Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012

gyfryngau sy'n berthnasol i:
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 ar 4–11 Awst 2012 ger hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen, Bro Morgannwg. Gwnaeth yr eisteddfod elw o £50,000.[3]
Prif gystadlaethau
[golygu | golygu cod]| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Llanw | "Owallt" | Dylan Iorwerth |
| Y Goron | Ynys | "Y Frân" | Gwyneth Lewis |
| Y Fedal Ryddiaith | Atal y wobr | ||
| Gwobr Goffa Daniel Owen | Afallon | "Rhys" | Robat Gruffudd |
| Tlws y Cerddor | "Deryn Amheuthun" | Gareth Olubunmi Hughes [4] | |
| Y Fedal Ddrama | Trai | William Bedwyr Rees | |
Paratoi
[golygu | golygu cod]Targed y Gronfa Leol oedd £300,000 ac erbyn yr wythnos cyn yr Eisteddfod, roedd y Gronfa wedi cyrraedd £315,000.[5]
Y Lle Celf
[golygu | golygu cod]Bu rhaid i’r Eisteddfod Genedlaethol roi gorchudd tros bedwar o luniau yn y Lle Celf am eu bod yn dangos lluniau o ferch a gafodd ei llofruddio a’r dyn ifanc oedd wedi ei lladd. Roedd teulu’r ferch, Rebecca Aylward, wedi cwyno ar ôl clywed am luniau'r artist David Rees Davies.[6] Fe ymddiheurodd yr artist i'r teulu.[7]
Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg
[golygu | golygu cod]"Darganfod Gronynnau" oedd teitl prif arddangosfa Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni, mewn cydweithrediad gyda CERN ac Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe.
Gŵyl Dechnoleg Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012
[golygu | golygu cod]Yn ystod yr Ŵyl fe gynhaliwyd Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes, gyda lleoliad swyddogol ym mhabell Cefnlen tu cefn i'r Babell Lên. Gwahoddwyd criw Hacio'r Iaith i lenwi amserlen wythnos gyfan o weithgareddau.[8] Ymysg y gweithgareddau hyn fe gynhaliwyd cyflwyniadau amrywiol a gweithdai blogio, sut i greu apps, a sut i olygu'r Wicipedia Cymraeg. Fe ymwelodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog â'r babell, ynghyd â Leighton Andrews, aelod o gabinet Llywodraeth Cymru.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan yr Eisteddfod; adalwyd Gorffennaf 2012[dolen farw]
- ↑ Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg, 4-11 Awst 2012. Cyngor Bro Morgannwg (Awst 2012). Adalwyd ar 16 Awst 2012.
- ↑ [1] Gwefan y BBC; adalwyd 06 Rhagfyr 2012
- ↑ "Gareth yn cipio Tlws y Cerddor". BBC Cymru Fyw. 2012-08-08. Cyrchwyd 2025-06-28.
- ↑ "Adroddiad Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg Tachwedd 2012" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-06-27. Cyrchwyd 2014-08-16.
- ↑ Gorchuddio lluniau o ferch a’i llofrudd o wefan golwg360.com 9.8.12.
- ↑ Artist y Lle Celf yn ymddiheuro o wefan golwg360.com 11.8.12.
- ↑ Gŵyl dechnoleg Gymraeg i'w chynnal ar Faes y Brifwyl Archifwyd 2013-01-12 yn y Peiriant Wayback o wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru Archifwyd 2012-07-16 yn y Peiriant Wayback
- Holl eitemau o wefan BBC Cymru am yr Ŵyl Archifwyd 2013-07-07 yn archive.today
