Castell Gwrych

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Gwrych
Gwrych Castle.jpg
Math Ffoledd, plasty gwledig, Castell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1819 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Conwy, Llanddulas a Rhyd-y-foel Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.2833°N 3.60853°W, 53.283339°N 3.608488°W Edit this on Wikidata
Manylion
Perchnogaeth Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh, Urdd Sant Ioan, Douglas Cochrane, 12th Earl of Dundonald Edit this on Wikidata
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Yr Iarlles Winifred Bamford-Hesketh o Ddundonald

Castell ffug ac ystâd ym Mwrdeisdref Sirol Conwy, ger Abergele yw Castell Gwrych, sydd wedi'i gofrestru fel adeilad cofrestredig Gradd I.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Hanes cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i codwyd gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh (1788-1861) i gofio am deulu'r 'Llwydiaid' ar ochr ei fam. Er mwyn ei godi dymchwelwyd plasdy o'r enw 'Y Fron’ a oedd ers 1810 wedi mynd a'i ben iddo. Erbyn i Lloyd briodi'r Arglwyddes Emily Esther Ann Lygon (sef merch Beauchamp) yn 1825 roedd y tŷ newydd wedi ei godi a'i orffen. Unodd nifer o gynllunwyr a phensaeri yn y gwaith o'i gynllunio, gan gynnwys Charles Augustus Busby a Thomas Rickman ac yn 1840s cododd Henry Kennedy adain newydd. Pan farwodd Lloyd, daeth Robert Bamford-Hesketh a'i wraig Ellen Jones-Bateman yn berchnogion.

Castell Gwrych

Ar ei farwolaeth, etifedd Castell Gwrych a'r ystâd oedd mab Lloyd, sef Robert Bamford-Hesketh (1826-1894) a briododd Ellen Jones-Bateman yn 1851. Ychwanegodd at y tiroedd ac erbyn 1873 roedd gan yr ystâd 3424 o erwau ynghyd a nifer o byllau glo yng Ngogledd Cymru.

Un ferch oedd gan Robert, sef Winifred Bamford-Hesketh (g. 1859), a phriododd Douglas Mackinnon Baillie Hamilton, 12fed Iarll Dundonald yn 1878.[1]

Roedd y Stad yn darparu cyfleuon a gwasanaeth (swyddogol neu answyddogol) i aelodau dosbarth canol ac uwch y fro. Mae llawer o son am gipar Stâd y Gwrych yn nyddiadur John (neu Lorrimer - nid yw'n amlwg) Thomas gan i'r dyddiadurwr o naturiaethwr ddibynnu'n helaeth ar ei sgiliau a'i wybodaeth (a gwn!). Ni chawsom wybod beth oedd enw "the keeper" chwaith (dosbarth îs siwr o fod). Dyma enghraifft o'r dyddiadur[2] yn cofnodi, gyda chymorth y cipar, adar sydd, rhai ohonynt, wedi hen ddiflannu:

2 Awst 1922: Keeper (Gwrych Castle) heard 2 Wrynecks pengam there 2 days ago, & has seen pair all summer, took Less-spott woodpecker cnocell fraith leiaf nest with eggs this year, all 3 w-peckers there. This year Pied Flycatchers gwybedog brith increased from 3 or 4 to 14 or 15 prs. Nightjars on hill, many hawks, once killed peregrine, merlin & Buzzard...Turtle doves turtur at Gwrych

1940au hyd y 1960au[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i defnyddiwyd gan y Llywodraeth i lochesu 200 o aelodau Mudiad Seion yr Iddewon (Bnei Akiva).[3] Wedi'r rhyfel, torrwyd y cysylltiad gyda theulu Dundonald ac am ugain mlynedd roedd ar agor i'r cyhoedd. Ar yr adeg yma, fe'i galwyd yn "The Showpiece of Wales" a thyrrai ymwelwyr yno i'w weld.[4] Fe'i defnyddiwyd hefyd fel man hyfforddi y bocsiwr Randolph Turpin yn y 1950au cynnar. Yn y 1960au cynnar, fe'i defnyddiwyd yn achlysurol gan fotobeicwyr 'Dragon Rally'.

Dirywiad ac adferiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceuwyd ei ddrysau i'r cyhoedd yn 1985, a chychwynwyd cyfnod o ddirywiad i adeiladwaith y castell.[5] Fe'i prynnwyd yn 1989 gan Nick Tavaglione, dyn busnes Americanaidd, am £750,000.[4] Ond ni chychwynwyd adfer yr adeilad ac o ganlyniad anrhaethwyd y lle gan fandaliaid a'r tywydd.

Fe'i defnyddiwyd yn 1996 fel cefndir i'r ffilm Prince Valiant, a oedd yn serennu Edward Fox, Joanna Lumley a Katherine Heigl.[6] Dechreuodd bachgen ifanc 12 oed ymgyrchu dros gadwraeth y castell, sef Mark Baker.[7] Ffurfiodd ymddiriedolaeth i warchod ac adfer y castell, a gorfodwyd Bwrdeisdref Sirol Conwy i roi 'gorchymyn prynniant gorfodol' ar y lle. Gorfodwyd y perchennog Americanaidd i werthu ym Mawrth 2006 a phrynnwyd y castell gan 'City Sesrvices Ltd' yn Ionawr 2007 am £850 a gwariwyd hanner miliwn ar y gwaith o'i adfer, ond o fewn dim, aeth yr hwch drwy'r siop.[6][8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.archiveswales.org.uk; adalwyd 12 Rhagfyr 2014
  2. Dyddiadur (y Parch.) Thomas, Tywyn, Abergele, 1921-1942, yn y Tywyddiadur,[1]
  3. "Welsh haven for Jewish children". BBC News website. 26 Ionawr 2006. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/north_east/4648406.stm. Adalwyd 30 Ebrill 2007.
  4. 4.0 4.1 "Money boost for castle ruin fight". BBC News website. 11 Mai 2005. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/north_east/4534585.stm. Adalwyd 30 Ebrill 2007.
  5. "Castle to be auctioned for £1.5m". BBC News website. 29 Mawrth 2006. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/north_east/4856126.stm. Adalwyd 30 Ebrill 2007.
  6. 6.0 6.1 "Gothic castle to be luxury hotel". BBC News website. 30 Ebrill 2007. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6608035.stm. Adalwyd 30 Ebrill 2007.
  7. "Teenager leads castle preservation campaign". BBC News website. 27 Hydref 1999. http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/486911.stm. Adalwyd 30 Ebrill 2007.
  8. Future of Abergele’s Gwrych Castle remains uncertain gan Rob Davies, Daily Post, 12 Ebrill 2010.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]