Wicipedia Cymraeg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Wicipedia)
Wicipedia Cymraeg
Logo'r Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg ar 29 Hydref 2009, diwrnod ar ôl cyrraedd 25,000 o erthyglau
URL cy.wikipedia.org
Masnachol? Nac ydy
Math o wefan Gwyddoniadur arlein
Cofrestru Dewisol
Ieithoedd ar gael Cymraeg
Perchennog Sefydliad Wicimedia
Lansiwyd ar Gorffennaf 2003

Gwyddoniadur Cymraeg sy'n seiliedig ar Wikipedia yw'r Wicipedia Cymraeg, a lansiwyd yng Ngorffennaf 2003. Erbyn heddiw (Mawrth 2024), mae ganddi oddeutu 280,423 o erthyglau.

Hon, mae'n debyg, yw'r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd o ran nifer y darllenwyr, gyda chyfartaledd o 840,000 o dudalennau'n cael eu hagor pob mis gan ddarllenwyr unigryw (nid bots).[1][2] Mae'r cyfan o gynnwys Wicipedia a'i chwiorydd (testun, delweddau, ffilm ayb) wedi'u cofrestru ar drwydded CC-BY-SA sy'n drwydded sy'n caniatáu defnydd masnachol ohoni, neu ar drwydded agored debyg ee gall cwmni cyfyngedig ddefnyddio'r cynnwys a'i werthu am elw, ar rai amodau.[3]

Ers 15 Rhagfyr 2016 ceir mwy o erthyglau ar ferched ar y Wicipedia Cymraeg nag o ddynion - yr iaith gyntaf (allan o dros 330) i gyrraedd hynny.[4] Yn ôl arolwg o ddarllenwyr Wicipedia a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017 roedd mwy o'r darllenwyr o'r farn fod yr wybodaeth ar yr Wicipedia Cymraeg yn 'gywir ac yn ddibynadwy' na'r ganran fyd-eang a wnaed yn 2011 mewn arolwg o'r Wicipedia Saesneg.[5]

Yng Ngorffennaf 2013, yn dilyn ffurfio Wici Cymru, penodwyd Rheolwr Cymru, swydd lawn amser, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Wicimedia DU, er mwyn hyfforddi golygyddion i wella ac ychwanegu i gynnwys Wicipedia. Yn Ionawr 2014 penodwyd Trefnydd Hyfforddi sgiliau wici, a'r un mis hysbysebodd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am Gydlynydd Wicipedia yn y cylchgrawn Golwg. Yn Ionawr 2015 penododd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl llawn amser a phenodwyd ef yn Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell_Genedlaethol ym Medi 2017.[6][7][8]

Ers Haf 2016 mae Geiriadur Rhywogaethau Llên Natur ('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Gomin Wicimedia, drwy Wicidata, ac yn cynnwys dolen i dros 10,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg.[9] Caiff Wicipedia hefyd ei rhestru fel adnodd Cymraeg ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru[10] a'r BBC,[11][12] a chan borwr Mozilla Firefox.[13] Mae S4C yn awgrymu Wicipedia fel adnodd i isdeitlwyr Cymraeg y gellir ei defnyddio "gyda gofal".[14]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yr ymgais i ddatblygu'r Wicipedia, Mawrth 2014. Ch- dde: Robin Owain, Marc Haynes ac Aled Powell

Roedd y Wikipedia (fersiwn Saesneg) wedi'i chreu gan Jimmy Wales a Larry Sanger ar 15 Ionawr 2001. Dechreuwyd y Wicipedia Cymraeg yng Ngorffennaf 2003. Cyrhaeddodd mil o erthyglau ar 9 Ebrill 2004, 2500 erbyn 15 Awst 2004,[15] ac erbyn 23 Mehefin 2007 cyhoeddwyd 10,000 erthygl. Ar 20 Tachwedd 2008 roedd 20,000 erthygl, a llai na flwyddyn yn ddiweddarach, cyrhaeddwyd y targed o 25,000 erthygl ar 28 Hydref 2009. Yn Ebrill 2013, roedd dros 40,000 o erthyglau gan y Wicipedia Cymraeg, ac roedd y 71ain Wicipedia mwyaf allan o dros 280 o ieithoedd. Erbyn Gorffennaf 2013 roedd dros 50,000 o erthyglau ac roedd yn y 62ain mwyaf. Ddechrau mis Medi 2014 roedd gan y Wicipedia Cymraeg dros 60,000 o erthyglau ac roedd yn y 63ain mwyaf. Roedd gan y wefan 16 o weinyddwyr, 93 o ddefnyddwyr gweithgar, a "dyfnder" o 59.[16] Mesuriad bras o safon Wicipedia yw dyfnder sy'n ystyried nifer yr erthyglau, nifer y golygiadau a nifer y tudalennau "cynhaliaeth" (megis tudalennau sgwrs, categorïau a nodiadau).[17]

Ar 02 Mehefin 2015 rhoddwyd botwm 'Dyfynwch ar Wicipedia' ar bob un o dudalennau Papurau Newydd Cymru Arlein y Llyfrgell Genedlaethol.
Cyfweliad gyda Marc Haynes, Cydlynydd Wicipedia llawn amser yn y Coleg Cymraeg.

Ar 12 Medi 2012 cyflwynwyd Cynllun Datblygu gyda saith maes i'w datblygu, gan gynnwys marchnata'r Wicipedia yn well, rhyddhau ffeiliau Cadw, y Llyfrgell Genedlaethol ayb drwy drwyddedi agored Comin a hyfforddi golygyddion newydd i Wicipedia. Er mwyn gwireddu'r rhain ffurfiwyd cymdeithas newydd i gefnogi'r Wicipedia Cymraeg: Cymdeithas Wici Cymru a gyfarfu 23 Ebrill 2013 yn Rhuthun. Cytunodd Barry Morgan, Archesgob Cymru a'r actor Rhys Ifans i fod yn un o ddau Noddwr y Wicipedia Cymraeg (gweler Wicipedia:Wici Cymru).

Yng Ngorffennaf 2012 cafwyd cyfarfod rhwng y Gweinidog dros Dechnoleg Gwybodaeth Llywodraeth Cymru,[1] sef Leighton Andrews, a Robin Owain, gyda'r ddau yn cytuno ar saith pwynt a godwyd, gan gynnwys rhyddhau cynnwys cyrff cyhoeddus ar drwydded agored. Ers y cyfarfod hwn, mae'r Llywodraeth wedi bod yn flaenllaw yn y maes, gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn Awst 2013 yn cyfarfod Robin i agor y drws ymhellach.[18] Yn Nhachwedd 2013 agorwyd cynhadledd addysg Wikimedia UK gan Gareth Morlais, a draddododd am bwysigrwydd Wicipedia Cymraeg i addysg Gymraeg.

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Hyd yma cafwyd 12,428,764 o olygiadau ar y wici Cymraeg gan 88,019 o olygyddion cofrestredig a miloedd rhagor o olygyddion nad ydynt wedi mewngofnodi. Mae ganddi oddeutu 280,000 o erthyglau (Mawrth 2024). Ceir 16 o Weinyddwyr sy'n ceisio cadw trefn ar bethau, a hynny mor agored a phosibl. Roedd nifer y golygyddion gweithgar (dros 25 golygiad) y mis diwethaf yn 127.

Cyrhaeddodd y wefan 100,000 o erthyglau ym Mawrth 2018[19] a 200,000 ar 12 Medi 2022 yn dilyn creu erthyglau newydd ar ffilmiau.

Rhwng Mai 2017 a Mai 2019 dyblodd y nifer o olygiadau; yn yr un cyfnod gostyngodd nifer y golygyiadau ar yr Wicipedia Saesneg -9%. Gellir cymharu hefyd y sefyllfa ar ddiwedd Mai 2019 gyda'r ieithoedd Celtaidd eraill:

Prosiectau[golygu | golygu cod]

Uwchlwytho delweddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru[golygu | golygu cod]

Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell genedlaethol; penodwyd 19 Ionawr 2015. Ym Medi 2017 penodwyd ef gan y Llyfrgell yn 'Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol'.

Yn 2008 cydweithiodd y Wicipedia Cymraeg â Llyfrgell Genedlaethol Cymru mewn rhaglen beilot i uwchlwytho delweddau i'r Wicipediau Cymraeg a Saesneg, yn bennaf ffotograffau o gasgliad John Thomas.[20][21] Ni chafodd y delweddau eu huwchlwytho dan drwydded rydd, ond yn hytrach gyda chaniatâd perchennog yr hawlfraint (sef y Llyfrgell Genedlaethol) i'w defnyddio.[22] Yn 2009 ymunodd y Llyfrgell Genedlaethol â'r wefan Flickr, gan uwchlwytho delweddau heb unrhyw gyfyngiadau hawlfraint er mwyn annog pobl i ddefnyddio'r lluniau,[23] a chychwynnodd defnyddwyr Wicipedia uwchlwytho'r delweddau hyn i Wicipedia ym Mehefin 2012.[24]

Nifer yr erthyglau ar yr Wici Cymraeg; Mehefin 2013.[2]

Ar 02 Mehefin 2015 rhoddwyd botwm 'Dyfynwch ar Wicipedia' ar bob un o dudalennau Papurau Newydd Cymru Arlein y Llyfrgell Genedlaethol - yn Gymraeg ac yn Saesneg. Roedd hyn yn galluogi pobl i gyfeirio at ffynhonnellau'r wybodaeth ar Wicipedia yn seiliedig ar bapurau newydd a sganiawyd yn y Llyfrgell.

Pedia Trefynwy[golygu | golygu cod]

Arwydd Trefynwy

Cymerodd y Wicipedia Cymraeg ran mewn prosiect Pedia Trefynwy, cynllun avant-garde, ar y pryd, i ddatblygu erthyglau a chyfryngau Wicipedia am Drefynwy mewn nifer o ieithoedd. Gweithiodd Wikimedia UK â Chyngor Sir Fynwy i hybu'r prosiect. Gosodwyd dros fil o godau QRpedia ar draws y dref, gan alluogi defnyddwyr ffonau clyfar i gael mynediad i erthyglau Wicipedia ar eu ffonau.[25][26]

Eraill[golygu | golygu cod]

Ar wahân i brosiect Llwybrau Byw ac yna prosiectau Llyfrgell Genedlaethol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru (WiciPop a Wici Iechyd), cafwyd prosiect Prosiect WiciMôn a phenodwyd Aaron Morris yn Ionawr 2017 am gyfnod o ddwy flynedd, ac yn achlysurol wedi hynny.

Digwyddiadau cynnar[golygu | golygu cod]

Golygathon 2012[golygu | golygu cod]

Y poster a grewyd i hyrwyddo golygathon cyntaf y Wicipedia Cymraeg

Fel ymateb i'r Cynllun Datblygu, cynhaliwyd "Golygathon" gan gyfranwyr y Wicipedia Cymraeg ar 30 Mehefin 2012 yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd. Hwn oedd y cyfarfod Wicipedia Cymraeg cyntaf. Pwrpas y Golygathon oedd i greu golygwyr newydd a dod a'r gwirfoddolwyr cyfoes at ei gilydd drwy wella erthyglau am Gaerdydd a'i phobl.[27]

Golygathon yn Llyfrgell Abertawe, Ionawr 2014.

Yn fuan ar ei ôl cafwyd golygathonau mewn nifer o lefydd ledled Cymru gan gynnwys Abertawe, Dolgellau, Rhuthun a Wrecsam.

Eisteddfod 2012[golygu | golygu cod]

Y bardd Les Barker mewn gweithdy Wicipedia yn Eisteddfod 2012

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 cafodd y Wicipedia bartner: Hacio'r Iaith a rhannwyd pabell.[28] Ymwelodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, â'r babell, gan gael ei dywys o gwmpas y wefan gan Robin Llwyd.[29] Ar gyfer yr ŵyl, trefnwyd baner dwy fetr ac arni'r geiriau "Wicipedia Cymraeg: Byd o Wybodaeth".

Bu Wicipedia yn bresennol ym mhob Eisteddfod ers hynny ac mae datblygiadau ar droed i weithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a Menter Môn ar brosiect 'Wici Môn', prosiect a fydd yn bara dros dair mlynedd, gydag Aaron Morris yn Gydlynydd y Prosiect.

Rhan o restr o ieithoedd a oedd yn defnyddio rhestri Wicidata yn Hydref 2016. Roedd tair gwaith mwy ohonynt ar y Wicipedia Cymraeg na phob un o'r 290 iaith arall gyda'i gilydd!

Cymdeithas Wici Cymru[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2012 ffurfiwyd Cymdeithas Llwybrau Byw i gefnogi gweithgareddau'r Wicipedia Cymraeg,[30] gan fabwysiadau'r Cynllun Datblygu fel cynllun gweithredu'r gymdeithas. Yn hwyrach, newidiwyd yr enw yn Gymdeithas Wici Cymru a chytunodd yr actor a chanwr o Gymro Rhys Ifans ac Archesgob Cymru y Gwir Barchedig Athro Barry Morgan i fod yn Noddwyr Anrhydeddus y Gymdeithas.[31]. Cofrestwyd y parth www.wicicymru.org a chrewyd gwefan ar gyfer y gymdeithas. Ar Orffennaf 2013 penodwyd Rheolwr Wikimedia UK yng Nghymru wedi'i secondio i Wici Cymru.

Grŵp Defnyddwyr Wicimedia Cymru[golygu | golygu cod]

Cyflwynwyd y cynnig yn y Caffi, yng Ngorffennaf 2017 a sefydlwyd y grŵp yn Aberystwyth ar 27 Mawrth 2018.

Trydar a chyfryngau torfol eraill[golygu | golygu cod]

Ceir rhaglen (app) ar iTunes ac ar ffonau Android i lawrlwytho Wicipedia er mwyn pori'r gwyddoniadur heb angen cysylltu â'r we.[32] Yng Ngorffennaf 2009 crewyd cyfrif i'r Wicipedia Cymraeg ar Twitter i gyhoeddi erthyglau newydd fel "tweets" (@Wicipedia). Ceir hefyd yr URL http://wicipediacymraeg.org sy'n arwain at yr URL swyddogol, http://cy.wikipedia.org. Ym Medi 2013 dechreuwyd y cyfri @WiciCymru ac erbyn Mehefin 2019 roedd ganddo dros bum mil o ddilynwyr; mae'n trydar 'Ar y dydd hwn' rhng 8.00 a 9.00 y bore a syniadau am erthyglau newydd, neu awgrymiadau er mwyn ehangu erthyglau. Mae @MonWici a @WiciCaerdydd hefyd yn trydar ac ill dau wedi'u sefydlu ym Mehefin 2017. Yn 2019 sefydlodd Carl Morris gyfri 'Menywod Mewn Coch' gyda'r bwriad i gynyddu niferoedd yr erthyglau ar fenywod.

Cymuned Wicimedia[golygu | golygu cod]

Wicipedia Cymraeg yw'r mwyaf o'r prosiectau Wicimedia yn y Gymraeg. Y prosiectau eraill yw Wiciadur, Wicidata, Wicitestun, Wicilyfrau, Wiciddyfynnu, a thudalennau croeso Cymraeg ar Meta-Wici, Comin Wicifryngau, a Wicirywogaeth. Nid oes fersiynau Cymraeg o Wikinews nac Wikiversity.

Geirfa[golygu | golygu cod]

Bathwyd termau Cymraeg ar gyfer nifer o nodweddion y Wicipedia Cymraeg, gan gynnwys "eginyn" (Saesneg: stub), "Y Caffi" (Village Pump), "nodyn" (template), "gwybodlen" (infobox), "tudalen wahaniaethu" (disambiguation page) ac 'amrodor' a gwrthrychau technoleg newydd eraill.

Sylwadau amdani[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliad yn Awst 2007, cyfeiriodd Jimmy Wales, sylfaenydd Wicipedia, at y Wicipedia Cymraeg wrth drafod Wicipediau mewn ieithoedd lleiafrifol:

Certainly within Wikipedia right now we are seeing some fairly successful projects in small European languages. You don't really need a Welsh language Wikipedia, perhaps. The number of people who speak Welsh who don't also speak English is very small and getting smaller every year. So why do we have a Welsh Wikipedia? Well, people wanted it, so they're making it. And language preservation is the main motive. It is their mother tongue and they want to keep it alive, keep its literature alive. Certainly some of the larger small languages like Basque and Catalan have very successful projects. I definitely see that preserving parts of your language and culture through collaborative projects makes a lot of sense.[33]

Mae Golwg,[34] Planet,[35] a'r Western Mail[36] wedi cyhoeddi erthyglau sy'n trafod y Wicipedia Cymraeg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Morris, Carl (31 Gorffennaf 2012). Wales: Imagining the Welsh Language Web. GlobalVoices. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  2. 2.0 2.1 Gwefan Wikistats; adalwyd 25 Mawrth 2013
  3. Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License Gwefan Comin; adalwyd 12 Mai 2013.
  4. Blog Wikimedia UK adalwyd 3 Hydref 2017.
  5. Arolwg o ddarllenwyr y Wicipedia Cymraeg - Cam bach i Wici Cymru, cam ENFAWR i ddynoliaeth - Blog Wikimedia UK; adalwyd 3 Hydref 2017.
  6. Library of Wales with a birthday gift to Wikipedia Gwefan Wicimedia DU; Archifwyd 2020-11-27 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 20 Ionawr 2015
  7. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol, Cymru; enw'r blog: Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 20 Ionawr 2015
  8. Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol - blog; adalwyd 3 Hydref 2017.
  9. 'Bwletin Llên Natur', Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. Rhif 67, Medi 2013; top tudalen 2
  10.  Catalog e-Adnoddau: Wicipedia. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  11.  Gwybodaeth ar-lein a gwefannau rhannu a chydweithio. BBC Cymru. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  12.  C2 – Gwefannau eraill. BBC Radio Cymru (C2). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  13.  Cychwyn Arni. Mozilla Firefox. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  14.  James, Heulwen L. (Chwefror 2008). Canllawiau S4C ar gyfer Isdeitlwyr yng Nghymru. S4C. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  15. (Saesneg) Wikimedia News/2004. Meta-Wici. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  16. (Saesneg) List of Wikipedias. Meta-Wici. Adalwyd ar 4 Medi.
  17. (Saesneg) Wikipedia article depth. Meta-Wici. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  18. Y Prif Weinidog Carwyn Jones a Robin Owain; Awst 2012.
  19. https://blog.wikimedia.org.uk/2018/03/welsh-wikipedia-reaches-100000-articles/
  20.  John Thomas (1838-1905): Ei fywyd a'i waith. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 19 Hydref 2012.
  21. Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas, categori'r Wicipedia Cymraeg sy'n cynnwys delweddau a uwchlwythwyd o gasgliad John Thomas, y Llyfrgell Genedlaethol.
  22. Defnyddiwr:Paul Bevan, tudalen defnyddiwr y Llyfrfgell Genedlaethol ar y Wicipedia Cymraeg.
  23.  Hawliau Cyhoeddi. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 19 Hydref 2012.
  24. Y Llyfrgell Genedlaethol yn Rhyddhau holl luniau Geoff Charles i Wicipedia, trafodaeth ar y Wicipedia Cymraeg.
  25.  Cynllun Wicipedia i hybu tref. BBC (30 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  26.  Tref Wicipedia gyntaf y byd. Golwg360 (17 Mai 2012). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  27. (Saesneg) Cardiff Welsh Language Editathon Number 1. Meta-Wici. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  28.  Blog Eisteddfod- yr ŵyl Dechnoleg. Golwg360 (2 Awst 2012). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  29. (Saesneg) Visit report - National Eisteddfod 8 Aug 2012. Wikimedia UK (8 Awst 2012). Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  30.  Cofnodion 12 Medi 2012, Cyfansoddiad. Cymdeithas Llwybrau Byw. Google Docs (12 Medi 2012). Adalwyd ar 12 Hydref 2012.
  31.  Cofnodion 24 Hydref 2012. Cymdeithas Wici Cymru. Google Docs (24 Hydref 2012). Adalwyd ar 28 Hydref 2012.
  32. (Saesneg) Gwyddoniadur (Cymraeg). iTunes. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  33. Cyfweliad â geekillustrated.com, Awst 2007
  34. Jac Codi Baw, "Wiki-peidio", Golwg, 16 Hydref 2008, t. 30
  35. Craig Owen Jones (Haf 2009). Look it Up in Wicipedia: Welsh and the Internet, Planet, tud. 27. URL
  36. (Saesneg) Media focus on collaboration includes Wikipedia. Wikipedia. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Ystadegau