Gwyddoniadur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Brockhaus Konversations-Lexikon

Cyfrol ysgrifenedig gynhwysfawr, sy'n gasgliad o wybodaeth ar bwnc neu amrywiaeth o bynciau yw gwyddoniadur.

Hanes y gwyddoniadur[golygu]

Ysgrifenwyd cyfrolau gwyddoniadurol gan rai o awduron Groeg yr Henfyd, megis Aristoteles, a Plinius. Un o brif ganolfannau i weithgarwch o'r fath oedd Llyfrgell enwog Alecsandria yn Yr Aifft.

Yn ystod yr Oesoedd Canol, datblygwyd y dull gwyddonol a'r arfer o nodi ffynonellau gan ysgolheigion Mwslemaidd, a chynhyrchwyd sawl cyfrol gynhwysfawr. Ymysg y rhai mwyaf nodedig mae gwaith Abu Bakr al-Razi ar wyddoniaeth, 270 llyfr Al-Kindi, gwyddoniadur meddygol Ibn Sina, a chyfrolau hanes y Ash'ari, al-Tabri, al-Masudi, ac eraill.

Ysgrifenodd Cassiodorus (c.490 - c.580) wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop.

Datblygodd y gwyddoniadur modern o'r geiriadur yn ystod y 18fed ganrif. Ymysg cyfrolau arloesol y ganrif honno mae'r Cyclopaedia, or Universal Dictionary of Arts and Sciences, Encyclopædia Britannica, a'r Brockhaus Konversations-Lexikon.

Cyhoeddwyd y gwyddoniadur aml-gyfrol Cymraeg cyntaf mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 dan yr enw Y Gwyddoniadur Cymreig, dan olygyddiaeth gyffredinol John Parry (1812-1874).

Geirdarddiad[golygu]

Daw'r gair am wyddoniadur mewn llawer o ieithoedd (Saesneg encyclopaedia a (Ffrangeg encyclopédie er enghraifft) o'r gair Lladin Canol encyclopaedia, o'r gair Roeg ενγκύκλια παιδεία "addysg gyffredinol". Mae gan y Gymraeg gair cynhenid am wyddoniadur, ac yn anarferol yn hynny o beth.

Gweler hefyd[golygu]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am gwyddoniadur
yn Wiciadur.