Meddygon Myddfai

Oddi ar Wicipedia
Murlun o Chwedl Llyn y Fan
Ardal Mynydd Myddfai- Sir Gâr

Llinach o feddygon llysieuol yn byw ym mhentref Myddfai yn Sir Gaerfyrddin oedd Meddygon Myddfai.

Ceir y cofnod cyntaf amdanynt yn y 13g, pan oedd Rhiwallon Feddyg a'i feibion Cadwgan, Gruffudd ac Einion, yn feddygon i Rhys Gryg, tywysog Deheubarth. Cofnodir iddynt roi triniaeth iddo pan glwyfwyd Rhys mewn brwydr gerllaw Caerfyrddin yn 1234, ond ni fuont yn llwyddiannus yn yr achos yma a bu farw o'i glwyf, ymhen ychydig, yn Llandeilo. Parhaodd y llinach hyd 1739, pan fu farw'r olaf ohonynt, John Jones. Cedwir eu cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi meddyginiaethau llysieuol yn Llyfr Coch Hergest, yn dyddio o ran olaf y 14g, a llawysgrifau Cymreig eraill, diweddarach.

Cysylltir dechreuadau'r llinach a chwedl Llyn y Fan Fach. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger Llanddeusant) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo tair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth roedd y ferch, a buont yn hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger Myddfai, a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliaid eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i helpu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol Rhiwallon, sylfaenydd llinach y meddygon. Mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith.

Yr hyn a geir yn llawysgrifau Meddygon Myddfai yw casgliad o gyfarwyddiadau ynglŷn â deall a dadansoddi afiechydon a gwella cleifion. Er bod gwedd Gymreig arbennig iddynt, maent yn perthyn i draddodiad a oedd yn gyffredin i sawl rhan o Ewrop yn yr Oesoedd Canol, yn gyfuniad o feddyginiaeth lysieuol draddodiadol a syniadau'r oes am drin cleifion. O safbwynt ieithyddol, mae'r llawysgrifau hyn yn ffynhonnell bwysig am dermau meddygol ac enwau planhigion hefyd.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Physicians of Myddvai = Meddygon Myddfai: or, the medical practice of the celebrated Rhiwallon and his sons of Myddvai, in Carmarthenshire ... cyfieithwyd gan John Pughe, golygwyd gan John Williams (Ab Ithel) (Llanymddyfri, 1861).
  • Nesta Lloyd a Morfydd E. Owen (gol.), Drych yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 1986). Ceir detholiad o destunau o lawysgrifau Meddygon Myddfai yn y bennod 'Meddyginiaeth'.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]