Grangetown
Math | cymuned, maestref |
---|---|
Poblogaeth | 20,818 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4675°N 3.1853°W |
Cod SYG | W04000847 |
AS/au y DU | Stephen Doughty (Llafur) |
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.[1] Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.
Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011[2]. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd,[3] ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.
Enwau Cymraeg
[golygu | golygu cod]Grangetown yw'r enw safonol yn y Gymraeg.[1] Mae'r enw'n cyfeirio at ystad neu grange a oedd yn eiddo gynt i Abaty Margam. Mae hen ffermdy y Grange, sydd â'i wreiddiau yn yr Oesoedd Canol, yn dal i'w weld ar gornel Clive Street a Stockland Street. Daeth yr enw Grangetown i fodolaeth yn 19g pan godwyd maestref newydd ar y tir o amlgylch y ffermdy.[4]
Yn Gymraeg, gwelir weithiau yr amrywiadau Y Grange (sy'n dyddio'n ôl i'r 19g[5]) ac Y Grenj[6] – mae'r ddau'n cyfateb i'r Saesneg The Grange. Mae Owen John Thomas wedi arfer y ffurf Y Grange Mawr, sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis Mor Grange a Grange Moor.[7]
Mae'r enwau Trelluest[8], Trefaenor[9] a Trefynach[10] yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. Yr hanesydd John Davies a fathodd Trelluest ar sail enwau yng Ngheredigion a gynhwysai'r elfen lluest yn yr ystyr 'cartref dros dro'.[11] Ond fel y dywed Elwyn Davies, ‘Lluest is not known as a name for a township or other administrative area, or for a grange of a monastery. Nor has it been traced as a place-name to such early dates [hynny yw, yr Oesoedd Canol].'[12]
Grangetown yw'r ffurf a ddefnyddir gan Wyddoniadur Cymru (t. 118) ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf Trelluest.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[13][14][15][16]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Davies, John; Menna Baines, Peredur Lynch, Nigel Jenkins (2008). Gwyddoniadur Cymru (yn Cymraeg). Gwasg Prifysgol Cymru, tud. 118. ISBN 0-7083-1954-3
- ↑ "Gwybodaeth Ward Cyngor Caerdydd" (PDF). Adalwyd, Ebrill 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-02-19. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ "Swaminarayan Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-20. Cyrchwyd 2008-11-11.
- ↑ Morgan, Richard (2018). Place-Names of Glamorgan. Cardiff: Welsh Academic Press. t. 95. ISBN 9781860571329.
- ↑ Er enghraifft, 'ar y Morfa, mewn lle a elwir y Grange', Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Thomas Rees a John Thomas (1871).
- ↑ Er enghraifft, 'Paul a'r Pethe', Vaughan Roderick, BBC (2010).
- ↑ Owen John Thomas, 'Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800-1914', tt. 183 etc., yn Geraint H. Jenkins (gol.), Iaith Carreg Fy Aelwyd (Caerdydd, 1998).
- ↑ Er enghraifft, 'Marwolaeth Caerdydd: Cyhuddo dyn', Golwg360 (2011).
- ↑ Er enghraifft, 'Tîm pêl fas gwaith nwy Trefaenor, Caerdydd, 1918' Archifwyd 2013-07-03 yn archive.today, Casglu'r Tlysau.
- ↑ Er enghraifft, Rhagolwg 27 Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback, RhAG (February 2013).
- ↑ Davies, John (2014). Fy Hanes I. Talybont: Y Lolfa. ISBN 9781847719850.
- ↑ Davies, Elwyn (1980). "Hafod, hafoty and lluest: their distribution, features and purpose". Ceredigion 9 (1): 4. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1093205/1096644/9.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Cymuned Grangetown
- Hanes Grangetown
- Gwybodaeth CCSP Grangetown Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback
- Ystadegau cyfrifiad 2011 Archifwyd 2021-02-19 yn y Peiriant Wayback
- blitzandblight.com / Grangetown Archifwyd 2009-01-06 yn y Peiriant Wayback
- Eglwys Sant Paul Archifwyd 2008-09-01 yn y Peiriant Wayback
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf