Saesneg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Saesneg
English
Ynganiad IPA /ˈɪŋɡlɪʃ/[1]
Siaredir yn (gweler isod)
Cyfanswm siaradwyr Iaith gyntaf: 309–400 miliwn
Ail iaith: 199 miliwn–1.4 biliwn[2][3]
Cyffredinol: 500 miliwn–1.8 biliwn[3][4]
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Amrywiolyn Lloegr)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn 53 gwlad
Y Cenhedloedd Unedig
Undeb Ewropeaidd
Y Gymanwlad
Cyngor Ewrop
NATO
CMRGA
STA
SyGI
SYyCT
CUDAD
Rheolir gan Nid oes rheoliad swyddogol
Codau ieithoedd
ISO 639-1 en
ISO 639-2 eng
ISO 639-3 eng
Wylfa Ieithoedd 52-ABA
Anglospeak.svg

     Gwledydd lle mai iaith swyddogol neu de facto yw'r Saesneg, neu iaith genedlaethol      Gwledydd lle mai iaith swyddogol yw hi ond nid yn brif iaith

Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (Saesneg: English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.

Datblygodd y Saesneg o iaith llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd ym Mhrydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli iaith a diwylliant y Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif 'roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.

Oherwydd ei lle fel iaith mwyafrif yr Unol Daleithiau, mae'r Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn fwy nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.

Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei llenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.

Ymadroddion[golygu]

  • Saesneg: English
  • Pa hwyl: Hello
  • Bore da: good morning
  • Hwyl Fawr: goodbye
  • Os gwelwch yn dda: please
  • Diolch: thank you
  • Cymraeg: Welsh
  • Sut mae?: Alright?
  • Sut ydych chi?: How are you?
  • Rydw i'n: I am
  • Ble mae'r ysgol?: Where's the school?
  • Ble mae'r ysbyty?: Where's the hospital?

Gramadeg Saesneg[golygu]

Mae gramadeg yr iaith Saesneg yn weddol debyg i'r Gymraeg i'w chymharu â'r Tsieiniaidd er enghraifft, gan fod y ddwy iaith yn dod o'r teulu Indo-Ewropeaidd. Serch hyn mae gramadeg yr ieithoedd Romawns a'r Almaeneg llawer yn fwy tebyg i Saesneg nag ydyw i'r Gymraeg.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. English Adjective - Oxford Advanced Learner's Dictionary - Gwasg Prifysgol Rhydychen ©2010.
  2. gweler: Ethnologue (1984 amcangyfrif); The Triumph of English, The Economist, Rhag. 20, 2001; Ethnologue (1999 amcangyfrif);  20,000 Teaching Jobs. Oxford Seminars.
  3. 3.0 3.1  Lecture 7: World-Wide English. EHistLing.
  4. Ethnologue (1999 amcangyfrif);
Wikipedia
Argraffiad Saesneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Saesneg
yn Wiciadur.