Neidio i'r cynnwys

Heledd Fychan

Oddi ar Wicipedia
Heledd Fychan AS
Heledd Fychan


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2021

Geni (1980-09-20) 20 Medi 1980 (45 oed)
Bangor, Gwynedd
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Coleg y Drindod, Dulyn
Prifysgol Bangor

Gwleidydd o Gymru yw Heledd Fychan (ganed 20 Medi 1980). Mae'n aelod o Blaid Cymru, ac yn aelod o'r Senedd a'r gyfer rhanbarth Canol De Cymru.

Mae Heledd yn Weinidog Cabinet yn Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb fel Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon ers Mai 2026.[1]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Daw Heledd yn wreiddiol o Ynys Môn, yn ferch i Vaughan Hughes ac Angharad Anwyl.[2] Mynychodd Ysgol Gynradd y Talwrn ac Ysgol David Hughes ac aeth ymlaen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth yn Ngholeg y Drindod, Dulyn lle bu'n Swyddog Sabothol Addysg yn Undeb Myfyrwyr y Coleg a'r un swydd yn ddiweddarach ar gyfer Undeb Myfyrwyr Iwerddon.[3]

Wedi cwblhau gradd meistr mewn Hanes Canolesol ym Mhrifysgol Bangor, gweithiodd Heledd i grŵp Plaid Cymru yn Llundain.[4]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Ym Mai 2017 cafodd ei hethol ar gyfer ward Tref[5] Pontypridd ar Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf a hefyd ar Cyngor Tref Pontypridd. Hi oedd ail ymgeisydd y blaid ar gyfer Etholaeth ranbarthol Gogledd Cymru yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011. Safodd hefyd fel ymgeisydd dros Faldwyn yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2010.

Yn etholiad Senedd 2021 fe wnaeth hi ennill ar y rhestr rhanabarthol Canol De Cymru.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn cyhoeddi aelodau cabinet ei lywodraeth". newyddion.s4c.cymru. 2026-05-13. Cyrchwyd 2026-05-13.
  2. Mosalski, Ruth (2021-05-07). "Senedd election 2021 result for South Wales Central region". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-27.
  3. "Heledd Fychan MS". senedd.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-27.
  4. Mosalski, Ruth (2021-05-07). "Senedd election 2021 result for South Wales Central region". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-29.
  5. "Councillors, Committees and Meetings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ionawr 2020.
  6. "Watch: Senedd Election 2021: Meet the new MSs for South Wales Central". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-08.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.