Ifor Williams

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ifor Williams
Ganwyd 16 Ebrill 1881 Edit this on Wikidata
Tregarth Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata (84 oed)
Cymru Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth ieithydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Am y cwmni Cymreig gweler Trelars Ifor Williams.

Ysgolhaig Cymraeg oedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 18814 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ei arbenigedd oedd llenyddiaeth Gymraeg gynnar, yn enwedig barddoniaeth Hen Gymraeg. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig Canu Aneirin, Canu Taliesin a Pedair Cainc y Mabinogi. Treuliodd ei holl yrfa ym Mangor, ger ei bentref genedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganed yn Mhendinas, Tregarth, ger Bangor, yn fab i chwarelwr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle astudiodd Gymraeg a Groeg. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn 1947. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr John Morris-Jones. Derbyniodd gadair bersonol yn 1920, gan ddod yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn 1929.

Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd prif gyfraniad Wiilliams i ysgolheictod Cymraeg ym maes barddoniaeth gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, sef y gweithiau barddol Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938, y testun safonol cyntaf o'r Gododdin), Armes Prydain (1955) a Chanu Taliesin (1960).

Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth rhyddiaith Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith Breuddwyd Maxen, Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo a Pedeir Keinc y Mabinogi. Golygydd Y Traethodydd oedd ef o 1939 tan 1964 a golygydd Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1937 tan 1948. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.

Rhai gweithiau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o hoff bynciau Ifor Williams oedd enwau lleoedd Cymraeg ac erys ei gyfrol Enwau Lleoedd (1945) yn gyflwyniad safonol i'r pwnc. Ysgrifennodd yn ogystal Meddwn I (1946), cyfres o draethodau radio poblogaidd ar bynciau amrywiol. Mae'r gyfrol I Ddifyrru'r Amser (1959) yn cynnwys nifer o ysgrifau byr amrywiol, e.e. atgofion am ei blentyndod, myfyrdodau, ac ati.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir llyfryddiaeth lawn o waith Ifor Williams yn y gyfrol Sir Ifor Williams[:] A Bibliography, gol. Alun Eirug Davies (allbrintiwyd o Studia Celtica IV). Defnyddiol hefyd yw Mynegai i weithiau Ifor Williams, gol. Thomas Parry (Caerdydd, 1939).

  • Breuddwyd Maxen. Bangor: Jarvis a Foster, 1908.
  • Casgliad o waith Ieuan Deulwyn. Bangor: Welsh Manuscripts Society, 1909.
  • Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr. Gol. Ifor Williams a Thomas Roberts. Bangor: Evan Thomas, 1914.
  • Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450. Gol. Henry Lewis, Thomas Roberts ac Ifor Williams. Bangor: Evan Thomas, 1925 (ail argraffiad diwgiedig, 1938).
  • Canu Llywarch Hen. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935
  • Pedeir Keinc y Mabinogi. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930.
  • Canu Aneirin, gyda rhagymadrodd a nodiadau. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938.
  • Lectures on early Welsh poetry. Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944.
  • Enwau lleoedd. Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945.
  • Chwedl Taliesin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1957.
  • Canu Taliesin. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960.