Mozilla Firefox

Oddi ar Wicipedia
Logo Mozilla Firefox 70
Firefox 57 ar Windows 10.

Porwr gwe cod agored a rhydd sy'n dod o'r Mozilla Application Suite ac yn cael ei reoli gan Mozilla Corporation yw Mozilla Firefox. Ers Medi 2009, Firefox yw'r ail borwr mwyaf poblogaidd yn ôl defnydd, gyda 22.82% o ddefnydd porwyr gwe byd-eang yn ei ddefnyddio yn ôl Net Applications.[1] Dywed ffynonellau eraill mai rhwng 20% a 32% yw defnydd Firefox.[2][3][4]

I ddangos tudalennau gwe, mae Firefox yn defnyddio peiriant porwr gwe Gecko, sy'n gweithredoli bron pob safonau gwe cyfredol gan gynnwys sawl nodwedd sydd i fod i ragweld ychwanegiadau tebygol i'r safonau.[5]

Mae nodweddion diweddaraf Firefox[6] yn cynnwys pori gyda thabiau (gyda'i ryngwyneb defnyddiwr graffigol), gwirio sillafu, chwilio fesul gair, nodi tudalen byw, rheolwr lawrlwytho, pori preifat, geoleoli sy'n seiliedig ar wasanaeth Google[7] a system chwilio cyfannol sy'n defnyddio Google yn ddiofyn o fewn bron i'r rhan fwyaf o leoliadau. Gellir ychwanegu nodweddion drwy estyniadau, a grëir gan ddatblygwyr trydydd-parti,[8] lle bo dewis eang ar gael, sy'n nodwedd a dynna lawer o ddefnyddwyr Firefox.

Mae Firefox yn rhedeg ar lawer o systemau gweithredu, gan gynnwys Microsoft Windows, GNU/Linux, Mac OS X, FreeBSD, a llawer mwy o blatfformau. 3.6.12 yw'r fersiwn sefydlog cyfredol, a ryddhawyd ar 15 Medi 2010.[9] Mae gan god ffynhonnell Firefox dair trwydded o dan Drwydded Gyhoeddus Gyffredinol GNU, Trwydded Gyhoeddus Gyffredinol Llai GNU, a Mozilla Public License.[10]

Poblogrwydd[golygu | golygu cod]

Mae defnyddwyr y we wedi mabwysiadu Firefox yn gyflym, er gwaetha'r ffaith bod Internet Explorer wedi ei rag-osod gyda phob copi o sustem weithredu Windows. Fe welwyd gostyngiad cyson yng nghanran defnyddwyr Internet Explorer wedi lansiad Firefox. Yn ôl cwmni dadansoddi OneStat, erbyn Gorffennaf 2006, Firefox oedd y porwr mwyaf poblogaidd tu ôl i Internet Explorer, gyda 12.93% o'r ganran defnyddwyr byd eang.[11] Erbyn Mawrth 2007, yn ôl data a ryddhawyd gan gwmni NetApplications, roedd cyfradd marchnad byd eang Firefox wedi cynyddu i 15.1%.[12]

Nodweddion[golygu | golygu cod]

Fel sawl meddalwedd cod agored, mae Firefox wedi'i leoleiddio i'r Gymraeg (gweler isod am y fersiwn Cymraeg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Net Applications (2010-11-02).
  2. (Saesneg) Web Browser Market Share. StatOwl (2010-02-01).
  3. (Saesneg) StatCounter Global Stats. StatCounter (2010-03-01).
  4. (Saesneg) Global Web Stats. W3Counter (2010-02-01).
  5. (Saesneg) Gecko Layout Engine (2009).
  6. (Saesneg) Latest Firefox’s Feature-Pack.
  7. (Saesneg) Location-Aware Browsing. Mozilla Corp. (adran "What information is being sent, and to whom? (...)")
  8. addons.mozilla.org Tudalen estyniadau[dolen marw]
  9. (Saesneg) Mozilla Firefox 3.6.10 Release Notes. Mozilla.
  10. (Saesneg) Mozilla Foundation. Mozilla Code Licensing.
  11. (Saesneg)  Mozilla Firefox usage share remains stable. OneStat.com. Adalwyd ar 13 Ebrill, 2007.
  12. (Saesneg)  Browser Market Share for December, 2006. Net Applications. Adalwyd ar 13 Ebrill, 2007.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.