Thomas Gee

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Gee
Thomas Gee 01.JPG
Ganwyd 24 Ionawr 1815 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Medi 1898 Edit this on Wikidata (83 oed)
Dinbych Edit this on Wikidata
Man preswyl Tŷ Thomas Gee Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog, newyddiadurwr, Gwleidydd, argraffydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Eyre & Spottiswoode Edit this on Wikidata

Cyhoeddwr, perchennog newyddiaduron a golygydd Cymreig oedd Thomas Gee (24 Ionawr 181528 Medi 1898), ganwyd yn Ninbych. Datblygodd Wasg Gee i fod yn un o'r gweisg pwysicaf yn hanes Cymru. Roedd Gwasg Gee yn ddylanwadol iawn am bron i ddwy ganrif, ers ei sefydlu yn nhref Rhuthun mewn man a elwir heddiw yn 'Siop Gwen', ar draws y ffordd i Westy'r Wynnstay a hen swyddfa 'Cyfrifiaduron Sycharth'). Symudwyd y wasg i Ddinbych, ac yno y bu Gee farw yn ei gartref 'Bronant', Stryd y Dyffryn, yn 1898.

Ymhlith y clasuron a ddaeth o'r wasg yr oedd deg cyfrol o'r Gwyddoniadur Cymreig (1854-1878) a gostiodd tuag £20,000 i'w gyhoeddi a'r Faner, prif bapur newydd Cymraeg Cymru am dros gant a hanner o flynyddoedd.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn fab i Thomas Gee, argraffydd, a Mary Foulkes o Hendrerwydd.[1] Cafodd ei addysg yn Ysgol Grove Park, Wrecsam, ac yna yn Ysgol Ramadeg Dinbych, a phrentisiwyd ef yn argraffydd yng ngwaith ei dad pan yn 14 oed yn Ninbych. Treuliodd gyfnod byr yn Llundain - rhwng 1836 ac 1838 yn swyddfa 'Eyre a Spottiswoode' cyn dychwelyd i Ddinbych i gymryd yr awenau. Priododd â Susannah, merch Plas Coch, Llanychan. Mae'r 'Bywgraffiadur' yn dweud mai yn Llangynhafal mae Plas Coch, ond mae hyn yn anghywir.[2] Cafodd y ddau wyth o blant. Cafodd ei fagu fel eglwyswr, ond yn 1830 ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd. Credodd a hyrwyddodd y syniad o ddirwest a sefydlodd system i wobrwyo aelodau ffyddlon o'r capel gyda'r hyn a adnabyddir heddiw fel 'Medalau Gee'. Pan symudodd yn ôl i Ddinbych yn 1838, dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond ni chymerodd ofalaeth ar gapel. Bu farw ei dad yn ei freichiau yn 1845.[1]

Cyhoeddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1845 torrodd dir newydd yn hanes cyhoeddi Cymraeg pan gyhoeddodd Y Traethodydd, gan mai ef oedd y cyntaf yng Ngymru i ddefnyddio peiriant argraffu stêm. Cyhoeddodd Y Traethodydd yn chwarterol, gyda Dr. Lewis Edwards, y Bala'n olygydd. Cyhoeddodd gryn nifer o lyfrau: rhai'n ymwneud â materion ymarferol, pob-dydd, ac eraill yn fwy academaidd (e.e. Myvyrian Archaiology (1870), a'r rhelyw yn ymwneud â chrefydd. Yn 1859 ailenwyd Baner Cymru yn Faner ac Amserau Cymru, wedi iddo brynu Yr Amserau a'u huno'n un arf grymus. Yn 1896 cyhoeddodd ail argraffiad o'r Gwyddoniadur Cymreig[3]. Dywedodd y newyddiadurwr Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A. amdano: "Nid oedd yn llenor mawr, ond casglodd nifer o ysgrifenwyr galluog o'i gwmpas a chreodd bapur newydd a chanddo gymeriad nodweddiadol a neges."[1]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymladdodd ar hyd ei oes dros y dyn cyffredin, ac yn erbyn Torïaeth a gwnaeth lawer i dorri gafael y meistri tir ar eu tenantiaid - ffermwyr tlawd fel arfer. Yn gefn i'w ymgyrchoedd gwleidyddol yr oedd ei gyhoeddiad Baner Cymru, o 1857 ymlaen, sef prif lais radicaliaeth anghydffurfiol Cymru. Daeth Y Faner (a welodd olau dydd gynat ar 4 Mawrth 1857) yn llais pwerus iawn yn ei ymgyrch i ddiddymu breintiau anheg yr Eglwys yn yr hyn a elwir yn Ryfel y Degwm, fel ag yr oedd hefyd i ymgyrchoedd eraill Gee e.e. ei weledigaeth o Brifysgol Cymreig a ddarparai addysg Gymraeg.[4] O Orffennaf 1861 ymlaen roedd y Faner yn bapur a ddeuai allan o'r wasg ddwywaith yr wythnos.

Roedd Thomas Gee'n chwyrn dros annibyniaeth i Gymru a chefnogai Cymru Fydd i'r carn. Ond un feirniadaeth arno, efallai, oedd nad oedd ei ymgyrchoedd yn berthnasol i'r Gymru ddiwydiannol. Gee oedd Cadeirydd cyntaf Sir Ddinbych.

Cofiannau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd cofiant iddo yn 1913 gan T. Gwynn Jones, sy'n cael ei ystyried yn glasur Cymraeg.

Hefyd y Llinyn Arian (1998) gan Ieuan Wyn Jones[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Thomas Gwynn Jones, Cofiant Thomas Gee (Dinbych, 1913)
  • Y Llinyn Arian Ieuan Wyn Jones (Gwasg Gee, 1998)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 9 Ionawr 2015
  2. 'Rhywbeth Bob Dydd' gan Hafina Clwyd, cyhoeddwyd 2008.
  3. Eminent Welshmen, T 130 [1] adalwyd 30 Awst 2015
  4. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
  5. Hunan