • Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
  • Ysgol Gwyddorau Meddygol
  • Ysgol Seicoleg
  • Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau[4]

  • Ysgol y Gymraeg
  • Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau
  • Ysgol Dysgu Gydol Oes
  • Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archeoleg
  • Ysgol Ieithyddiaeth ac iaith Saesneg
  • Ysgol Ieithoedd Modern
  • Ysgol Cerddoriaeth
  • Ysgol Athroniaeth a Chrefydd
  • Ysgol Saesneg

Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol

  • Ysgol Cemeg
  • Ysgol Cyfrifiadureg
  • Ysgol Peirianneg Electronig

Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas

  • Ysgol Addysg
  • Ysgol Busnes Bangor
  • Ysgol y Gyfraith
  • Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol

Coleg Gwyddorau Naturiol[5]

  • Ysgol Gwyddorau Biolegol (gan gynnwys Gardd Fotaneg Treborth)
  • Ysgol Gwyddorau Eigion
  • Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth

Neuaddau Preswyl[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Safle Ffriddoedd
  • Safle Ffordd y Coleg
  • Safle'r Santes Fair
  • Safle'r Normal

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr o prifysgolion yn y DU

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato