Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Benjamin Thomas
Revd. Benjamin Thomas, Narberth (Myfyr Emlyn, 1836-93) NLW3364293.jpg
GanwydHydref 1836 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1893 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, bardd, darlithydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Bedd y Parch Benjamin Thomas, Arberth, c.1885

Bardd, darlithydd, ac awdur oedd Benjamin Thomas (neu Myfyr Emlyn) (Hydref 183620 Tachwedd 1893).

Fe'i ganed yn Nhŷ-rhos, Eglwys Wen, Sir Benfro, yn Hydref 1836, yn fab i David ac Elizabeth Thomas. Aeth i Dredegar i chwilio am waith yn 15 oed. Dychwelodd adref a dechrau pregethu, ac fe'i derbyniwyd i athrofa Hwlffordd yn 1855. Ordeiniwyd ef yn y Drefach a'r Graig, Castellnewydd Emlyn ym 1860, symudodd i Benarth ym 1873 ac i Arberth ym 1875, lle'r arhosodd hyd ei farw, 20 Tachwedd 1893. Claddwyd ef yn Arberth.

Roedd yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, yn arweinydd eisteddfodol poblogaidd, yn brydydd, ac yn gofiannydd. Bu'n olygydd Seren Cymru o 1887 hyd ei farw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]