Google Inc. | |
---|---|
![]() | |
Math | Cyhoeddus |
Sefydlwyd | Menlo Park, Califfornia, UDA (1998) |
Pencadlys | Mountain View, Swydd Santa Clara, Califfornia, ![]() |
Ardal wasanaethu | Byd-eang (heblaw Tsieina) |
Pobl blaenllaw | Eric E. Schmidt, CEO/Cyfarwyddwr Sergey Brin, Arlywydd Technoleg Larry E. Page, Arlywydd Cynnyrch George Reyes, CFO |
Diwydiant | Rhyngrwyd |
Cynnyrch | Peiriant chwilio |
Refeniw | ![]() |
Incwm net | ![]() |
Gweithwyr | 85,050 (2018) |
Gwefan | www.google.com |
Cwmni cyhoeddus Americanaidd sy'n darparu gwasanaethau rhyngrwyd yw Google Inc. Ei 'borwr (neu beiriant chwilio) yw'r mwyaf o ran maint a phoblogrwydd ar y we, a cheir fersiynau ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd y byd, mewn dros gant o ieithoedd. Mae'n defnyddio hypergysylltiadau (neu ddolenau) er mwyn asesu pwysigrwydd gwefan.
Mae'r enw "Google" yn chwarae ar y gair "googol", sef 10100 (1 wedi'i ddilyn gan gant o seroau). Mae Google wedi dod yn enwog am ei ddiwylliant corfforaethol a'i gynnyrch newydd a datblygiedig, ac wedi cael effaith enfawr ar ddiwylliant ar-lein. Mae'r ferf Saesneg "google" wedi dod i olygu "i chwilio'r we am wybodaeth", ac mae "googlo" neu "gwglo" wedi ymddangos ar rai gwefannau Cymraeg fel cyfieithiad e.e. "Wyt ti wedi gwglo'r gair 'roced'?".
Un o fentrau diweddaraf Google yw buddsoddiad sylweddol, gyda In-Q-Tel (arf buddsoddi'r CIA) ac Amazon, yn y cwmni newydd Recorded Future, prosiect hel gwybodaeth arlein yn fyw trwy chwilio'n drwyadl degau o filoedd o wefannau, blogiau a chyfrifon Twitter gan gysylltu'r wybodaeth ar unwaith i greu darlun o bwy sy'n gwneud be a phwy sy'n cysylltu gyda phwy ar y rhyngrwyd.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
