Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | byrddau Iechyd Cymru ![]() |
Pencadlys | Abercynon ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://ctmuhb.nhs.wales/ ![]() |
Bwrdd Iechyd lleol yng Nghymru yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (Saesneg: Cwm Taf Morgannwg University Health Board). Hwn yw'r enw newydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o 1 Ebrill 2019 yn dilyn trosglwyddo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o hen Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Fe'i sefydlwyd yn 2009 fel y sefydliad olynol cyfreithiol i Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf (Saesneg: Cwm Taf NHS Trust). Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth ar 1 Ebrill 2008 yn dilyn uno ymddiriedolaethau GIG Gogledd Morgannwg a Phontypridd a'r Rhondda.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gwasanaethau gofal iechyd yn bennaf ar gyfer poblogaeth Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf ac (o 1 Ebrill 2019) Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae pencadlys Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf yn Nhŷ Ynysmeurig, Parc Navigation, Abercynon.