Rhys ab Owen
Rhys ab Owen AS | |
---|---|
Aelod o'r Senedd dros Canol De Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 8 Mai 2021 | |
Manylion personol | |
Ganed | Rhys ab Owen Thomas 12 Ionawr 1987 Caerdydd |
Dinesydd | Cymru |
Plaid gwleidyddol | Annibynnol Plaid Cymru (hyd at 2024) |
Proffesiwn | Bargyfreithiwr |
Gwleidydd a bargyfreithiwr o Gymro yw Rhys ab Owen (ganwyd 12 Ionawr 1987)[1] (enw llawn Rhys ab Owen Thomas).[2] Mae'n Aelod o'r Senedd dros rhanbarth Canol De Cymru. Fe'i etholwyd gyntaf yn etholiad Senedd 2021.[3] Roedd yn aelod o Blaid Cymru cyn iddo gael ei ddiarddel yn 2024.[4]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Rhys ab Owen yng Nghaerdydd. Mae'n fab i Sian Wyn Thomas, cyn brifathrawes Ysgol Glan Morfa, Sblot, ac Owen John Thomas, cyn-wleidydd Plaid Cymru a gynrychiolodd ranbarth Canol De Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng 1999 a 2007. Mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf cyn astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Rhydychen. Aeth ymlaen i wneud Cwrs Hyfforddi Bargyfreithiwr ym Mhrifysgol Caerdydd, a gweithiodd fel bargyfreithiwr ers 2010.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Sefodd ab Owen dros Plaid Cymru yn etholiad Cyngor Caerdydd 2017 yn ward Treganna, lle cynyddodd bleidlais Plaid Cymru o 910 i 2,105, gan ddod o fewn rhyw 200 pleidlais i'r ymgeiswyr Llafur buddugol.
Yn ddiweddarach, sefodd yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 fel ymgeisydd Plaid Cymru dros Orllewin Caerdydd, yn cystadlu yn erbyn deiliad y sedd a Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford (Llafur). Cadwodd Drakeford ei sedd, gyda ab Owen yn gorffen yn drydydd tu ôl yr ymgeisydd Ceidwadol, Sean Driscoll. Fodd bynnag, etholwyd ab Owen fel Aelod o'r Senedd dros ranbarth Canol De Cymru, ynghyd a'i gyd-ymgeisydd Heledd Fychan, drwy fod ar frig rhestr rhanbarthol ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr ardal honno.[5]
Wedi cyrraedd y Senedd, daeth ab Owen yn Lefarydd Plaid Cymru ar y Cyfansoddiad a Chyfiawnder.[6]
Ymddygiad amhriodol a gwaharddiad
[golygu | golygu cod]Ar 8 Tachwedd 2022, gwaharddwyd ab Owen o grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, yn dilyn ymchwiliad gan gorff gwarchod safonau'r Senedd i achos honedig o dorri'r cod ymddygiad.[7]
Ar 13 Mawrth 2024, cafodd ei wahardd o'r sefydliad am 42 diwrnod am gyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes. Mewn araith i'r Senedd ymddiheurodd "yn ddiamod" am ei ymddygiad gan ddweud "Ges i ormod i yfed y noson honno ac fe wnes i ymddwyn yn wael. Rwy'n derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad, a chanlyniadau'r ymddygiad hynny". Cafodd ei wahardd dros dro fel aelod o Blaid Cymru tra fod proses mewnol y blaid yng mynd rhagddi.[8] Yng Ngorffennaf 2024, cafodd ei ddiarddel o Blaid Cymru, yn dilyn y broses ddisgyblu fewnol. Ni fydd modd iddo wneud cais i ail-ymuno â'r blaid am o leiaf ddwy flynedd.[4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Yn 2019, priododd ab Owen gyda Manon Eluned George; mae ganddynt un ferch. Mae'n rhestru ei ddiddordebau fel "Hanes Cymru, côr, teulu, capel" ac mae'n aelod o Glwb Ifor Bach, Caerdydd.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhys ab Owen Thomas". Institute of Welsh Affairs. Cyrchwyd 8 Mai 2021.
- ↑ Gupwell, Katie Ann (6 Awst 2020). "'The Royal Family can visit my father's care home, but I'm not allowed'". Wales Online. Cyrchwyd 8 Mai 2021.
- ↑ Williams, Rhys (8 Mai 2021). "Regional Senedd Members for South Wales East confirmed". Caerphilly Observer. Cyrchwyd 8 Mai 2021.
- ↑ 4.0 4.1 "Rhys ab Owen wedi ei ddiarddel gan Blaid Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-07-22. Cyrchwyd 2024-07-22.
- ↑ "Plaid Cymru announce regional candidates for 2021 Senedd election". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-10-30. Cyrchwyd 2021-06-17.
- ↑ "Welsh election: New Plaid Cymru Senedd members get frontbench roles". BBC News. 21 Mai 2021.
- ↑ "Plaid Cymru Gwahardd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Rhys ab Owen". 8 Tachwedd 2022 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑ "Cadarnhau gwaharddiad Rhys ab Owen o'r Senedd". BBC Cymru Fyw. 2024-03-13. Cyrchwyd 2024-03-13.
- ↑ "Ab Owen Thomas, Rhys, (born 12 Jan. 1987), Member (Plaid Cymru) South Wales Central, Welsh Parliament, since 2021". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u296016. Cyrchwyd 2022-12-04.