Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwyddoniadur Cymru)
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwyddoniadur cenedlaethol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2008 Edit this on Wikidata

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, a gyhoeddwyd yn 2008, yw'r gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg ers y 19g. Mae'n ymwneud â Chymru'n unig, yn wahanol i'r Gwyddoniadur Cymreig a gyhoeddwyd mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee oedd yn wyddoniadur cyffredinol; yn hytrach mae'n debyg i Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraffyddol a olygwyd gan Owen Jones ac a gyhoeddwyd rhwng 1871 a 1875. Cyhoeddwyd y gyfrol yn Saesneg yr un pryd wrth yr enw Encyclopedia of Wales.

Disgrifiad a hanes[golygu | golygu cod]

Mae trwch yr erthyglau am lefydd yng Nghymru ac am ei phobl. Cyfyngir yr erthyglau bywgraffyddol i unigolion sydd wedi marw. Y golygyddion yw John Davies (golygydd ymgynghorol am ddau fersiwn), Menna Baines (golygydd y fersiwn Cymraeg), Nigel Jenkins (golygydd y fersiwn Saesneg) a Pheredur Lynch.

Dechreuwyd ar y prosiect yn Ionawr 1999 a chyhoeddwyd y llyfr ar 31 Ionawr 2008, er mai 14 Tachwedd 2007 oedd y dyddiad lansio gwreiddiol.[1][2]

Arianwyd y prosiect, a gostiodd £300,000, gan yr Academi Gymreig, Gwasg Prifysgol Cymru a hefyd cymorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy arian Loteri.[3][4]

Ffeithiau am y gwyddoniadur[golygu | golygu cod]

  • Cyfanswm y geiriau - cyfrol Cymraeg: 838,152, cyfrol Saesneg: 787,693
  • Cyfanswm yr erthyglau: dros 5,000
  • Nifer o dudalennau - cyfrol Gymraeg: 1,112, cyfrol Saesneg: 1,088,
  • Nifer o gyfranwyr: 374
  • Argraffwyd gan wasg ym Malta[5]

Beirniadaeth[golygu | golygu cod]

  • Mae rhai adolygwyr wedi awgrymu nad yw'r dewis o bynciau, na'r modd mae rhai erthyglau yn ymwneud â gwleidyddiaeth wedi eu geirio'n gwbwl gytbwys, ac y dylai fod ynddo fwy o sôn am rôl y mudiad llafur Prydeinig.[6]
  • Beirniadaeth arall arno yw ei bris: £65, er fod broliant gwefan Llenyddiaeth Cymru (yr Academi) yn mynnu: ""Llyfr y bydd pob teulu o Gymry sydd â’u treftadaeth yn agos at eu calon am fod â chopi ohono" – dyna sut y diffiniwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gennym."
  • Nid oes sôn ynddo am Wicipedia nac am: Evan Jenkin Evans, Syr Horace Evans, Clive W. J. Granger, Thomas James Jenkin, Kenneth Glyn Jones ayb - gwyddonwyr Cymreig nag ychwaith am Gastell Gwrych a'i berchennog Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh.
  • Mae llawer o'r wybodaeth sydd ynddo'n ffeithiol anghywir gan gynnwys dyddiad marw Donald Watts Davies a fu farw yn 2000 ac nid 1999, dyddiad geni Lewis Edwards neu'r stori a geir yn yr erthygl am Gelert.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, gol. John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008) ISBN 978-0-7083-1954-3

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur: Deufis o oedi o wefan newyddion y BBC
  2. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn cael ei gyhoeddi Archifwyd 2008-07-24 yn y Peiriant Wayback. o'r wefan swyddogol
  3. Gwyddoniadur Cymru ar Llais Llên, ar wefan y BBC
  4. "Gwefan Llenyddiaeth Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-30. Cyrchwyd 2012-07-27.
  5. (Saesneg) Inside the definitive book on Wales, WalesOnline.co.uk 26.1.2008
  6. (Saesneg) What is Wales? - adolygiad ar guardian.co.uk 29.3.08