Ffrangeg
Gwedd
| Enghraifft o: | iaith fyw, iaith naturiol, iaith |
|---|---|
| Math | Langue d'oïl, Ieithoedd De Ewrop |
| Rhagflaenwyd gan | Classical French |
| Enw brodorol | français |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-1 | fr |
| cod ISO 639-2 | fra, fre |
| cod ISO 639-3 | fra |
| Gwladwriaeth | Ffrainc, Y Swistir, Canada, Benin, Bwrcina Ffaso, Gweriniaeth y Congo, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Y Traeth Ifori, Gabon, Gini, Mali, Monaco, Niger, Senegal, Togo, Bwrwndi, Camerŵn, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Y Comoros, Jibwti, Gini Gyhydeddol, Haiti, Lwcsembwrg, Madagasgar, Rwanda, Seychelles, Tsiad, Fanwatw, Algeria, Andorra, Cambodia, Beilïaeth Ynys y Garn, India, Yr Eidal, Beilïaeth Jersey, Libanus, Mawritania, Mawrisiws, Moroco, Fietnam, Gwlad Belg, Tiwnisia, Laos, Unol Daleithiau America |
| System ysgrifennu | French alphabet, French Braille |
| Corff rheoleiddio | Académie française, Academi Frenhinol Gwlad Belg, iaith a llenyddiaeth, Office québécois de la langue française |
| Dynodwyr | |
Mae'r Ffrangeg (français, IPA [fʁɑ̃sɛ]) yn iaith Romáwns sy'n cael ei siarad yn frodorol yn Ffrainc, Walonia a Rhanbarth Brwsel-Prifddinas yng Wlad Belg, y Swistir, Monaco, broydd Québec ac Acadia yng Nghanada, yn ogystal â chymunedau eraill, fel y Caribî. Yn wir, siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd yn y byd.
Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg fel ail iaith yng Ngogledd a Gorllewin Affrica.
Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.
Ymadroddion cyffredin
[golygu | golygu cod]- français : Ffrangeg
- gallois : Cymraeg
- anglais : Saesneg
- salut ! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ça va ? : sut mae?
- bonjour ! : bore/p'nawn da!
- bonsoir ! / bonne soirée! : noswaith dda!
- au revoir ! : da boch chi! / Hwyl fawr!
- bonne nuit ! : nos da!
- excusez-moi ! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- pardon ! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
- merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch â dweud merci ! nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch je veux bien ! yn hytrach na merci ! neu gewch chi 'mohono fe.)
- merci bien : diolch
- merci beaucoup : diolch yn fawr
- de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
- (je suis) desolé(e) : mae'n flin gen i
- oui : ie / do / oes etc.
- si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno â rhywun.
- non : nage / naddo / nag oes etc.
- Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
- À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!
Dywediadau
[golygu | golygu cod]- bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
- Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
- Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
- oh là là! : o diar!
Geiriau diddorol
[golygu | golygu cod]- baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
- chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal
Dosbarthiad daearyddol
[golygu | golygu cod]
Gwledydd lle mae'r Ffrangeg yn iaith swyddogol
[golygu | golygu cod]
Arfordir Ifori
Benin
Bwrcina Ffaso
Bwrwndi
Camerŵn
Canada
Comoros
Fanwatw
Ffrainc
Gabon
Gini
Gini Gyhydeddol
Gweriniaeth Canolbarth Affrica
Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
Gweriniaeth y Congo
Gwlad Belg
Haiti
Jibwti
Lwcsembwrg
Madagasgar
Mali
Monaco
Niger
Rwanda
Senegal
Seychelles
Y Swistir
Togo
Tsiad
Gwledydd lle mae'r Ffrangeg yn iaith weinyddol/ddiwylliannol
[golygu | golygu cod]Gwledydd lle mae'r Ffrangeg yn iaith swyddogol mewn endidau adrannol
[golygu | golygu cod]
Caledonia Newydd
Guernsey
Jersey
Mayotte
Polynesia Ffrengig
Pondicherry
Saint Barthélemy
Saint-Martin
Saint-Pierre-et-Miquelon
Tiroedd Deheuol ac Antarctig Ffrainc
Valle d'Aosta
Wallis a Futuna
Ynys Clipperton
Sefydliadau rhyngwladol sy'n defnyddio'r Ffrangeg fel iaith swyddogol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, OL20243680W, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/, adalwyd 23 Ebrill 2022
- ↑ https://www.ethnologue.com/language/fra. Ethnolog. dyddiad cyrchiad: Medi 2018.
- ↑ https://www.ethnologue.com/language/fra. Ethnolog.
- ↑ 4.0 4.1 (yn en) Ethnologue (25, 19 ed.), Dallas: SIL International, ISSN 1946-9675, OCLC 43349556, OL20243680W, Wikidata Q14790, https://www.ethnologue.com/
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Geiriadur Sylfaenol, Cymraeg - Ffrangeg, Ffrangeg - Cymraeg. Archifwyd 2012-05-23 yn y Peiriant Wayback
- Geiriadur iaith Ffrangeg - Cymraeg Archifwyd 2012-05-19 yn y Peiriant Wayback
Argraffiad Ffrangeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
| ||||||||||||||

