Ann Jones
Ann Jones AS | |
---|---|
![]() | |
Dirprwy Lywydd y Senedd | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 11 May 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | David Melding |
Aelod o Senedd Cymru dros Ddyffryn Clwyd | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 1999 | |
Rhagflaenwyd gan | Creuwyd y swydd |
Mwyafrif | 768 (3.1%) |
Manylion personol | |
Ganwyd |
4 Tachwedd 1953 Rhyl |
Plaid wleidyddol | Llafur Cydweithredol |
Priod | Adrian Jones |
Plant | Victoria a Vincent |
Cartref | Rhyl |
Pwyllgorau | Plant a Phobl Ifanc, Cyllid a Craffu ar y Prif Weinidog |
Gwefan | annjones.org.uk |
Gwleidydd Cymreig yw Margaret Ann Jones (ganwyd 4 Tachwedd 1953). Mae'n Aelod o'r Senedd y Blaid Lafur dros Ddyffryn Clwyd ers dyfodiad Senedd Cymru ym 1999 ac yn ddirprwy Lywydd y Cynulliad ers 11 Mai 2016.
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Gawyd Margaret Ann Jones i Charles Jones and Helen Jones (nee Sadler) yn Rhyl. Gafodd hi addysg yn Ysgol Ramadeg y Rhyl ac Ysgol Uwchradd y Rhyl. Priododd ag Adrian Jones yn 1973 ac mae’n fam i 1 mab ac 1 ferch[1].
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweithiodd Ann fel Swyddog Galwadau Brys a nifer o swyddi rheoli yn ystafell rheoli Brigâd Dân Sir y Fflint a Brigâd Dân Clwyd rhwng 1970 a 1979 ac fel Swyddog Rheoli Tan gyda Brigâd Dân Glannau’r Mersi rhwng 1991 a 1999[2].
Mae Ann wedi gwasanaethu fel swyddog cenedlaethol yn Undeb y Brigadau Tân am nifer o flynyddoedd a bu’n eistedd ar fyrddau Gweithredol Plaid Lafur Cymru a TUC Cymru. Mae’n aelod o UNSAIN ac yn parhau’n aelod ‘nad yw’n masnachu’ o’r FBU[3].
Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd Ann Jones yn aelod o Gyngor Tref y Rhyl rhwng 1991 a 1999, a Maer y Dref yn 1996-7. Roedd hi yn gynghorydd ar Gyngor Sir Ddinbych rhwng 1995 ac 1999 ac yn asiant Chris Ruane AS yn Etholiad Cyffredinol 1997. Mae hi’n aelod o Fudiad Sosialaidd Cristnogol[4].
Cafodd hi ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ddyffryn Clwyd yn 1999, gan ddal y sedd ym mhob Etholiad Cynulliad ers hynny, er bod y sedd yn ymylol iawn.
Bu Ann yn cadeirio sawl Pwyllgor yn y Cynulliad gan gynnwys y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y Grŵp Hollbleidiol ar Faterion Byddar a bu’n Gadeirydd Grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol rhwng 2011 a 2016. (gwefan)
Yn 2016 cafodd ei phenodi yn Ddirpwry Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol[5].
Mesur Diogelwch Tan[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 2007, enillodd Ann Jones pleidlais a chafodd y cyfle i gyflwyno y Mesur Cynulliad cyntaf gan aelod meinciau cefn. Cyhoeddodd Ann Jones ei bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i wneud hi’n orfodol i osod system diffodd tan i gartrefi newydd. Dechreuodd y broses o drosglwyddo’r pwerau i ddeddfu i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2007 ac yn 2010 gwnaethpwyd Gorchymun Cymhwysedd Deddfwriaeth yn caniatai i’r Cynulliad ddeddfu[6]. Cafodd Fesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 ei drafod yn y Cynulliad yn 2010 a 2011 cyn cael Cymeradwyaeth Frenhinol ar 7 Ebrill 2011[7].
Cyflwynodd Ann Jones gasgliad o bapurau am y ddeddf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2019[8].
Swyddi[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod o'r Senedd dros Ddyffryn Clwyd 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Rhagflaenydd: David Melding |
Dirprwy Lywydd y Senedd 2016 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Welsh hustings, 1885-2004. Rees, Ivor Thomas. Llandybie: Gwasg Dinefwr. 2005. ISBN 1-904323-09-X. OCLC 61217355.CS1 maint: others (link)
- ↑ Welsh hustings, 1885-2004. Rees, Ivor Thomas. Llandybie: Gwasg Dinefwr. 2005. ISBN 1-904323-09-X. OCLC 61217355.CS1 maint: others (link)
- ↑ Tweets, 9184; Followers, 4319; Following, 1448. "About Ann | Mwy am Ann". Ann Jones AM | Labour AM for the Vale of Clwyd (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-22.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
- ↑ Welsh hustings, 1885-2004. Rees, Ivor Thomas. Llandybie: Gwasg Dinefwr. 2005. ISBN 1-904323-09-X. OCLC 61217355.CS1 maint: others (link)
- ↑ "Proffil Aelod". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-04-22.
- ↑ "Tudalen archif - Hynt Gorchmynion a Mesurau". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-04-22.
- ↑ "Mesur Arfaethedig Diogelwch Tân Domestig (Cymru)". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-04-22.
- ↑ "Ann Jones AM (Women's Archive of Wales) Papers - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-04-22.
- CS1 maint: numeric names: authors list
- Pages using infobox officeholder with an atypical party value
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016–2021
- Genedigaethau 1953
- Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Cymreig yr 21ain ganrif
- Gwleidyddion y Blaid Lafur (DU)
- Pobl o'r Rhyl
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif