Cath

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cath
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Felidae
Genws: Felis
Rhywogaeth: F. silvestris
Isrywogaeth: F. s. catus
Enw trienwol
Felis silvestris catus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Felis catus

Mae'r gath (felis catus) yn rhywogaeth famalaidd, gigysol. Mae'n anifail anwes a fegir am ei chwmnïaeth, yn aml, a'i gallu i hela pryf a nadroedd a hynny ers o leiaf 9,500 o flynyddoedd.[1]

Mae'n heliwr celfydd, a cheir dros fil o wahanol fathau. Gellir ei hyfforddi i ufuddhau i orchmynion syml. Mae rhai cathod penodol yn enwog am allu gweithio systemau mecanyddol syml fel dyrnau drysau. Mae cathod yn defnyddio nifer o wahanol fathau o synau ac iaith-gorfforol wrth gyfathrebu. Gyda 600 miliwn o gathod fel anifeiliad anwes ledled y byd, cathod, mae'n bosib, yw'r anifail anwes mwyaf poblogaidd yn y byd.[2]

Gath

Credir mai yn Aifft Hynafol y cafodd y cathod cyntaf eu bridio, ond fe ddarganfuwyd mewn astudiaeth yn 2007 mai yn y Dwyrain Canol - a hynny dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Llên gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y gath ddof (Felis domesticus) yn werthfawr yng Nghyfraith Hywel am iddi amddiffyn yr ysguboriau rhag plaon llygod. Mae llên gwerin yn ei chysylltu ag arwyddion tywydd, gwrachod y tybid y gallasent drawsffurfio eu hunain yn gathod, ac ystyrid y gallasai arwyddo hynt enaid ymadawedig i'r Nefoedd neu i Uffern. Mae'r Cymry yn hoff o weld cathod du eu lliw gan eu bont yn dod â lwc dda.

Ers diwedd y 1970au amlhaodd adroddiadau am gathod anferth tebyg i'r panther neu lewpard du, piwma a.y.b., yng nghefn gwlad Cymru, e.e. Bwystfil y Bont, Bwystfil Ton-mawr, Bwystfil Brechfa. Posib iddynt ddianc, neu gael eu rhyddhau o gasgliadau preifat i osgoi gofynion Deddf Anifeiliaid Peryglus 1976.

Cath wyllt[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y gath wyllt (Felis sylvestris) i'w chael yn ardaloedd gwylltaf Cymru tan ddiwedd y 18g. Cafodd ei difa pan ddaeth gynnau'n gyffredin a chiperiaid i warchod helfeydd y stadau. Roedd yn gyfyngedig i Eryri a'r Canolbarth erbyn 1850 a thebyg mai'r cofnod olaf o'r brîd pur yw un o Aber-miwl yn 1862. Er hynny, goroesodd rhai cathod fferal â nodweddion corfforol y gath wyllt ynddynt hyd ddechrau'r 20g. Anodd dilyn eu hanes i sicrwydd oherwydd cymysgedd ynglŷn â'r enwau, h.y. gallasai “cath goed”/”cath wyllt” mewn cofnodion plwyfi weithiau gyfeirio at gathod fferal a ffwlbartod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Y gath anwes hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghyprus". National Geographic News. 2004-04-08. http://news.nationalgeographic.com/news/2004/04/0408_040408_oldestpetcat.html. Adalwyd 2007-03-06.
  2. "Amrwyiaeth cathod gan National Geographic". MySpaceTV. http://myspacetv.com/index.cfm?fuseaction=vids.individual&videoid=35944126. Adalwyd 2008-11-22.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).



Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am cath
yn Wiciadur.