Senedd Cymru
- Erthygl am y sefydliad gwleidyddol yw hon. Am yr adeilad sy'n gartref i'r sefydliad gweler Adeilad y Senedd
| Senedd Cymru Welsh Parliament | |
|---|---|
| Y Chweched Senedd | |
| Gwybodaeth gyffredinol | |
| Math | Unsiambraeth |
| Arweinyddiaeth | |
| Y Llywydd | Huw Irranca-Davies, Llafur |
| Y Dirprwy Lywydd | Kerry Ferguson, Plaid Cymru |
| Prif Weinidog Cymru | Rhun ap Iorwerth, Plaid Cymru |
| Arweinyddion y Gwrthbleidiau | Dan Thomas (Reform UK), Ken Skates (Llafur Cymru), Darren Millar (Ceidwadwyr), Anthony Slaughter (Plaid Werdd Cymru),Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol) |
| Cyfansoddiad | |
| Aelodau | 96 |
| Grwpiau gwleidyddol |
|
| Pwyllgorau |
|
| Etholiadau | |
| Etholiad diwethaf | 7 Mai 2026 |
| Man cyfarfod | |
| Siambr yn Adeilad y Senedd, Caerdydd | |
| Man cyfarfod | |
| Gwefan | |
| senedd.cymru | |
| Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
|
Cymru o fewn y Deyrnas Unedig
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
|
| Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.[1] Rhwng Mai 1999 a Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales).[2][3] Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.
Cadarnhaodd pobl Cymru, drwy refferendwm (Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011) eu bod am rymuso'r Senedd. Cyhoeddwyd canlyniadau'r refferendwm ar 4 Mawrth 2011. Cyfanswm y pleidleisiodd dros ragor o bwerau oedd 63.49% ('ydw'), a phleidleisiodd 36.51% yn erbyn ('nac ydw'). 'Ydw' oedd y bleidlais mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol, gyda'r eithriad i Sir Fynwy. Ar y cyfan, pleidleisiodd 35.2% o Gymru.
Ceir 96 o aelodau, neu Aelodau o'r Senedd (AS) a etholir (ers 2026) am dymor o bedair blynedd; mae 16 etholaeth ddaearyddol yn ethol 6 aelod yr un dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol dull D'Hondt. Mae'r Senedd yn gweithredu system un siambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i ddeddfwrfa Cymru.
Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997.[4] Mae'r Senedd a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[5]
Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd.
Etholiadau
[golygu | golygu cod]Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Yn wreiddiol roedd 60 aelod yn cael eu hethol am dymor o pedair blynedd - 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth ddaearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynnwyd cyfnod y Senedd i bum mlynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003, 2007, 2011, 2016 a 2021. O 2026 ymlaen daeth hyd y tymor lawr i bedair blynedd unwaith eto. Cynhelir is-etholiadau os oes sedd etholaeth leol o'r Senedd yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr ranbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu'r unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno â'r Senedd.
Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd deddf, sef y Ddeddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau o etholiadau Senedd 2021. Yn ogystal, cafodd preswylwyr o dramor sy'n byw yng Nghymru hawl i bleidleisio. Adeg y bleidlais ar y ddeddf, roedd 41 o 60 aelod o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru o blaid a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad fel yr oedd, sef Senedd Cymru a Welsh Parliament, er gwaethaf ymgyrchu i gael enw uniaith Gymraeg ar y sefydliad. Yn ymarferol, er bod enw dwyieithog ar y sefydliad, tueddir i'w alw'n Senedd yn y ddwy iaith.
Ym Mai 2024, pleidleisiodd y Senedd dros gynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96, gyda chefnogaeth Llafur a Phlaid Cymru. O 2026 ymlaen, fe fydd etholiadau Seneddol yn cael eu cynnal bob pedair blynedd yn hytrach na phob pum mlynedd.[6]
Grymoedd
[golygu | golygu cod]Grymoedd deddfu
[golygu | golygu cod]Gweler Pwerau Senedd Cymru am ragor o fanylion.
Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd refferendwm i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pŵer i lunio ei ddeddfau ei hun. Pleidleisiodd pobl Cymru o blaid y cynnig. Ers 2017, defnyddir model cadw pwerau yn ôl, ac mae gan y Senedd yr hawl i ddeddfu mewn unrhyw faes sydd heb ei eithrio.
Aelodau'r Senedd
[golygu | golygu cod]Mai 2026 -
[golygu | golygu cod]| Plaid | Etholiad 2026 | |
| Plaid Cymru | 43 | |
| Reform | 34 | |
| Llafur | 9 | |
| Ceidwadwyr | 7 | |
| Gwyrdd | 2 | |
| Democratiaid Rhyddfrydol | 1 | |
Mai 2021-Mai 2026
[golygu | golygu cod]| Plaid | Etholiad 2021 | Yn union cyn etholiad 2026 | |
| Llafur | 30 | 29 | |
| Ceidwadwyr | 16 | 15 | |
| Plaid Cymru | 13 | 13 | |
| Reform | 0 | 2 | |
| Democratiaid Rhyddfrydol | 1 | 1 | |
| Annibynnol | 0 | 2 | |
| Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid | 1 | 1 | |
| Mwyafrif y Llywodraeth | 0 | 0 | |
Mai 2016-Mai 2021
[golygu | golygu cod]| Plaid | Etholiad 2016 | Yn union cyn etholiad 2021 | |
| Llafur | 29 | 29 | |
| Ceidwadwyr | 12 | 10 | |
| Plaid Cymru | 12 | 10 | |
| UKIP | 7 | 1 | |
| Democratiaid Rhyddfrydol | 1 | 1 | |
| Propel | 0 | 1 | |
| Plaid Diddymu Cynulliad Cymru | 0 | 2 | |
| Annibynnol[nodyn 1] | 0 | 6 | |
| Seddi eu hangen ar gyfer mwyafrif un plaid | 2 | 0 | |
| Mwyafrif y Llywodraeth[nodyn 2] | 0 | 2 | |
- ↑ Roedd 3 aelod, Mandy Jones, Caroline Jones a David Rowlands, yn rhan o grŵp annibynnol yn y Senedd The Independent Alliance for Reform.
- ↑ Mae hwn yn cynnwys Llafur, Rhyddfrydwyr Democrataidd, ac o Rhagfyr 2016, Dafydd Elis Thomas.
2011-Mai 2016
[golygu | golygu cod]| Plaid | Mai 2011 | |
|---|---|---|
| Llafur | 30 | |
| Y Ceidwadwyr | 14 | |
| Plaid Cymru | 11 | |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | 5 | |
| Annibynnol | 0 | |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwybodaeth am y Cynulliad". 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-30. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
- ↑ "Gwybodaeth bwysig am newid enw'r sefydliad". National Assembly for Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-27. Cyrchwyd 2020-05-05.
- ↑ "Bil i gyflwyno enw newydd a gostwng oed pleidleisio yn dod yn Deddf". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 15 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-14. Cyrchwyd 2020-05-05.
- ↑ legislation.gov.uk; adalwyd 6 Mai 2016.
- ↑ "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
- ↑ "Gwleidyddion yn pleidleisio o blaid cynyddu nifer aelodau Senedd Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-05-16. Cyrchwyd 2024-05-16.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Senedd Cymru
- Senedd Cymru ar X
- Pleidleisiau yn y refferendwm, 1997 Archifwyd 2004-04-23 yn y Peiriant Wayback
| |||||