Myfyriwr

Oddi ar Wicipedia
Myfyrwyr mewn darlith ar algebra ym Mhrifysgol Dechnoleg Helsinki

Daw'r gair myfyriwr o'r gair myfyrio sy'n golygu "meddwl am rywbeth" neu "astudio rhywbeth"; o ganlyniad gellir disgrifio myfyriwr fel "person sy'n meddwl neu'n astudio rhywbeth penodol". Yn ei ystyr ehangaf, defnyddir y term myfyriwr i gyfeirio at unrhyw un sy'n cael ei addysgu ond yng Nghymru cyfeirir fel arfer at berson ifanc dros 18 oed sy'n derbyn addysg drydyddol e.e. prifysgol neu goleg arall.

Yn 2015 cafodd 10,120 o fyfyrwyr o Gymru eu derbyn i brifysgolion yng Nghymru (2011: 9,820). Aeth 7,830 o fyfyrwyr o Gymru i Loegr (2011: 5,950), a daeth 9,880 o Loegr i brifysgolion yng Nghymru (2011: 9920).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan UCAS; adalwyd 18 Awst 2015
Chwiliwch am myfyriwr
yn Wiciadur.