Y Traethodydd
Gwedd
| Enghraifft o: | cyfnodolyn, cylchgrawn |
|---|---|
| Golygydd | Lewis Edwards, Roger Edwards, Daniel Rowlands, Ifor Williams, John Ellis Caerwyn Williams |
| Cyhoeddwr | T. Gee a'i Fab |
| Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1845 |
| Lleoliad cyhoeddi | Dinbych |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Sylfaenydd | Thomas Gee |
| Dynodwyr | |
Cylchgrawn Cymraeg chwarterol a gyhoeddir gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Y Traethodydd.
Y Traethodydd yw'r cyfnodolyn hynaf sy'n parhau i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg. Fe'i sefydlwyd yn 1845 gan Thomas Gee, gyda Lewis Edwards fel prif olygydd a'r Parch Roger Edwards fel cyd-olygydd. Dilynodd Lewis Edwards batrwm cyfnodolion Saesneg megis The Edinburgh Review a Blackwood's Magazine. Bu Syr Ifor Williams yn olygydd o 1939 hyd 1964. Y golygydd presennol yw D. Densil Morgan.
