Llên Natur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd yw Llên Natur. Mae'n wefan Gymraeg sy'n ymwneud â phopeth amgylcheddol, yng Nghymru a thramor, ddoe, heddiw ac yfory. Cymraeg yw iaith y prosiect, a'r wefan, ond ceir cyfraniadau mewn ieithoedd eraill gan gynnwys y Ffrangeg.[1]

Duncan Brown, golygydd Llên Natur yn dangos rhai o nodweddion y wefan yn ystod Hacio'r Iaith 2010.

Bwletin ar-lein[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n pwysleisio tystiolaeth amgylcheddol unigol a phersonol yn seiliedig ar y profiad ei hun yn hytrach na fersiwn ail-law ohono. Mae'r wefan yn cyhoeddi "Bwletin" ar-lein yn llawn gwybodaeth am fywyd gwyllt, llên gwerin, dywediadau, enwau lleoedd a materion sy'n cysylltu'r unigolyn â'i amgylchedd. Nid oes ymdrech i "gywiro" tystiolaeth, nac i olygu cyfraniadau mwy na'r hyn sy'n anrheidiol. Cadeirydd y Prosiect yw Twm Elias, y Golygydd yw Duncan Brown, a'r technegwyr yw Ifor Williams a Gwyn Williams. Ymhlith y deunydd sydd ar gael ar y wefan y mae:

  • holl ôl-rifynnau'r Bwletin,
  • 5 cronfa ddata (gan gynnwys Tywyddiadur, sef cronoleg o 78,000 o gofnodion dyddiedig am y tywydd a chysylltiedig bethau, cronfeydd o wybodaeth am anifeiliaid a phlanhigion, enwau lleoedd, creigiau a llên gwerin yr hin a'r tywydd)
  • pytiau fideo
  • siop nwyddau Cymdeithas Edward Llwyd
  • recordiadau ("Llais")
  • llyfrgell gyfeiriadol
  • oriel o luniau
  • geiriadur Enwau a Thermau

Y Tywyddiadur[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r system chwilio yn y Tywyddiadur yn caniatau dadansoddi pob math o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â'r tywydd dros ganrifoedd yng nghefn gwlad Cymru a thu hwnt. Mae'r adran hon yn rhyngweithiol gyda chyfle i'r defnyddiwr uwchlwytho neu lawrlwytho. Dyddiaduron personnol na welodd olau dydd ynghynt yw llawer o'r 100,000 o gofnodion (2017), ac mae bywgraffiadau nifer o'u hawduronyn hefyd ar gael ar y wefan.[2]

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'r cofnodion. Mae'r tywydd yn gofnod hanesyddol a chyfoes: nodiadau pobl sy'n fyw heddiw, diwrnod arbennig plentyndod, neu sylw er enghraifft mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl. Efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae yn barod i blannu [taten|tatws]] gefn gaeaf. Ond mae'r rhain hefyd yn berthnasol iawn i naturiaethwyr sy'n ceisio gweld patrwm a newid o fewn y tywydd yn y cyfnod byr a hir.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - gallwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo a chael gwybodaeth allan: chwilio ynteu fewnbynnu.

Recordiadau sain[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r recordiadau sain yn gyfres o sgyrsiau byrion "hanes llafar" am atgofion unigolion (nifer wedi marw bellach) yn eu cynefin, am eu bywyd ac am yr oes a fu, yn ôl eu profiad personol.

Y Llyfrgell gyfeiriol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r llyfrgell yn gasgliad o gyfrolau amgylcheddol nad ydynt dan hawlfraint mwyach, neu'n gasgliad o ymchwil neu ddadansoddiadau o'r Tywyddiadur e.e. ceir dolennau i gopi gwreiddiol o gyfrol Meddygon Myddfai, Welsh Botanology gan Huw Davies a Wild Wales gan George Borrow.

Geiriadur enwau a thermau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r geiriadur enwau a thermau yn blatfform ar gyfer cyhoeddi termau Cymraeg am wahanol rywogaethau;[3] a chynefinoedd ac mae rhestr Wicipedia o wyfynod a glöynnod byw wedi'i seilio ar rai o'r termau hyn. Oherwydd y broses drylwyr o gydweithio rhwng arbenigwyr iaith ac arbenigwyr pwnc caiff yr enwau, bellach, eu cyfrif yn rhai safonol. Sefydlwyd yr adran hon o'r wefan trwy gydwethrediad â MaesT, sef rhan o wasanaeth adran adnoddau ieithyddol Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Fe gyhoeddwyd y rhestrau yn gyntaf mewn tair cyfrol yn "Cyfres Enwau Creaduriaid a Phlanhigion" ac fe barheir i wneud hynny fel y mae'r gwaith o lunio ychwaneg o restrau yn mynd rhagddo.

Oriel luniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir Oriel luniau hefyd ar wefan Llên Natur, sef casgliad o luniau gyda thestun sydd nid yn unig yn fodd i rannu profiadau cofiadwy ymysg y darllenwyr, drwy lun, ond hefyd, trwy ddisgrifiad manwl. Mae'r Oriel hefyd yn gwbl rhyngweithiol.

Cysylltu ar-lein[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir cysylltu â'r prosiect trwy ffurflen "cysylltu" ar y wefan, trwy gyfrannu data neu luniau i'r gwahanol gronfeydd, neu trwy Facebook. Cyhoeddir crynodeb papur o gynnwys y Bwletin yn chwe misol i'w werthu yn y siopau, a chynhelir cynhadledd flynyddol ar thema arbennig yn flynyddol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]