Peiriant chwilio
Gwedd

Mae peiriant chwilio, neu chwilotwr, yn system feddalwedd sy'n darparu hypergysylltiadau i dudalennau gwe a gwybodaeth berthnasol arall ar y y We mewn ymateb i ymholiad defnyddiwr. Mae'r defnyddiwr yn cyflwyno ymholiad mewn porwr gwe neu ap ffôn symudol, ac fel arfer cyflwynir y canlyniadau chwilio fel rhestr o hypergysylltiadau ynghyd â chrynodebau testunol a delweddau. Mae gan ddefnyddwyr hefyd yr opsiwn o gyfyngu chwiliad i fathau penodol o ganlyniadau, fel delweddau, fideos, neu newyddion.