Cyfeiriad IP

Oddi ar Wicipedia

Label o rifau yw Cyfeiriad IP (o'r term Saesneg IP address, sef Internet Protocol address) a dadogir i bob dyfais megis cyfrifiadur, argraffydd o fewn rhwydwaith o gyfrifiaduron sy'n defnyddio Protocol Rhyngrwyd ar gyfer cyfathrebu.[1] Gall y cysylltiad neu'r ddolen o fewn y rhwydwaith hwn fod yn ddi-wifr neu gyda weiren. Y rhwydwaith arferol, bellach, yw'r rhyngrwyd. Mae cyfeiriad IP yn gwasanaethu dau brif bwrpas: adnabod rhyngwyneb neu rwydwaith y gwesteiwr a chyfeiriadu lleoliad. Disgrifir ei rôl fel a ganlyn: "Mae enw'n dangos yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano. Mae cyfeiriad yn dangos ble mae ef. Mae llwybr yn dangos sut i fynd ato."[2]

Diffiniwyd y cyfeiriad IP fel rhif 32 beit[1] a defnyddir y sustem hon, a adnabyddir fel 'Protocol Rhyngrwyd fersiwn 4' (IPv4) heddiw. Fodd bynnag, oherwydd cynnydd enfawr y rhyngrwyd ac oherwydd fod y cyfeiriadau IP yn prinhau mor sydyn, datblygwyd fersiwn newydd o IP (IPv6) ym 1995 sy'n defnyddio 128 beit ar gyfer y cyfeiriad.[3] Safonwyd IPv6 fel RFC 2460 ym 1998[4] ac mae'n cael ei ddatblygu ers canol y 2000au.

Rhifau deuaidd ydy cyfeiriadau IP, ond fel arfer fe'u storir mewn ffeiliau testun ac fe'u harddangosir mewn nodiannau a ellir eu darllen gan berson, er enghraifft 172.16.254.1 (ar gyfer IPv4), a 2001:db8:0:1234:0:567:8:1 (ar gyfer IPv6).

Mae'r Internet Assigned Numbers Authority (IANA) yn rheoli ac yn dyranu cyfeiriadau IP yn fyd-eang.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 RFC 760, DOD Standard Internet Protocol (Ionawr 1980)
  2. RFC 791, Internet Protocol – DARPA Internet Program Protocol Specification (Tachwedd 1981). (A name indicates what we seek. An address indicates where it is. A route indicates how to get there.)
  3. RFC 1883, Internet Protocol, Version 6 (IPv6) Specification, S. Deering, R. Hinden (Rhagfyr 1995)
  4. RFC 2460, Internet Protocol, Version 6 (IPv6) Specification, S. Deering, R. Hinden, The Internet Society (Rhagfyr 1998)
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.