Owen John Thomas

Oddi ar Wicipedia
Owen John Thomas
Owen John Thomas


Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 3 Mai 2007

Geni 1939
Caerdydd
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Aberystwyth

Cyn-wleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Owen John Thomas MA (ganed 1939, Caerdydd).

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mynychodd Prifysgol Morgannwg a Prifysgol Caerdydd. Gweithiodd fel dirprwy brifathro cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyn-gadeirydd ardal Caerdydd UCAC. Bu'n aelod gweithredol o Blaid Cymru ers ei arddegau, gan llenwi amryw o swyddi o ysgrifennydd cangen i is-lywydd y blaid. Yng nghynhadledd Plaid Cymru 1981, llwyddodd i gael sosialaeth wedi ei gynnwys ymysg prif amcanion y blaid. Mae'n bleidiwr ers cryn amser ar gyfer yr ymgyrch ar gyfer diwygiad y ddeddf eiddo prydles ac yn un o aelodau sefydlu Clwb Ifor Bach (Clwb Cymraeg Caerdydd) ac yn lywydd y clwb o 1983-1989. Dysgodd y Gymraeg tra'r oedd yn ei 20iau hwyr. Mae'n briod â chwech o blant.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynnyrchioli ardal Canol De Cymru ar gyfer Plaid Cymru rhwng 1999 a 2007.

Mae rhai o'i ymdrechion balchaf fel aelod Cynulliad yn cynnwys yr ymgais i adnabod Gŵyl Dewi Sant yn ŵyl banc swyddogol, ei swyddogaeth yng ngreadigaeth Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, man cyfarfod ar gyfer y celfyddydau a agorodd yn 2004; ei ymgyrchion ar gyfer pensiynau Allied Steel and Wire a'i ymgyrch i gael bracitherapi, triniaeth yn erbyn cancr, i Gymru.

Datganodd hefyd y buasai'n gobeithio i'r Cynulliad ennill yr un pŵerau a Senedd yr Alban erbyn 2011.

Yr iaith Gymraeg[golygu | golygu cod]

Dysgodd Gymraeg tra'r oedd yn ei 20iau hwyr, ac mae wedi dadlau dros gynyddu hyrwyddiad yr iaith, gan ysgrifennu yn y Western Mail fod yr iaith yn ased cenedlaethol ac y gallai ei atgyfodiad chwarae rhan canolig ym mhrosesau mwy'r genedl o adeiladu adfywiad economaidd a chymdeithasol (Saesneg: "The language is a national asset and its revitalisation can play a central part in the larger process of nation building and economic and social regeneration.") Cwynodd yn ogystal fod plant Cymru yn cael eu dysgu am hanes Lloegr ac nid hanes Prydain (Saesneg: "the history of England, not the history of Britain").

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru
19992007
Olynydd:
Chris Franks