Ffwlbart

Oddi ar Wicipedia
Ffwlbart
Mustela putiorus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Genws: Mustela[*]
Rhywogaeth: Mustela putorius
Enw deuenwol
Mustela putorius





Linnaeus, 1758

Dosbarthiad y rhywogaeth

Mamal cigysol o deulu'r carlymfilod (Mustelidae), sef teulu'r wenci a'r carlwm, yw'r ffwlbart (lluosog: 'ffwlbartiaid', Lladin: Mustela putorius), a elwir hefyd yn ffwlbart gyffredin, du neu ffwlbart y goedwig, ffured Ewropeaidd, neu ffuret gwyllt. Fe'i ceir yng nghoedydd, ffermdiroedd a gwlyptiroedd ar draws Ewrop. Mae'n bwydo ar gwningod, cnofilod, llyffantod a thrychfilod. Dyma un o hynafiad gwyllt y ffured dof.

Mae ei gorff a'i ben yn 20–46 cm o hyd ac mae ei gynffon yn 7–15 cm. Brown tywyll yw lliw ei flew gyda blew melyn ar ei ystlysau a phatrwm du a gwyn trawiadol ar ei wyneb. Mae'n greadur swil iawn ac i'w weld allan yn y nos. Mae'n nofiwr cryf ac yn gallu dal pysgod ond mamaliaid bychain yw ei hoff fwyd.

Y ffwlbart yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Roedd y ffwlbart (Mustela putorius) yn gyffredin trwy Brydain ar un adeg ond erbyn dechrau'r 20g yn gyfyngedig i Eryri a Chanolbarth Cymru. Wrth i gipera leihau o'r 1920au, a thrapio cwningod leihau o'r 1950au, cynyddodd yn gyflym. Goroesodd y rhywogaeth yng Nghymru gan ymledu trwy ganolbarth Lloegr a cheir niferoedd cynyddol yn Lloegr a'r Alban heddiw. Fe'i croeswyd â'r ffured ddof i greu'r “ffured ddu” sy'n ddiguro ar gyfer hela cwningod a difa llygod mawr.

Ar ddechrau'r 21g credir bod dros 17,000 ohonynt yng Nghymru.

Pa dystiolaeth gynhanesyddol o'r oes holosen sydd am bresenoldeb y ffwlbart yng Nghymru a/neu Brydain?

1. Mae cofnodion o 9 is-ffosil a gafwyd o waddodion Pleistosen o ffwlbart Mustela putorius, 3 ohonynt o Gymru[1]. Fodd bynnag, nid yw cofnodion yr is-ffosiliau hyn wedi eu dyddio'n fanwl, neu wedi eu dyddio o gwbl[2]
2. Gellid dehongli naws ogleddol dosbarthiad Ewropeaidd y ffwlbart[3] fel arwydd iddo gyrraedd Prydain trwy ymlediad naturiol i'r gogledd o dde Ewrop ar ôl enciliad y rhewlif ond cyn iddi gael ei hynysu. Yn y cyswllt yma mae'n ddadlennol cymharu dosbarthiad Ewropeaidd gogleddol belau'r coed Martes martes a gyrrhaeddodd Brydain gyda belau'r graig Martes foina sydd â dosbarthiad Europeaidd mwy deheuol ac na chyrrhaeddodd Prydain o gwbl (er iddo gyrraedd gogledd Ffrainc).[4][1]

Beth ddywed yr enwau wrthym?[golygu | golygu cod]

Cymraeg[golygu | golygu cod]

Yn 2002 cododd erthygl yng nghylchgrawn Mammal Review Cymdeithas y Mamoliaid (''The Mammal Society'') amheuon ynghylch statws cynhenid y ffwlbart yng Nghymru a Phrydain gan ddadlau bod y record ffosil prin a thystiolaeth ieithyddol gynnar yn bwrw amheuon ar y statws hwn. Yn wahanol i fwyafrif anifeiliaid cynhenid Prydain, nid yw enw Cymraeg y ffwlbart o gyff Celtaidd - mae'n tarddu o'r Saesneg Canol foulmart) nid yn annhebyg i fwyafrif rhywogaethau estron Prydain megis y gwningen a'r danas (enwau sy'n tarddu, yn eu trefn, o'r Saesneg Canol konyng a Hen Ffrangeg dain). Nid oes son am ffwlbart mewn llenyddiaeth Eingl-Sacsoneg na chwaith mewn llenyddiaeth Gymraeg, cyn y Concwest Normanaidd yn 1066. Y cyfeiriad cyntaf ato yn y Gymraeg fu yn Llyfr Coch Hergest y 14g ac yn Saesneg yn The Pardoner’s Tale (1383) gan Chaucer. Mewn cyferbyniad, mae tystiadau i'r gair Cymraeg bele Martes martes yn mynd yn ôl o leiaf i Gyfreithiau Cymreig y 10g, ac o bosibl, llawer ynghynt yn yr Hen Ogledd (yng ngororau'r Alban a Lloegr)[4][5][6]

Llydaweg[golygu | golygu cod]

Enwau Llydaweg am y ffwlbart yw pudask, putoask a puteos, pob un yn tarddu o'r Ffrangeg putois [7]. Nid oes atgof 'Celtaidd' felly yn yr iaith Lydaweg (iaith a gafodd ei ffurfio o'r Frythoneg yn y 5ed a'r 7g gan ymfudiad siaradwyr yr ieithoedd hynny) yn Llydaw chwaith. Gellid dehongli'r absenoldeb hwn yn yr eirfa Gymraeg fel dadl i amau presenoldeb y ffwlbart yn nhiriogaeth siaradwyr Cymraeg cynnar ar y pryd)[4]. Y ffwlbart yw'r unig famal a ystyrir yn gynhenid, sydd ag enw Cymraeg o darddiad estron)[8].

Llên a diwylliant[golygu | golygu cod]

Cerddi[golygu | golygu cod]

Yn groes i'r casineb at y ffwlbart a ddisgrifiwyd (yn Lloegr) uchod, mae rhai cerddi rhamantaidd o Oes Fictoria yn adlewyrchu peth edmygedd ohono, ac ar y cyfan mae'r enghreifftiau canlynol yn defnyddio mwy o eiriau positif ("hynod", "heb ei eilydd", "ffel", "swilaidd", "aidd") na negyddol ("bryd Pharo", "drewaidd"):

Nos-deithydd yn ystwytho - ei goesau
Yn gyson i reibio
Hynod ei wedd ydyw o,
Brawd ffured o bryd Pharo.
R. Roberts[9]
Byw heliwr heb ei eilydd - yw
Ffwlbart a ffel ben nos-deithydd
Pwy a ddeil yr ysbeilydd
Allan o'i dwll yn y dydd!
Dienw[9]
Y Ffwlbart (Buddugol yn Cwrtnewydd)
Nos heliwr yw'r 'Ffwlbart' 'swilaidd - y clawdd
Yw cled[sic.] noddfa'r drewaidd
Un yw ef yn llawn o aidd,
Byr ei goes yw'r bar gwasaidd.
Ben Davies, Glancerdin[10]

Mae eraill yn cymharu'r ffwlbart ô phethau a ystyrid yn annymunol, megis dyfodiad y modur, gydag ansoddeiriau negyddol yn bennaf ("anwaraidd", "rhywyllt", "drewi", "baw"):

Y Modur
Olwynog ffwlbart diflinaw, na erys,
Anwaraidd ei gyffraw,
Ad[sic.] yn rhywyllt, dan ruaw,
Y byd mewn drewi a baw.
Y Brython Cymreig (10ed Mehefin 1909)

Mewn enghraifft arall cyflëir peth o ddirgelwch yr anifail a ddarganfuwyd yng ngardd Maesymeillion - "y trydydd welwyd yno yn ystod y ddau fis diweddaf". Mae'r adroddiad yn helaethu: "Methir â dyfalu beth a'u huda i le mor beryglus, a beth sydd a fynont a gardd Maesymeillion mwy na rhyw ardd gyffredin arall. Crea y digwyddiadau gryn syndod ymysg yr ardalwyr, a gofynant gydag un llais..."angen ffynhonnell:

Pa ddewin a ddywed beth huda'r ffwlbartiaid
I ardd Maesymeillion - i le mor felldigaid
I bwll y sugnedydd yn druain eu cyflwr,
I fyn'd yn ddirybudd dan law'r dienyddwr?
Llais o Gwmdyllest[sic.?] yn Y Brython Cymreig (21ain Ionawr 1898)

Rhyddiaith[golygu | golygu cod]

Daliodd Mr W. Hughes, y Ffridd, ffwlbart nos Fawrth diweddaf. Daliwr heb ei fath yw. Beth pe rhoddem y gwaith o ddal y Kaiser iddo?[11]
GWEITHRED DDEWR [dan golofn am Lwynrhydowen] Wrth son am gwn, darfu i ast fechan Mr D Thomas, Cloth Hall [Nantlle?], ladd ffwlbart yn ddiweddar yn llawer mwy ei faintioli na hi. Dyma weithred werth ei chroniclo, onidê? Er mai bychan ydyw o gorff eto fel ei mheistr, medda ar ysbryd penderfynol a di-ildio. Dywedir ei bod yn greadur bach addfwyn iawn a hawdd ei thrin hyd nes y cyferfydd a "Shorthorn" ac yna, gyrrir hi i gynddeiriogrwydd bron gan ysgyrnygu ei dannedd yn arswydus. Nis gallaf gan fy nghydwybod ei beio am hyn. Ni wyddis yn iawn beth a'i cymhellodd i ymddwyn mor greulon tuag at y ffwlbart, druan; bernir yn gyffredin fod sawr Shortornaidd arno. GWYLIWR[12]

Llên gwerin ac anecdotau ayb.[golygu | golygu cod]

Y Naw Helwriaeth: Dringhedydd yw pob peth a ddringo i frig pren i'w amddiffyn ei hun. Ac ni ddyly heliwr ddywedyd bele, neu gath goed, neu wiwair, neu ffwlbart, ond eu galw dringhedydd llwyd, dringhedydd du, dringhedydd coch.[13]
Fodd bynag, sydyn, rhuthrodd amryw o'r bobl i fyny i'r clochdy... Ar eu gwaith yn agosau at y gloch, canfyddasant, er eu syndod, ffwlbart mawr, wedi ddyrysu yn y rhaff, yr hwn, yn ei waith yn ymdrechu i ddianc, a ganai y gloch, ac a fu yn achos o'r holl gynnwrf yn y Pentref[14]

Dywedir: “yn drewi fel ffwlbart”, “yn ddiog fel ffwlbart”.

Yn wahanol i'r bele, nid oes enwau lleoedd hysbys yng Nghymru sydd yn cyfeirio at ffwlbart (Mae ambell enghraifft o Nyth Cacwn difriol, a Nyth Dryw, [2], ac fe glywir cyfeiriadau llafar at "Nyth Ffwlbart" fel enw ar dŷ anniben). Mae'r absenoldeb hwn yn gyson â'r dybiaeth nad anifail cynhenid yw'r ffwlbart.

Tua deg o'r gloch nos Iau Gorffennaf 5ed [2018], roedd Contractor yn cyrraedd yma i barselu/lapio Byrnau Mawr mewn Plastig. Pan oedd yn troi o'r ffordd fawr i'r lôn yma, fe welodd chwech neu saith o Ffwlbariaid ifanc... Dwy flynedd yn ol fe welwyd golygfa debyg ar och y (ffordd) allt Foel Gosydd [sic.], llai na hanner milltir oddiyma[15].

Saesneg[golygu | golygu cod]

Yn y Saesneg daeth y gair polecat i olau dydd ar ôl Concwest Normanaidd Lloegr, wedi ei ysgrifennu fel polcat. Tra bo'r ail sill yn hunan-esboniadwy, mae tarddiad y cyntaf yn anghlir. Fe'i terddir o bosib o'r Ffrangeg poule (iar), yn adlewyrchu hoffter yr anifail am ddofednod, ond fe all fod hefyd yn amrywiad ar yr Saesneg ful, yn golygu foul (drewllyd). Yn y Saesneg Canol cyfeirid at yr anifail fel foumart, yn golygu rhywbeth fel bele drewllyd (i'w gyferbynnu efallai â'r "bele melys" (sweet mart))[4].

Mae’n debyg nad oes yr un anifail Prydeinig arall sydd wedi cael cymaint o enwau llafar â'r ffwlbart. Yn ne Lloegr cyfeirid ato fel fitchou tra’n y gogledd fe’i adwaenid fel foumat neu foumard. Fodd bynnag mae llu o rai eraill gan gynnwys amrywiadau sillafu diddiwedd: philbert, fulmer, fishock, filibart, poulcat, poll cat, ayb. Adnabu Charles Oldham o leiaf 20 fersiwn o’r enw yn Swyddi Hertford/Bedford yn unig.[16].

Ieithoedd eraill[golygu | golygu cod]

Yn yr Hen Ffrangeg cyfeirid at y ffwlbart fel fissau, a darddai o ferf Almaeneg Isel a "Sgandinafaidd" a olygai drewi. Mae'r ffurf fitchet yn wreiddyn y fisher (anifail) o Ogledd America, a enwyd gan ymfudwyr Iseldiroedd a welodd rai nodweddion tebyg yn y ddwy rywogaeth[26] a daeth yntau yn ei dro yn fitch, a ddefnyddir am groen yr anifail.[27]

Enwau lleol a chynhenid[golygu | golygu cod]

Lladin[golygu | golygu cod]

Yn ogystal â nifer o enwau brodorol yn cyfeirio at ddrewdod (gweler uchod) tardd yr enw gwyddonol Mustela putorius hefyd o ddrewdod naturiol y rhywogaeth hon. Ystyr y Lladin putorius yw drewllyd (neu waeth) ac mae'n gytras a’r gair putrid.

Disgrifiad corfforol[golygu | golygu cod]

Adeiledd y corff[golygu | golygu cod]

Deintiad yn ol Knight: Sketches in Natural History

Mae ymddangosiad y ffwlbart yn nodweddiadol o aelodau'r genws Mustela (y carlymfilod), er ei fod yn gyffredinol yn fwy cryno o gorff ac, er yn goesfer, mae iddo gorff llai hirfain na'r minc neu ffwlbart y stepdir.[28][29]. Cynffon fer sydd ganddo, tua thraean hyd ei gorff.[28] Mae'r llygaid yn fach gydag iris brown tywyll. Mae bodiau'r traed yn hir a lled-weog, gyda chrafangau ôl 4 mm o hyd, lled-grymiog, heb fod yn ôl-dynadwy. Mae'r crafangau blaen yn grymiog iawn, yn lled ôl-dynadwy, ac yn mesur 6 mm o hyd[30]. Mae'r traed yn weddol hir ac yn fwy praff na rhai aelodau eraill y genws[29]. Mae penglog y ffwlbart yn gymharol arw a throm, yn fwy felly na'r minc, gyda pharth blaen cryf ond llydan a byr. Mewn cymhariaeth â charlymfilod eraill o faintioli tebyg, mae dannedd y ffwlbart yn gryf iawn, mawr a swmpus o'u cymharu a maint y benglog. Mae dwyffurfedd rhywiol y benglog yn ei amlygu ei hun ym mhenglog ysgafnach, culach y fenyw.[31]

Ysgerbwd, fel y'i dyluniwyd yn The New Natural History gan Richard Lydekker.

Amrywia maintioli'r ffwlbart yn fawr. Nid yw'r rhywogaeth yn cyd-ymffurfio a Rheol Bergmann; mae maintioli ei gorff dros amrediad ei ddosbarthiad fel petai'n mynd yn fwy o'r dwyrain i'r gorllewin[32]. Mae gyrywod yn mesur 350–460 mm o hyd corff a benywod yn mesur 290–394 mm. Mae'r gynffon yn mesur 115–167 mm (gwrywod) a 84–150 mm (benywod). Mae oedolion gwryw canol Ewrop yn pwyso 1,000-1,500 gram a rhai benyw 650-815 gram. Ceir achosion o "anferthiaeth" ymysg ffwlbartaid ond mae'r cyfryw sbesimenau yn debyg o fod yn ffrwyth croesfridio[33][34]

Ei flew[golygu | golygu cod]

Ffwlbart erythristig Cymreig ieuanc yn y British Wildlife Centre, Surrey, Lloegr

Dugoch yw lliw cot aeaf y ffwlbart gyda chryfder y lliw yn cael ei benderfynu gan liw'r gwarchodflew. Ar y cefn a'r ystlys lleddfir tywyllwch y lliw gan isflew melynwyn, weithiau llwydfelyn, sydd yn dangos trwodd. Nid yw'r isflew yr un mor weladwy. Gorchuddir y cefn a'r parthau ôl gan warchodflew tywyll. Mae'r gwddf, gwar a'r gest yn ddugoch. Mae'r aelodau'n ddu pur neu ddu ag arlliw o frown, a'r gynffon yn ddu neu'n ddugoch heb unrhyw isflew golau. Mae'r parth o gwmpas y llygaid yn ddu-goch, gyda rhesen o liw tebyg ar hyd pont y trwyn. Mae'r clustiau'n ddu-goch wedi eu hymylu â gwyn. Mae cot yr haf yn fyr, tenau a garw, yn llwytach, dylach ac yn llai gloyw na chot yr haf. Mae'r isflew yn wannach ei ddatblygiad yng nghot yr haf, sydd o liw llwydfrown neu lwytgoch[35]. Mae'r ffwlbart yn nofiwr da[36] ond nid yw ei flew wedi eu ynysu cystal yn erbyn dŵr oer ag yw blew'r minc Americanaidd; tra bo'r minc yn cymryd 118 munud i oeri mewn dŵr o dymheredd 8 °C, mae'r ffwlbart yn oeri llawer ynghynt, gan gymryd 26–28 munud i oeri.[37]

Ceir dwy brif ffurf (neu ffenoteip) ar ffwlbartiaid, yr un nodweddol ac un sydd â chot dywyll heb fwgwd gwyn[38]. Ceir hefyd cyfnewidiadau lliw sy'n cynnwys ffurf albino a ffurf goch erythristig.[35]

Ymddygiad[golygu | golygu cod]

Mae'r ffwlbart yn llawer llai amddiffynnol o'i diriogaeth na'i gyd-aelodau o deulu'r Mustelidae gydag anifeiliaid o'r un rhyw yn rhannu'n aml yr un libart[39]. Ac fel eraill o'i deulu mae'r ffwlbart yn amlwreiciwr, a'r fenyw yn beichiogi'n syth ar ôl paru, heb unrhyw ofyliad wedi ei hysgogi[40]. Fel arfer mae'n esgor ar dorraid o bump i ddeg cathan sydd yn cyrraedd cyflwr annibynnol ar ôl dau neu dri mis. Mae'n bwyta cnofilod bychain, adar, amffibiaid ac ymlusgiaid[40]. Fe all anablu ei brae trwy frathu trwy'r benglog ei brae gan ei roi i'w gadw yn ei ffau.[40][41]

Ymddygiad cymdeithasol a thiriogaethol[golygu | golygu cod]

Cynigir y termau Cymraeg canlynol am y termau Saesneg a) habitat, b) home-range a c) territory, sef termau a ddefnyddir am y gwahanol foddion mae mamaliaid (yn bennaf) yn defnyddio tir: yn eu trefn felly; a) cynefin (natur y tir, ei lysdyfiant, topograffi, uchder ayb), b) libart, cynefin (defaid a geifr yn unig), weithiau mewn modd mwy cyffredinol milltir sgwar (y tir cyfarwydd y mae anifail yn ei fynychu o ddydd i ddydd; gall hwn amrywio gyda rhyw, oed a thymor), ac c) tiriogaeth (y tir y mae anifail yn ei amddiffyn rhag cystadleuwyr, fel arfer o'r un rhywogaeth.)

Yn wahanol i ffwlbart y stepdir, mae bywyd y ffwlbart Europeaidd yn llawer mwy sefydlog, yn meddu ar ei libart lled-ddigyfnewid ei hun[42]. Mae nodweddion y libart hwn yn wahanol fodd bynnag yn ôl y tymor, y cynefin, rhyw y deiliad a'i statws yn ei gymdeithas[43]. Mae benywod ffrwythlon yn ymsefydlu mewn libart penodol tra bod gwrywod ffrwythlon a'r ieuainc yn fwy symudol ac yn gwasgaru dros barthau mwy amhenodol i fodloni eu hanghenion.[44]

Mae gwrywod yn nodweddiadol yn amddiffyn tiriogaeth fwy nag a wna benywod. Mae pob ffwlbart yn defnyddio mwy nag un wâl[45] ac weithiau defnyddir hen wâl mochyn daear neu lwynog[42]. Mae warinoedd cwningod yn aml yn fangreoedd o brysurdeb mawr i ffwlbartod. Yn y gaeaf gwnaiff ddefnyddio adeiladau fferm neu dasau gwair fel lleoedd ymochel liw dydd. Nid yw'r ffwlbart mor diriogaethol ag yw llawer o garlymfilod bychain eraill, ac fe brofwyd iddynt rannu tiriogaeth gydag eraill o'r un rhyw. Mae tystiolaeth o ffwlbartiaid yn marcio'u tiriogaeth yn wan[45]. Fel carlymfilod eraill mae'n anifail di-sŵn, er y gwnaiff riddfan yn ffyrnig mewn dicter, a gwichian mewn trallod. Bydd hefyd yn lleisio cri mewian isel i'w gymar neu i'w epil.[46]

Cenhedlu a phrifio[golygu | golygu cod]

Un sydd yn bridio'n dymhorol yw'r ffwlbart, heb unrhyw ddefodau carwriaeth. Yn ystod y tymor cymharu mae'r gwryw yn cydio yng ngwar y fenyw er mwyn ei hysgogi i fwrw wy, ac wedyn mae'n cymharu â hi am hyd at awr. Mae'r rhywogaeth yn amlwreiciol gyda phob gwryw yn cymharu a nifer o fenywod. Yn wahanol i garlymfilod bach eraill ni chaiff ofyliad ei ysgogi, a beichiogir yn syth. Mae cyfnod torogiad y fenyw yn para am 40-43 diwrnod; esgorir ar y torllwythi ym mis Mai neu Fehefin cynnar. Mae i dorllwythi arferol bump i ddeg cathan. Ar eu genedigaeth maent yn pwyso 9-10 g ac yn mesur 55–70 mm o hyd corff; maent yn ddall a byddar. Ar ôl wythnos bydd gorchudd o flew sidanaidd gwyn ar y cathannod, ac yn ei le erbyn 3-4 wythnos daw cot wlannaidd o liw llwydfrown-sinamon. Mae'r broses o'u diddyfnu yn cychwyn pan font yn dair wythnos oed, tra bo'r dannedd parhaol yn ymddangos ar ôl 7-8 wythnos. Daw annibyniaeth y cathannod ar ôl dau neu dri mis[47]. Mae benywod yn warchodol iawn o'u hepil, a dywedir iddynt herio pobl sydd yn dod yn rhy agos i'r dorllwyth[48]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Ffwlbart Albanaidd yn amddiffyn gweddillion cwningen rhag gwenci, yn narlun Archibald Thorburn

Ymborth[golygu | golygu cod]

Ffwlbart yn ymosod ar betrisen fel y'i dangosir yn Amgueddfa Natur Cenedlaethol Bwlgaria

Mae deiet y ffwlbart yn cynnwys cnofilod o faint llygod, yna amffibiaid ac yna adar. Prae di-fudd iddo yw amffibiaid fodd bynnag gan mor isel yw eu gwerth calorïaidd, pa sawl bynnag ohonynt mae'n eu bwyta. Pennir rythm ei gyfnodau bywiog gan weitharwch ei brif brae[49]. Ymhlith y rhywogaethau nad ydynt yn amlyn ysglyfaeth i'r ffwlbart, y mae'r draenog, y neidr wair a thrychfilod[50]. Ar ynysoedd Prydain mae'n lladd llygod mawr a chwningod yn rheolaidd, ac mae'n atebol i ladd prae mwy sylweddol megis gwyddau ac ysgyfarnogod.[47] Gwelwyd un ffwlbart yn aros ar lan afon i ddal llysywod, gan ddychwelyd i'w wal gyda hwy[51]. Mae'r ffwlbart yn ymborthi ar lysywod yn bennaf yn ystod cyfnodau o oerfel llym, pan fydd y llysywod yn crynhoi oherwydd rhew, o gwmpas "tyllau anadlu". Yn wahanol i'r carlwm a'r wenci mae'r ffwlbart yn aml yn bwyta celanedd gan gynnwys gweddillion carnolion[52]. Mae'r ffwlbart yn hela ei brae trwy herwa, neidio arno a'i frathu yn ei wegil gyda'i ddannedd carnysol, gan ei ladd. Greddf ynddo yw'r dull hwn ond fe'i perffeithir trwy ymarfer. Weithiau mae'r ffwlbart yn rhoi ei fwyd i'w gadw, yn enwedig mewn cyfnod o doreth o lyffantod[53]. Nid yw'r ffwlbart bob tro yn eu lladd, ond yn eu brathu ym môn y benglog a'u parlysu i'w cadw'n ffres at rywdro eto[47]. Er eu bod fel rheol yn swil yng ngŵydd pobl sonia'r naturiaethwr Alfred Brehmen yn ei Brehms Tierleben am enghraifft eithriadol o dri ffwlbart yn ymosod ar fabi yn Hesse[48]. Yn ystod y gaeaf, pan fo ysglyfaeth byw yn brin, gall y ffwlbart ysbeilio cychod gwenyn am y mêl.[54]

Gelynion a chystadleuwyr[golygu | golygu cod]

Gall y ffwlbart fod yn ysglyfaeth i lwynogod[54] ac i gathod dof a chathod gwylltion[55]. Er i'r ffwlbart gydfyw â'r minc Ewropeaidd (er bod un cofnod o ffwlbart yn ymosod ar finc a'i lusgo i'w wâl[56]), mae'n dioddef yn yr ardaloedd lle mae'r minc Americanaidd ar gael, gan fod yr ail rywogaeth yn lladd yr un prae mamolaidd â'r ffwlbart lawer mwy na'r minc Ewropeaidd, ac wir, fe'i gwelwyd yn erlid y ffwlbart o'i gynefinoedd corsiog[57]. Lle ceir y ffwlbart yn cyd-ddigwydd â ffwlbart y stepdir, mae'r ddwy rywogaeth yn gorgyffwrdd yn fawr yn eu dewis o ddeiet, er i'r gyntaf dueddu i fwyta mwy o fwyd tai ac adar, tra bo'r ail yn canolbwyntio fwy ar famoliaid[58]. Mae o leiaf un cofnod o fele'r graig Martes fouina yn lladd ffwlbart[59]. Gall y ffwlbart ymosod ar wenci sy'n sylweddol llai nag ef.[60]

Croesfridio[golygu | golygu cod]

Pennau o eiddo 1) ffwlbart, 2) ffured and 3) croesiad ffwlbart-ffured

Mewn rhai ardaloedd Brydain, arweiniodd y trai yn yr arfer o gadw ffuredi at groesiadau ffured-ffwlbart yn y gwyllt wrth i'r anifeiliaid gael eu traed yn rhydd. Mae'n debyg i ffuredi gyrraedd Prydain ar ôl y Concwest Normanaidd, neu efallai mor hwyr a'r 14g[61]. Nid yw'n bosibl ar hyn o bryd i wahaniaethu rhwng ffwlbartiaidd a chroesiadau trwy ddadansoddiad DNA gan fod y ddwy ffurf yn rhy berthynol â'i gilydd a chymysg eu tras i ganiatáu cymhwyso dulliau genetigol modern[62]. Mae croesfridio rhwng y ddau anifail yn dangos, yn nodweddiadol, clytyn gwyn amlwg ar y gwddf, traed gwyn a blew gwyn yn gymysg yn y blew[63]. Fel arfer, bydd croesiadau cenhedlaeth gyntaf rhwng ffwlbartod a ffuredi yn datblygu ofn nodweddiadol eu rhiant gwyllt os gadewir hwynt gyda'u mam yn ystod y cyfnod critigol cymdeithasoli rhwng 7½ ac 8½ wythnos oed[64]. Weithiau hysbysebir croesiadau honedig fel anifeiliaid arbennig er mwynhela cwningod, er fod croesiadau go iawn yn debyg o fod yn anos i'w trin, yn llai 'tebol o ymgynefino a chŵn, ac yn fwy tebyg o ladd y gwningen yn ddioed yn hytrach na'i chodi'n fyw o'i thwll yn unig[65].

Gall ffwlbartod groesi â'r minc Ewropeaidd prin, gan ddod ag epil a elwir yn khor'-tumak gan werthwyr pân[66] a khonorik (o'r geiriau Rwseg am ffured a minc) gan y rhai sydd yn eu cadw[67]. Mae ymgroesi o'r fath yn brin iawn yn y gwyllt, ac fel arfer nid yw'n digwydd ond mewn ardaloedd lle mae'r minc Ewropeaidd ar drai[68]. Mae i groesiad ffwlbart-minc fwgwd wynebol gwael ei ddatblygiad, blew melyn ar y clustiau, isflew llwyd-felyn hir a blew bras gwarchodol brown tywyll. Mae'n weddol fawr, gyda'r gwryw yn cyrraedd maintioli gyda'r mwyaf i'w hil (yn pwyso 1,120-1,746 g ac yn mesur 41–47 cm o hyd), ac mae'r fenyw yn sylweddol fwy na menyw minc Ewropeaidd (yn pwyso 742 g and measuring 37 cm o hyd)[34].

Mae'r mwyafrif o groesiadau ffwlbart-minc yn meddu ar benglog lawer tebycach i benglog ffwlbart nag i minc[69]. Fe all y croesiadau nofio'n dda fel minc a thurio am fwyd fel ffwlbart. Maent yn anodd iawn i'w dofi a'u bridio, gan fod gwrywod yn anffrwythlon er bod benywod yn ffrwythlon[67][69]

Crewyd y croesiad ffwlbarth-minc cyntaf yn 1978 gan swolegydd Sofietaidd y Dr. Dmitry Ternovsky o Novosibirsk. Cawsant eu bridio gyntaf i gael eu ffwr (a oedd yn fwy gwerthfawr na blew y naill riant na'r llall), ond bridwyd llai gyda thrai poblogaeth y minc Ewropeaidd[67]. Dengys astudiaethau ar ecoleg ymddygiadol croesiadau ffwlbart-minc a fu a'u traed yn rhydd ym mlaenau'r Afon Lovat, fod y croesiadau'n fwy tebyg o grwydro o gyffiniau cynefinoedd acwatig na mincod pur ac yn goddef y ddwy riant-rywogaeth yn eu tiriogaeth er bod maintioli'r croesiad (yn enwedig y gwryw) yn rhwystro hyn. Yn ystod yr haf mae deietau croesiadau ffwlbart-minc yn debycach i ddeiet minc nag i ddeiet ffwlbart gan iddynt ymborthi ar lyffantod. Yn y gaeaf mae'r ddeiet yn gorgyffwrdd fwy â deiet y ffwlbart, ac fe fwytânt gyfran fwy o gnofilod nag yn yr haf, er yn parhau'n ddibynnol iawn ar lyffantod, ac anaml iawn y byddant yn ysbeilio celanedd carnolion fel y gwna ffwlbartiaid.[34] Gall y ffwlbart hefyd fridio gyda ffwlbart y stepdir o Asia, neu'r ffured droed-ddu o ogledd America ac yn esgor ar epil ffrwythlon[61]. Mae croesiadau rhwng y ffwlbart Ewropeiadd a ffwlbart y stepdir yn brin iawn, er iddynt fynychu'r un tir mewn amryw ardaloedd. Fodd bynnag fe'u gwelwyd yn ne'r Wcráin, yn nhalaith Kursk a Voronezh, mynyddoedd Traws-Carpatia ac amryw o ardaloedd eraill.[70]

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Penglog, fel a ddyluniwyd yn Catalogue of the Mammals of Western Europe (Europe exclusive of Russia) yng nghasgliad yr Amgueddfa Brydeinig gan Gerrit Smith Miller

Y "gwir" ffwlbart cynharaf oedd Mustela stromeri a ymddangosodd yn ystod cyfnod Villafranch. Roedd yn gryn llai na'r ffurf bresennol, a dywedir i hyn awgrymu iddo esblygu'n gymharol hwyr. Cafwyd ffosiliau hynaf y ffwlbart modern yn yr Almaen, Prydain a Ffrainc, ac maent yn dyddio yn ôl i gyfnod y Pleistosen Canol. Perthnasau agosaf y ffwlbart fodern yw ffwlbart y stepdir (Mustela eversmanii) a'r ffured troed-ddu (Mustela nigripes), a chredir iddynt ill tair ddeillio o hynafiad cyffredin, sef Mustela stromeri. Fodd bynnag, nid yw'r ffwlbart wedi esblygu i raddau mor eithafol i gyfeiriad cigysoledd ag a wnaeth ffwlbart y stepdir, gan iddo feddu ar benglog a deintiad llai arbenigol[45][71][72][73]

Mae'n debyg i'r ffwlbart ymwahanu oddi wrth ffwlbart y stepdir rhwng 430,000 a 1.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[74]. Fe berthyn hefyd i'r minc Ewropeaidd ac fe all groesfridio[66]

Hyweddu[golygu | golygu cod]

Merched yn hela cwningod gyda ffured yn Sallwyr y Frenhines Mary

Cadarnha astudiaethau morffolegol, sytolegol a molecwlegol mai'r ffwlbart Ewropeaidd yw unig hynafiad y ffured, hwn felly yn gwrthbrofi unrhyw gysylltiad a wneid â ffwlbart y stepdir, y credid ar un adeg iddo gyfrannu i genhedlu'r ffured.[63]

Is-rywogaethau[golygu | golygu cod]

Ers 2005[75] adweinir saith is-rywogaeth.

Is-rywogaeth Awdurdod tri-enwol Disgrifiad Lledaeniad Synonymau
Ffwlbart
M. p. putorius

(Is-rywogaeth Enwol [nominate])

Linnaeus, 1758 Mwy na mosquensis, gyda blew tywyllach, ysgafnach a disgleiriol[76] Gorllewin Rwsia Ewropeaidd, gorllewin Belarws, gorllewin Yr Wcráin, Canolbarth Ewrop a gorllewin Ewrop flavicans (de Sélys Longchamps, 1839)

foetens (Thunberge, 1789)
foetidus (Gray, 1843)
iltis (Boddaert, 1785)
infectus (Ogérien, 1863)
manium (Barrett-Hamilton, 1904)
putorius (Blyth, 1842)
verus (Brandt in Simashko, 1851)
vison (de Sélys Longchamps, 1839)
vulgaris (Griffith, 1827)

Ffwlbart Cymreig
M. p. anglia

Pocock, 1936 Lloegr a Chymru
Ffwlbart Môr y Canoldir
M. p. aureola

Barrett-Hamilton, 1904 Is-rywogaeth fechan gydag isflew melynaidd[77], gall fod yr hynafiad penodol y daw y ffured ohono, ar sail nodweddion deintyddol[78]. Mynycha barthau deheuol a gorllewinol Penrhyn Iberia
Ffwlbart Albanaidd

wedi ei ddifodi
M. p. caledoniae

Tetley, 1939 Yr Alban
Ffured domestig
M. p. furo

Linnaeus, 1758 Yn ffurf wedi ei hyweddu, mae'r benglog â nodweddion tebyg i'r is-rywogaeth enwol er iddi rannu nodweddion â ffwlbart y stepdir[72]. Fel arfer nid yw'r blew tywyll wynebol yn ymestyn at y trwyn, tra bo clytiau gwelwaidd y bochau yn ymestyn yn ehangach ac yn gwrthgyferbynnu'n wael â'r 'mwgwd' tywyll. Gall un bawen neu ragor fod yn wyn, gyda gwrychflew gwarchodol gwyn yn ymledu dros y corff, yn enwedig o gwmpas y pen ôl[79] albus (Bechstein, 1801)

furoputorius (Link, 1795)
subrufo (Gray, 1865)

Ffwlbart Canolbarth Rwsia
M. p. mosquensis
Heptner, 1966 Is-rywogaeth fechan, gyda blew cymharol olau ac ysgafn, ond yn ddilewyrch[76] Rwsia Ewropeaidd orientalis (Brauner, 1929)

orientalis (Polushina, 1955)
ognevi (Kratochvil)

Ffwlbart Carpathaidd
M. p. rothschildi
Pocock, 1932 Is-rywogaeth o liw gwan, ei blew yn ymdebygu i flew ffwlbart y stepdir[80] Dobruja, Rwmania.

Lledaeniad, hanes a chadwraeth[golygu | golygu cod]

Mae'r ffwlbart yn eang ei ddosbarthiad yn y Palaearctig gorllewinol, cyn belled a'r Wralau yn Ffederasiwn Rwsia er ei fod yn absennol o Iwerddon, o ogledd Sgandinafia, o lawer o'r Balcanau ac o arfordir dwyreiniol y Môr Adriatig. Ychydig sydd ar gael yng ngogledd Groeg. Fe'i ceir ym Moroco ym Mynyddoedd Riff, o lefel y môr i 240m. Cyflwynwyd ei ffurf ddofedig, y ffured, i Brydain, i rai ynysoedd Môr y Canoldir ac i Seland Newydd.[6]

Ynysoedd Prydain[golygu | golygu cod]

[Cyfieithiad] Mae yna enghreifftiau eithafol, ond erys y ffaith i ffwlbartiaid Lloegr a Chymru gael eu herlid yn llymach nag unrhyw garlymfilyn arall. A effeithodd yr erledigaeth ar niferoedd drwyddynt draw, ynteu dim ond boddhau ysbryd dialedd lleol a wnaeth? ... Gall y ffwlbart fod yr enghraifft orau o rywogaeth yr effeithiwyd yn sylweddol iawn ar ei nifer gan yr hela ddidrugaredd. Ystadau hela'r 19g yn y pen draw fwriodd yr ergyd farwol arno [yn Lloegr]


Roger Lovegrove (2007)[81]

Ym Mhrydain yn gyffredinol ystyriwyd y ffwlbart yn ymosodydd difrifol ar ddofednod cyn i ffensys weiren gyrraedd y tir, a'r unig ddewis a welwyd i ddod i ben â hyn oedd ei ddifa'n llwyr. Serch hynny, nid oedd hyn yn wir ymhobman efallai: dyma ddywed Peter Hope Jones mewn astudiaeth yn 1974:[82]

[cyfieithiad]: "I sir [sef Meirionnydd] y cydnabyddir iddi fod ynghanol hen gadarnle'r ffwlbart, cofnodwyd cymharol ychydig o ffwlbartod yng nghofnodion plwyfi Meirionnydd o blith ei thaliadau bownti. Efallai nad oedd yr anifail hwn yn cael ei ystyried yn bla o bwys, ond am ba reswm bynnag, dim ond yng nghofnodion dau blwyf yn unig y cyfeirir yn uniongyrchol at y rhywogaeth hon dan yr enwau rydym yn ei adnabod heddiw. Yn y pedair blynedd 1729-1732 lladdwyd tuag 20 ym mhlwyf Tywyn, a thalwyd 2/6 am ffwlbart yn ei lawn dwf a hanner y swm hwn am ffwlbart ifanc (kittin meddid). Mae'r cofnodion am Llanfor.... yn dangos mai dim ond 42 a laddwyd yn y cyfnod 39-mlynedd 1720-1758, gyda'r taliad yn hanner y swm hwnnw ar y raddfa gyfredol am lwynog."

Cofnodion Cymreig hanesyddol cyfoes[golygu | golygu cod]

Gyda chyrhaeddiad y modd digidol o chwilio hen ddogfennau, efallai ei bod hi'n bryd rhoi ail gynnig ar y math hwn o ymchwil, gyda'r posibilrwydd o ddarganfod swmp llawer mwy o ddata. Dyma a ddaeth i'r golwg mewn papur newydd ar lein yn y Cymro (7fed Gorffennaf 1898) am blwyf yn Sir Feirionnydd eto, yn awgrymu gwerth cyfartal rhwng croen llwynog a chroen ffwlbart.

Rhoddir dyfyniadau o hen lyfr plwyf Llanfor, ger y Bala, y rhai a daflant gawodydd o oleuni ar arferion plwyfol yn Nghymru yn ystod y ganrif ddiweddaf. Dyma gyfrif un Warden Plwyf am y flwyddyn 1728:
5 eitem yn agor y rhestr, wedyn y canlynol:
Telais i Huw Kydwalad am ladd llwynog 00 05 00
Telais i Robert Huw am ffwlbart a dau gyw 00 05 00
Telais i Sion Lewis am groen i wneud panel i'r elor feirch 00 01 00
[3]

Ac mewn ardaloedd a phapurau eraill, fel cynnig ar ehangu ymchwil Hope Jones i weddill Cymru, gan gynnwys amrywiol ffynonellau, dyma enghreifftiau:

Lladdwyd deg ffwlbart ar hugain ar un ystâd yn sir Aberteifi o Ebrill 20, 1891 hyd Ionawr 30, 1893[83].
Cario 200 o bales hefo Caradog o cae canol a cae sofl. Mynd i Betws hefo Caradog i nol tablets a heibio Sbyty yn ôl . Gweld 9 ffwlbart ar ffridd Tŷ Mawr. Cawodydd trymion, cymylog, gwlyb (Cwm Eidda, Ysbyty Ifan, 12 Awst 1960)[84]

Lloegr[golygu | golygu cod]

Oherwydd cyd-ddibyniaeth ecolegol ddofn sydd rhwng Cymru a Lloegr mae'n werth olrhain ei hanes yno. Yng Nghaint talodd o leiaf 42 o blwyfi fownti am ffwlbart, tri ohonynt yn yr 19g, er, erbyn hynny, unigolion yn unig a gofnodwyd, yn aml ar ol bylchau o rai blynyddoedd[85]}}. Yn Nheyrnas yr Alban, yn ystod teyrnasiad David II trethwyd pob tociwr crwyn ffwlbart 4c., a godwyd drachefn i 8c. yn 1424. Daliai crwyn ffwlbartiaid le pwysig ym marchnadoedd crwyn yr Alban; gwerthwyd 400 o grwyn yn 1829 yn Ffair Crwyn Dumfries (1816-1874) a 600 yn 1831. Y flwyddyn ganlynol, disgrifiodd adroddiad cyfoes grwyn ffwlbartod fel "a drug on the market". Yn 1856, gostyngodd y nifer o grwyn a werthwyd i 240, 168 yn 1860, 12 yn 1866 ac i dim yn 1869[86]. Ataliwyd gostyngiad pellach gan drai cipera ar yr ystadau saethu a physgota rhwng y ddau ryfel byd.[87]

Bellach, ceir ffwlbartiaid ar hyd y rhan fwyaf o Gymru wledig ac yn Lloegr o Swydd Gaer i'r de hyd at Wlad yr Haf, ac i'r dwyrain hyd at Swydd Gaerlŷr a Swydd Northampton, er iddo farw o'r tir dros ran helaeth o Loegr, gan oroesi yng Nghymru yn unig (ac eithrio ym Môn). Bu ymlediad sylweddol dros glawdd Offa yn ystod y ganrif a aeth heibio. Cafodd y rhywogaeth ei chyflwyno i swyddi Cumbria a Westmorland (Cumbria heddiw), i Argyll ac i Ddyffryn Spey yn yr Alban yn ystod y 1970au ac 1980au, er na wyddys pa beth yw statws presennol y poblogaethau hyn.

Mae ei ddosbarthiad modern yn aneglur yn rhannol oherwydd presenoldeb croesiadau ffwlbart-ffured. Ar wahan i brosiectau ail-gyflwyno, ffactorau eraill sydd yn cynorthwyo adferiad y ffwlbart i'w hen diriogaethau yw cynnydd ym mhoblogaeth cwningod a gostyngiad mewn erledigaeth gan giperiaid. Ystyrid ei boblogaeth yn hyfyw ers canol y 1990au. Gwarchodir y ffwlbart dan ddeddf Brydeinig ac Ewropeaidd; fe'i rhestrir ar Restr 6 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ac ar Reoliad 41 o [[Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994|Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994 ac yn rhestredig yn Atodiad V o'r Cyfarwyddiad Cynefinoedd[88]. Cynhaliwyd arolwg gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent yn 2015 ac fe'i cafwyd wedi ymledu i ardaloedd fel Dwyrain Lloegr a de Swydd Efrog lle nas gwelwyd ef am 100 mlynedd. Disgrifiodd y naturiaethwr Chris Packham yr ymlediad fel "un o'r adferiadau naturiol mawr"[89]

Heintiau a pharasitau[golygu | golygu cod]

Fe all y ffwlbart ddioddef o glefyd y cŵn (distemper), y ffliw (neu'r anwydwst), yr annwyd gyffredin a niwmonia. Weithiau caiff ei effeithio gan diwmor adwythig a dŵr ar yr ymenydd (hydrosephali). Yn gyffredin caiff ei ddannedd eu torri, ac yn llai aml, caiff cornwydydd marwol ar yr ên, pen a'r gwddf. Yn Ewrop ceir enghreifftiau o ffwlbartiaid yn cario'r gynddaredd mewn rhai ardaloedd[90]. Adweinir nifer o ectoparasitau, yn eu plith mathau o chwain megis, Ctenocephalides felis, Archaeospylla erinacei, Nosopsyllus fasciatus a'r chwannen Paraceras melis. Ectoparasit mwyaf cyffredin y ffwlbart yw'r drogen Ixodes hexagonus, ac fe'i ceir weithiau mewn niferoedd plagus ar y gwddf a thu ôl i'r clustiau. Math arall llai cyffredin sy'n manteisio arno yw I. canisuga. Adnabyddir hefyd y lleuen brathu Trichodectes jacobi[90]. Ymysg yr endoparasitiau mae ffwbartiaid yn eu cario y mae'r sestodau Taenia tenuicollis a T. martis a'r nematodau Molineus patens, Strongyloides papillosus, Capilliaria putorii, Filaroides martis and Skjrabingylus nasicola.[90]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Reynolds, S.H. (1912) A Monograph of the British Pleistocene Mammals: Mustelidae, Palaeontographical Society, Llundain
  2. Yalden, D (llythyr personol)
  3. Mitchell-Jones ac eraill, (2000): The Atlas of European Mammals (Poyser, Llundain
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Brown, Duncan (2002): The Foulmart; what's in a name Mammal Review 32(2) 145-149
  5. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1046/j.1365-2907.2002.00104.x
  6. 6.0 6.1 Fernandes, M.; Maran, T.; Tikhonov, A.; Conroy, J.; Cavallini, P.; Kranz, A.; Herrero, J.; Stubbe, M.; Abramov, A.; Wozencraft, C. (2008). "Mustela putorius". Rhestr Goch yr IUCN o rywogaethau dan fygythiad. Version 2008. International Union for Conservation of Nature.CS1 maint: ref=harv (link) Database entry includes a brief justification of why this species is of least concern
  7. Hincks, R. (llythyr personol)
  8. https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1046/j.1365-2907.2002.00104.x
  9. 9.0 9.1 Y Negesydd 3ydd Rhagfyr 1897
  10. The Journal, Carmarthen: 5 Chwefror 1892
  11. Y Dinesydd Cymreig (15 Awst 1917) dan y golofn Baladeulyn
  12. Y Brython Cymreig, 9 Gorffennaf 1897
  13. http://newspapers.library.wales/view/3593529/3593534/10/ffwlbart
  14. Seren Cymru, 5 Mehefin 1863: http://newspapers.library.wales/view/3195447/3195453/28/ffwlbart
  15. llythyr i raglen Radio Cymru Galwad Cynnar gan R.O. Davies, Peniel, Dinbych
  16. Lovegrove, R. (2007): Silent Fields: The long decline of a nation's wildlife, Gwasg Prifygol Rhydychen
  17. Moore, A. W. (1924). A vocabulary of the Anglo-Manx dialect. Oxford University Press.
  18. Carr, William (1828). The dialect of Craven: in the West-Riding of the county of York. p. 56. Printed for W. Crofts.
  19. Robinson, C. Clough (1862). The dialect of Leeds and its neighbourhood: illustrated by conversations and tales of common life, etc. To which are added a copious glossary; notices of the various antiquities, manners, and customs, and general folk-lore of the district. p. 388. J.R. Smith.
  20. Bobbin, Tim (1850). The dialect of South Lancashire: or, Tim Bobbin's Tummus and Meary : with his rhymes and an enlarged glossary of words and phrases, chiefly used by the rural population of the manufacturing districts of South Lancashire. p. 185. J.R. Smith.
  21. Dinsdale, Frederick (1849). A glossary of provincial words used in Teesdale in the County of Durham. p. 48. J. R. Smith.
  22. Lewis, George Cornewall, Sir (1839). A glossary of provincial words used in Herefordshire and some of the adjoining counties. p. 41. J. Murray.
  23. Cobham, Alan (n.d.) Dialect – A Glossary of Lancashire Words as Spoken in Mawdesley. Mawdesley Village Web Site. [arlein]. http://www.mawdesley-village.org.uk/dialect.php Archifwyd 2013-05-10 yn y Peiriant Wayback.
  24. 24.0 24.1 Wilson, James (1923). The dialect of Robert Burns as spoken in central Ayrshire. p. 190. Oxford University Press.
  25. Smith, J. R. (1839). The Yorkshire Dialect: Exemplified in Various Dialogues, Tales & Songs, Applicable to the County. To which is Added, a Glossary of Such Words as are Likely Not to be Understood by Those Unacquainted with the Dialect. p.24. London: John Russell Smith.
  26. Powell, R.A. (1981). Mammalian Species: Martes pennanti. The American Society of Mammalogists. pp. 156:1–6. http://www.science.smith.edu/departments/Biology/VHAYSSEN/msi/pdf/i0076-3519-156-01-0001.pdf.
  27. Johnston 1903, t. 154
  28. 28.0 28.1 Heptner & Sludskii 2002, t. 1108
  29. 29.0 29.1 Miller 1912, t. 419
  30. Harris & Yalden 2008, t. 477
  31. Heptner & Sludskii 2002, tt. 1112–1113
  32. De Marinis, Anna M. (1995) Craniometric variability of polecat Mustela putorius L. 1758 from North-Central Italy., Hystrix, (n.s.) 7 (1-2) (1995): 57-68
  33. Heptner & Sludskii 2002, tt. 1114–1115
  34. 34.0 34.1 34.2 34.3 Sidorovich, V. (2001) Finding on the ecology of hybrids between the European mink Mustela lutreola and polecat M. putorius at the Lovat upper reaches, NE Belarus Archifwyd 2012-03-16 yn y Peiriant Wayback. Small Carnivore Conservation 24: 1-5
  35. 35.0 35.1 Heptner & Sludskii 2002, tt. 1109–1111
  36. Lodé, T. 1999 - Comparative measurements of terrestrial and aquatic locomotion in Mustela lutreola and M. putorius. Zeitschrift für Säugetierkunde (Mammal Biol) 64 : 110-115.
  37. .Heptner & Sludskii 2002, t. 1411
  38. LODÉ T. 2001. Genetic divergence without spatial isolation in polecat Mustela putorius populations. Journal of Evolutionary Biology.14 : 228-236
  39. Harris & Yalden 2008, pp. 480–481
  40. 40.0 40.1 40.2 Harris & Yalden 2008, pp. 482–483
  41. Johnston 1903, p.155
  42. 42.0 42.1 Heptner & Sludskii 2002, t. 1129
  43. LODE T. 2011. Habitat selection and mating success in a Mustelid. International J of Zoology Volume 2011, Article ID 159462
  44. LODÉ T. 2001. Mating system and genetic variance in a polygynous mustelid, the European polecat. Genes and Genetic systems 76 : 221-227
  45. 45.0 45.1 45.2 Harris & Yalden 2008, tt. 480–481
  46. Johnston 1903, t. 155
  47. 47.0 47.1 47.2 Harris & Yalden 2008, tt. 482–483
  48. 48.0 48.1 .Brehm 1895, t. 158
  49. LODÉ T. 1995 - Activity pattern of polecats Mustela putorius L. in relation to food habits and prey activity. Ethology 100 : 295-308.
  50. Heptner & Sludskii 2002, tt. 1127–1129
  51. Lydekker 1896, tt. 115
  52. Zoologist: a monthly journal of natural history, Volume 4 (1846)
  53. LODÉ T. 1996 - Predation of European polecat upon frog and toad populations at breeding sites in western France. Ethology, Ecology, Evolution 8 : 115-124.
  54. 54.0 54.1 Maxwell, William Hamilton (1833) The field book: or, Sports and pastimes of the United kingdom; comp. from the best authorities, ancient and modern, E. Wilson
  55. Heptner, V. G. & Sludskii, A. A. 1992. Mammals of the Soviet Union. Vol. II, part 2, Carnivores(Feloidea), Leiden, E. J. Brill. 784 pp. ISBN 90-04-08876-8
  56. Heptner & Sludskii 2002, tt. 1104–1105
  57. Sidorovich, V. E., MacDonald, D. W., Kruuk, H. & Krasko, A., 2000. Behavioural interactions between the naturalized American mink Mustela vison and the native riparian mustelids, NE Belarus, with implications for population changes Archifwyd 2012-03-16 yn y Peiriant Wayback.. Small Carnivore Conservation, 22: 1–5.
  58. Lanszki, J.; Heltai, M. Diet of the European polecat and the steppe polecat in Hungary Archifwyd 2011-08-31 yn y Peiriant Wayback., 2007, Mammalian Biology 72: 49-53
  59. Heptner & Sludskii 2002, tt. 902
  60. Heptner & Sludskii 2002, tt. 992
  61. 61.0 61.1 Davison, A., et al. (1999) Hybridization and the phylogenetic relationship between polecats and domestic ferrets in Britain Archifwyd 2011-07-27 yn y Peiriant Wayback., Biological Conservation 87 :155-161
  62. Polecat FAQs Archifwyd 2011-07-27 yn y Peiriant Wayback. © The Vincent Wildlife Trust 2010
  63. 63.0 63.1 Harris & Yalden 2008, tt. 485–487
  64. Poole TB (1972) Some behavioral differences between European polecat, Mustela putorius, ferret, M furo, and their hybrids. J. Zool 166:25–35
  65. Plummer, David Brian (2001) In Pursuit of Coney, Coch Y Bonddu Books, ISBN 0-9533648-8-7
  66. 66.0 66.1 Heptner & Sludskii 2002, tt. 1086–1088
  67. 67.0 67.1 67.2 "Khonorik: Hybrids between Mustelidae". Russian Ferret Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-31. Cyrchwyd 9 Mai 2011.
  68. LODÉ T., GUIRAL G. & PELTIER D. 2005. European mink-polecat hybridization events: hazards from natural process ? Journal of Heredity 96 (2): 1-8
  69. 69.0 69.1 Tumanov, Igor L. & Abramov, Alexei V. (2002) A study of the hybrids between the European Mink Mustela lutreola and the Polecat M. putorius Archifwyd 2011-07-28 yn y Peiriant Wayback. Small Carnivore Conservation 27: 29-31
  70. Heptner & Sludskii 2002, tt. 1144–1145
  71. Kurtén 1968, tt. 98–100
  72. 72.0 72.1 Heptner & Sludskii 2002, tt. 1115–1117
  73. Kurtén Björn (1980), Pleistocene mammals of North America, Columbia University Press, ISBN|0-231-03733-3
  74. Sato, J., T. Hosada, W. Mieczyslaw, K. Tsuchiya, Y. Yamamoto, H. Suzuki. 2003. Phylogenetic relationships and divergence times among mustelids (Mammalia: Carnivora) based on nucleotide sequences of the nuclear interphotoreceptor retinoid binding protein and mitochondrial cytochrome b genes Archifwyd 2011-10-03 yn y Peiriant Wayback.. Zoologial Science, 20: 243-264.
  75. Wozencraft, W.C. (2005). "Order Carnivora". In Wilson, D.E.; Reeder, D.M. Mammal Species of the World: A Taxonomic and Geographic Reference (3rd ed.). Johns Hopkins University Press. ISBN 978-0-8018-8221-0. OCLC 62265494
  76. 76.0 76.1 Heptner & Sludskii 2002, tt. 1125–1126
  77. Miller 1912, t. 425
  78. Hemmer 1990, tt. 49–50
  79. Kitchener, Andrew (2002), Polecats and Ferrets: How to tell them apart Archifwyd 2013-10-04 yn y Peiriant Wayback., The Vincent Wildlife Trust, ISBN|0946081476
  80. Pocock, R. I. The Polecats of the Genera Putorius and Vormela in the British Museum, Proceedings of the Zoological Society of London, Volume 106, Issue 3, pages 691–724, Medi 1936
  81. Lovegrove 2007, t. 200
  82. Hope-Jones, P. (1974) Wildlife Records from Merioneth Parish Documents Nature in Wales 14(1): https://journals.library.wales/view/1220475/1223401/38#?xywh=-300%2C1439%2C2425%2C1746 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
  83. Y Cymro: 30th Mawrth 1893
  84. Dyddiadur D.O Jones, Ty Uchaf. Padog
  85. Lovegrove 2007, t. 198
  86. Ritchie 1920, t. 162
  87. Lovegrove 2007, tt. 275–276
  88. Joint Nature Conservation Committee. 2007. Second Report by the UK under Article 17 on the implementation of the Habitats, Directive from Ionawr 2001 to December 2006. Peterborough: JNCC. Available from: http://www.jncc.gov.uk/article17 Archifwyd 2008-11-20 yn y Peiriant Wayback.
  89. "Conservationists: Polecats 'spreading across Britain'". BBC. 28 Ionawr 2016. Cyrchwyd 29 Ionawr 2016.
  90. 90.0 90.1 90.2 Harris & Yalden 2008, t. 484

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: