GIG Cymru
| Enghraifft o: | system iechyd, asiantaeth lywodraethol |
|---|---|
| Rhan o | Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Llywodraeth Cymru |
| Dechrau/Sefydlu | 5 Gorffennaf 1948, 1946 |
| Pencadlys | Parc Cathays |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.nhs.wales/, https://www.gig.cymru/ |
| Dynodwyr | |
GIG Cymru (Saesneg: NHS Wales) yw enw corfforaethol swyddogol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru; yr oedd yn rhan o'r un stwythur Gwasanaeth Iechyd Gwladol â Lloegr tan yn ddiweddar ond erbyn heddiw mae'n ddatganoledig dan ofal Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Strwythur
[golygu | golygu cod]Ceir sawl ysbyty GIG yng Nghymru, yn ysbytai cyffredinol, cymunedol a lleol.
Crëwyd Byrddau Iechyd Lleol yn 2003 i gymryd lle'r hen Awdurdodau Iechyd. Mae ymddiriedolaethau iechyd Cymru yn gyfrifol am weinyddu ysbytai yn eu rhanbarth ynghyd â gofal cymunedol a gwasanaethau iechyd meddwl. Ceir 12 ymddiriedolaeth ranbarthol ynghyd ag un ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac un arall, Felindre Archifwyd 2005-10-01 yn y Peiriant Wayback, ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol ar draws Cymru.
Mae saith bwrdd iechyd yng Nghymru[1]:
|
3. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 5. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |

Mae gan Gymru un ysbyty sy'n darparu hyfforddiant, sef Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae Comisiwn Iechyd Cymru Archifwyd 2006-02-13 yn y Peiriant Wayback yn asiantaeth weithredol dan reolaeth Llywodraeth y Cynulliad sy'n trefnu gofal canolog arbenigol. Mae'n darparu yn ogystal gyngor am wasanaethau arbenigol i GIG Cymru.
Mae gwasanaeth NHS Direct ar gael yng Nghymru hefyd, sy'n cynnig cyngor i gleifion yn Gymraeg a Saesneg. Enw Cymraeg y gwasanaeth yw Galw Iechyd Cymru.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr ysbytai Cymru (wedi eu trefnu yn ôl Ymddiriedolaeth Iechyd GIG)
- Sláintecare
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-02-10.