Cyncoed

Oddi ar Wicipedia
Cyncoed
Delwedd:Cyncoed Road shops - geograph.org.uk - 126830.jpg, Rhydypennau Library Cardiff.JPG
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.519°N 3.163°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000997 Edit this on Wikidata
Cod OSST183809 Edit this on Wikidata
Map
Ward etholaethol Cyncoed, Caerdydd

Ardal ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd yw Cyncoed. Lleolir yng ngogledd-ddwyrain y ddinas, ac mae'n un a ardaloedd cyfoethocaf Caerdydd, a Chymru yn gyffredinol, gyda rhai o brisiau tai drystaf Cymru. Mae hefyd yn amgylchynu pentref Lakeside, lle mae stryd cyfoethocaf Caerdydd ac un o'r ysgolion mwyaf poblogaidd iw cael.

Adeiladwyd yr ardal yn ystod yr 20g yn bennaf, pan oedd Caerdydd yn ehangu'n sydyn. Mae'r tai yno yn gymysgedd o dai mawr ar wahân a thai ar led-wahân llai. Mae ystadau tai modern yn amgylchynnu'r ardal erbyn hyn, ac mae nifer o'r tai gwreiddiol wedi cael eu dychwel gyda sawl tŷ newydd llai yn cael eu adeiladu ar yr hen safle.

Mae gan yr ardal ganolfan siopa bychain, nifer o eglwysi, a synagog, oherywdd bod cymuned Iddewig gweddol fawr yng Nghyncoed, ac ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae hefyd yn gartref i un o gampysau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a neuaddau annedd Prifysgol Caerdydd.

Ward etholaeth[golygu | golygu cod]

Mae ward etholaeth Cyncoed yn sefyll o fewn ffiniau etholaeth seneddol Canol Caerdydd. Mae'n cael ei ffinio gan Llanisien i'r gogledd-orllewin; Llys-faen i'r gogledd; Pentwyn i'r dwyrain; Pen-y-lan a Phlasnewydd i'r de; a'r Mynydd Bychan i'r gorllewin.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cyncoed (pob oed) (11,148)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cyncoed) (1,324)
  
12.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cyncoed) (7089)
  
63.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cyncoed) (1,557)
  
36.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]