Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Caerdydd
Cardiffmontage3.jpg
Coat of Arms of Cradiff.jpg
Arwyddair Deffro! Mae'n Ddydd! Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Afon Taf Edit this on Wikidata
Math Dinas, Prifddinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth 361,468 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1081 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Dianne Rees Edit this on Wikidata
Cylchfa amser GMT Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Stuttgart, Vigevano, Bari, Naoned, Xiamen, Luhansk, Pernik Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Dinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Arwynebedd 140.3 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Uwch y môr 41 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Afon Taf, Môr Hafren, Afon Elái Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Llantrisant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.48°N 3.18°W Edit this on Wikidata
Cod post CF Edit this on Wikidata
Cod deialu 29 Edit this on Wikidata
GB-CRF Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Dianne Rees Edit this on Wikidata
AC/au
AS/au
Cardiff UK location map.svg
Gwefan www.cardiff.gov.uk Golygu ar Wicidata

Prifddinas Cymru yw Caerdydd (("Cymorth – Sain" ynganiad ); Saesneg: Cardiff); hon yw dinas fwyaf Cymru a'r ddegfed fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Daeth yn ddinas yn 1905 ac yn brifddinas Cymru yn 1955. Yma mae canolfan fasnachol fwyaf Cymru ac mae'r rhan fwyaf o sefydliadau cenedlaethol Cymru wedi eu lleoli yma hefyd.

Roedd Caerdydd yn dref fechan tan ddechrau'r 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn enwedig pan gysylltwyd cymoedd De Cymru â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o borthladd Caerdydd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel "Tiger Bay", ac ar un adeg hon oedd un o borthladdoedd prysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yno mae Canolfan y Mileniwm hefyd, sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyr yr enw Caerdydd yw 'caer (ar lan) afon Taf'. Datblygodd y ffurf honno o'r ffurf gynharach Caerdyf. Mae'r elfen -dyf yn tarddu o ffurf dreigledig gynnar ar enw afon Taf. Mae'n dangos affeithiad i'r llafariad (taf > tyf) dan ddylanwad terfyniad sydd bellach wedi ei golli.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerdydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Yr iaith Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 36,700 o bobl Caerdydd yn gallu siarad Cymraeg.

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Economi Caerdydd

Fel prifddinas Cymru, economi Caerdydd yw'r brif fan am dwf economi Cymru. Mae'r ddinas wedi'i lleoli ar Goridor yr M4, ac mae ei heconomi a'i hardaloedd cyfagos yn cyfrif am bron 20% o CMC Cymru. Yn y 19g, allforio glo a chynhyrchu dur oedd seiliau economi Caerdydd, gyda phorth y brifddinas yn allforio mwy o lo na Llundain a Lerpwl. Heddiw, mae'r ddinas yn dibynnu ar sectorau adwerthu, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, a thwristiaeth, ac wedi bod yn lleoliad i adfywiad ers hwyr yr 20g yn enwedig yng nghanol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd.

Cestyll[golygu | golygu cod y dudalen]

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae clwb pêl-droed proffesiynol y ddinas, C.P.D. Dinas Caerdydd (Cardiff City), yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ar hyn o bryd mae'r clwb yn chwarae yn y Bencampwriaeth. Enillodd y clwb Gwpan FA Lloegr yn 1927.

Trafnidiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael ei redeg gan Fws Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth rheilffordd, i Faesteg, Bro Morgannwg a Maes Awyr Caerdydd, Treherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr, Coryton, Rhymni, a Bae Caerdydd. Mae gan y ddinas 22 orsaf fel gorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol Y Frenhines, ill dwy yng nghanol y ddinas.

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ym Mro Morgannwg.

Pobl o Gaerdydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymunedau Caerdydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960, 1978 a 2008. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales. University of Wales Press, 2007, ISBN 1-84323-901-9, t. 70.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Gaerdydd
yn Wiciadur.
 
Dinasoedd yng Nghymru
Flag of Wales (1959–present).svg
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi