David Rees (gwleidydd)
| David Rees AS | |
|---|---|
| Dirprwy Lywydd y Senedd | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 12 Mai 2021 | |
| Rhagflaenwyd gan | Ann Jones |
| Aelod o Senedd Cymru dros Aberafan | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 5 Mai 2011 | |
| Rhagflaenwyd gan | Brian Gibbons |
| Mwyafrif | 6,402 (30.7%) |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 17 Ionawr 1957 Port Talbot |
| Plaid wleidyddol | Llafur |
| Priod | Marie Rees |
| Plant | 2 |
| Cartref | Cwmafan, Port Talbot |
| Alma mater | Prifysgol Caerdydd |
| Gwaith | Darlithiwr |
| Proffesiwn | Gwleidydd |
| Gwefan | Gwefan wleidyddol |
Gwleidydd Llafur Cymru yw David Rees. Mae'n Aelod o'r Senedd dros Aberafan ers 2011.[1] Fe'i etholwyd yn ddirprwy Lywydd y Cynulliad ar 12 Mai 2021.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Magwyd Rees ym Mhort Talbot a fe'i addysgwyd mewn ysgolion lleol cyn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, lle enillodd radd anrhydedd mewn Peirianneg a chymhwyster dysgu ôl-raddedig. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol dechreuodd yrfa ym myd addysg. Gweithiodd fel athro yn Ysgol Gyfun Cynffig ym Mynydd Cynffig, ac yna aeth yn ddarlithydd cyfrifiadureg yng Ngholeg Afan cyn symud i Addysg Uwch. Cyn dod yn AC dros Aberafan roedd yn Ddeon Cynorthwyol y Gyfadran ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, tra'n gweithio mewn Addysg Uwch, enillodd gymhwyster ôl-raddedig MSc pellach, ac yn 2016 roedd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth.[2]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ymunodd Rees â'r Blaid Lafur ym 1982 ac mae wedi bod yn aelod gweithgar ers hynny. Mae wedi dal nifer o swyddi o fewn y Blaid ac roedd yn Ysgrifennydd Etholaeth y Blaid Lafur dros Aberafan rhwng 2005 a 2011, gan sefyll i lawr er mwyn canolbwyntio ar etholiad y Cynulliad yn 2011. Mae'n aelod o Unite ac ar hyn o bryd yn gweithredu fel cynullydd Grŵp Unite yn y Cynulliad.
Yn 2016 roedd hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Cynulliad, yn craffu ar ddeddfwriaeth y llywodraeth ac yn cynhyrchu adroddiadau amserol yn seiliedig ar ymchwiliad y pwyllgor. Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc, sy'n ystyried materion ar draws sawl portffolio, yn enwedig iechyd ac addysg, a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
Trwy ei rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gymunedau Diwydiannol, mae'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd i wella amodau economaidd a chymdeithasol yng nghymunedau Cymru. Yn ogystal mae Rees yn gweithredu fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Wyddoniaeth .
Mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, tlodi plant, ymgysylltu ieuenctid, addysg ac adfywio.[3]
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Brian Gibbons |
Aelod o'r Senedd dros Aberafan 2011 – |
Olynydd: deiliad |
| Rhagflaenydd: Ann Jones |
Dirprwy Lywydd y Senedd 2021 - |
Olynydd: deiliad |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.senedd.assemblywales.org/mgUserInfo.aspx?[dolen farw]
- ↑ http://www.davidrees.wales/about-david/ Ad-alwyd 18/2/17
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-01. Cyrchwyd 2016-05-10.