Neidio i'r cynnwys

Porwr gwe

Oddi ar Wicipedia
Enghraifft o borwr gwe sy'n cyfyngu ei faes i un wefan, sef Comin Wicimedia.
Enghraifft o borwr gwe gydag ymholiad chwilio yn y Gymraeg. Mae defnyddiwr yn chwilio am wybodaeth am borwyr gwe yn Brave.

Meddalwedd cyrchu gwefannau yw porwr gwe, a dalfyrrir yn aml neu "porwr." Pan fydd defnyddiwr yn ceisio cyrchu tudalen we gwefan benodol, mae'r porwr yn adalw'i ffeiliau oddi ar weinydd gwe ac wedyn yn arddangos y dudalen ar sgrin y defnyddiwr. Gall porwyr hefyd ddangos cynnwys a gedwir yn lleol ar ddyfais y defnyddiwr.

Defnyddiwr porwyr ar ystod o ddyfeisiau, gan gynnwys cyfrifiaduron personol, gliniaduron, tabledi, ffonau clyfar, watsys clyfar, setiau teledu clyfar a chonsolau.[1] Ers 2024, ymhlith y porwyr gwe mwyaf poblogaidd mae Google Chrome (~66% o'r farchnad), Safari (~16%), Edge (~6%), Firefox (~3%), Samsung Internet (~2%), ac Opera (~2%).[2][3] Ers 2023, mae tua 5.4 biliwn o bobl wedi defnyddio porwr gwe.[4]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Which types of devices have browsers?". deviceatlas.com. DeviceAtlas. 22 Mai 2015. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2025.
  2. "Browser Market Share Worldwide". StatCounter. Cyrchwyd 21 Mawrth 2025.
  3. "Browser Market Share Report for 2024 Q1". Cloudflare Radar. Cloudflare, Inc. 3 Mai 2024. Cyrchwyd 22 Mawrth 2025.
  4. "World Internet Users Statistics and 2023 World Population Stats". Internet World Stats. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mai 2024. Cyrchwyd 21 Mawrth 2025.