Triaglog gyffredin

Oddi ar Wicipedia
Triaglog gyffredin
(Valeriana officinalis)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Dipsacales
Teulu: Caprifoliaceae
(neu Valerianaceae)
Genws: Valeriana
Rhywogaeth: V. officinalis
Enw deuenwol
Valeriana officinalis
L.

Perlysieuyn blodeuol ydy'r Triaglog gyffredin (Lladin: Valeriana officinalis; Saesneg: Valerian) gyda blodau gwyn neu binc persawrus. Gelwir triaglog yn "llysiau Cadwgan", "felarian", a'r "feddyges fach" hefyd yn y Gymraeg[1]. Yng Nghymru mae'n blodeuo rhwng Mehefin a Medi a thyf drwy Ewrop, rhannau o Asia ac fe'i tyfwyd yn ddiweddar yn America lle mae'n cael ei fasnachu cryn lawer. Yn yr 16eg roedd y triaglog yn cael ei dyfu i wneud persawr. Yn yr un teulu mae'r Triaglog coch.[2]

Caiff ei beillio gan y glöyn byw yn yr haf.[3]

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Mae'r hadau, y dail a'r gwreiddiau'n cael eu defnyddio ar gyfer eu rhinweddau iachusol.

Caiff y planhigyn ei ddefnyddio i leddfu straen, lladd poen a chur pen.[4] Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer anhunedd (insomnia), i ymlacio'r cyhyrau ac i atal anhunedd[5] Mae rhai defnyddwyr yn gorfod ei gymryd am wythnosau llawer cyn iddo weithio, ond caiff effaith sydyn ac uniongyrchol ar ddefnyddwyr eraill. Y cynhwysion sy'n weithredol yw'r olew, indoidau ac alcaloidau, sydd i gyd yn cynorthwyo'r corff i ymlacio.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi
  2. Llun o'r traiglog coch
  3. Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri[dolen marw]
  4. "Gwefan rhannol Gymraeg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-05. Cyrchwyd 2009-04-23.
  5. The Health Store Magazine; Rhifyn Tachwedd-Rhagfyr 2012.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]