Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
National Library of Wales.jpg
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Math Llyfrgell Genedlaethol
Sefydlwyd 1907
Mandad cyfreithiol Fe'i sefydlwyd drwy 'Siartr Brenhinol' ar 19 Mawrth 1907. Cafwyd siapteri ychwanegol yn dilyn hyn: 1911, 1978 a 2006
Lleoliad Aberystwyth
Cyfesurynnau 52°24′52″N 4°4′8″W / 52.41444°N 4.06889°W / 52.41444; -4.06889Cyfesurynnau: 52°24′52″N 4°4′8″W / 52.41444°N 4.06889°W / 52.41444; -4.06889
Y Casgliadau
Math Gweithiau wedi'u hargraffu, Mapiau, Archifau, Llawysgrifau, Deunydd Clyweled, Ffotograffau, Paentiadau
Maint 5 miliwn o lyfrau; un miliwn o fapiau; 800,000 o ffotograffau; 50,000 o weithiau Celf
Hawl casglu Pryniant, cymynroddion a chyfraniadau cyfreithiol, gorfodol
Adnau cyfreithiol Ydy
Mynediad a defnydd
Mynediad (anghenion) Mae'r llyfrgell yn agored i bawb. Mae'r mynediad i ystafelloedd darllen i bersonau dros 16 oed yn unig (oni bai y rhoddir caniatâd o flaen llaw).
Materion eraill
Cyfarwyddwr Linda Tomos
Staff oddeutu 350 llawn amser
Gwefan www.llgc.org.uk
Rhif ffôn +44 1970 632800

Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yw llyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru ac mae'n cael ei chynnal dan nawdd Llywodraeth Cymru. Hon yw'r Llyfrgell fwyaf yng Nghymru, gyda dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a'r casgliadau mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a delweddau ffotograffig yng Nghymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn gartref i Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru, Archif Wleidyddol Cymru, Archif Lenyddol Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o bortreadau a phrintiau topograffyddol yng Nghymru. Fel y brif lyfrgell ac archif ymchwil yng Nghymru ac fel un o lyfrgelloedd ymchwil mwyaf y Deyrnas Gyfunol, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn aelod o Lyfrgelloedd Ymchwil y DG (RLUK) a Chonsortiwm Llyfrgelloedd Ymchwil Ewrop (CERL).

Yn ôl ei Siartr, amcanion y Llyfrgell Genedlaethol yw 'casglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg'.[1]

Mae'r Llyfrgell ar agor chwe diwrnod yr wythnos ac mae mynediad i'r holl arddangosfeydd am ddim. Gellir chwilio holl ddaliadau a gweld nifer o gasgliadau diddorol y Llyfrgell ar eu gwefan.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd y Llyfrgell yn 1907 wedi ymgyrch hir a phoblogaidd a gychwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1873. Yn 1905, gwnaeth Llywodraeth y DG addewid i sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol i Gymru, a sefydlwyd pwyllgor gan y Cyfrin-Gyngor i benderfynu ar leoliad y ddau sefydliad. Cefnogodd David Lloyd George, a ddaeth wedi hynny yn Brif Weinidog, yr ymdrech i i sefydlu'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a dewiswyd y dref honno fel lleoliad iddi dros Gaerdydd, yn rhannol oherwydd bod eisoes yno gasgliad ar ei chyfer yn y Coleg. Roedd Syr John Williams, meddyg a chasglwr llyfrau, hefyd wedi rhoi geybod y byddai yn cyflwyno ei gasgliad (yn arbennig, casgliad llawysgrifau Peniarth) i'r llyfrgell pe byddai wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Yn ogystal â hynny, cyfrannodd £20,000 tuag at y gwaith o adeiladu a sefydlu'r Llyfrgell. Dewiswyd Caerdydd yn lleoliad i'r Amgueddfa Genedlaethol. Codwyd arian tuag y Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol trwy danysgrifiadau y gweithwyr, a oedd yn anarferol yn achos sefydliadau o'r fath. Yn ôl amcangyfrif y Llyfrgellydd Cenedlaethol cynaf, John Ballinger, roedd bron i 110,000 o gyfranwyr. Sefydlwyd y Llyfrgell trwy Siartr Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Roedd y Siartr yn nodi pe byddai'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei symud o Aberystwyth, yna byddai'r llawysgrifau a roddwyd iddi gan Syr John Williams yn cael eu symud i Goleg y Brifysgol. Cyflwynwyd Siartr Frenhinol newydd yn 2006.

Rhoddwyd statws adnau cyfreithiol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan Ddeddf Hawlfraint 1911. Yn y lle cyntaf, fodd bynnag, deunydd a oedd o ddiddordeb Cymreig neu Geltaidd y gallai'r Llyfrgell ei hawlio yn achos cyhoeddiadau drud neu argraffiad cyfyngedig. Yn 1987, cafodd yr olaf o'r cyfyngiadau hyn eu codi gan wneud statws adnau cyfreithiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru yr un peth â Llyfrgell Bodleian, Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Llyfrgell Coleg y Drindod, Dulyn a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban.

Yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1913 y defnyddiwyd Dosbarthiad Llyfrgell y Gyngres am y tro cyntaf mewn unrhyw lyfrgell yn y Deyrnas Gyfunol.

Cedwir rhai o'r llawysgrifau Cymreig pwysicaf yn Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau'r llyfrgell, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch, Y Llyfr Du o'r Waun a Llawysgrif Hendregadredd.

Yn ogystal â'r casgliadau uchod, lleolir yr Archif Wleidyddol Cymreig[3] ac Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru yno hefyd.[4]

Ar 26 Ebrill 2013, cafwyd tân yn atic estyniad y Llyfrgell newydd.[5] Gwacäwyd yr holl staff o'r adeilad a bu'r frigad dân wrthi'n ddyfal yn diffodd y tân.

Prif Lyfrgellyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Casgliadau'r Llyfrgell[golygu | golygu cod y dudalen]

Enghraifft o gasgliad ffotograffau Geoff Charles, un o gasgliadau ffotograffig mwyaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys dros 6.5 miliwn o gyfrolau printiedig, yn cynnwys y llyfr cyntaf a argraffwyd yn yr iaith Gymraeg, Yny lhyvyr hwnn (1546).Yn ogystal â chasgliadau llyfrau printiedig, mae tua 25,000 o lawysgrifau ymhlith ei daliadau. Mae casgliadau archifol y Llyfrgell yn cynnwys yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cadw mapiau, ffotograffau, darluniau, tirluniau a phrintiau topograffydol, cylchgronau a phapurau newydd. Yn 2010, roedd casgliad Llawysgrifau Peniarth a The Life Story of David Lloyd George ymysg y deg arysgrif cyntaf ar Restr Cof y Byd y DG, cofnod UNESCO o dreftadaeth ddogfennol o arwyddocâd diwylliannol.

Mae datblygiad y casgliadau yn canolbwyntio ar ddeunydd perthnasol i bobl Cymru, rhai yn yr iaith Gymraeg ac adnoddau ar gyfer astudiaethau Celtaidd, ond cesglir deunyddiau eraill at ddibenion addysg ac ymchwil llenyddol a gwyddonol. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol, mae gan y Llyfrgell hawl i wneud cais am gopi o bob llyfr a gyhoeddir yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae hyn wedi caniatáu i'r Llyfrgell i gasglu llyfrau Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg modern ar gyfer ei chasgliad Celtaidd. Yn ategol i'r deunydd sydd wedi'i dderbyn trwy adnau cyfreithiol, mae'r Llyfrgell yn datblygu ei chasgliadau trwy bwrcasu a chyfnewid, a derbyn rhoddion a chymynroddion.

Gellir chwilio trwy gasgliadau'r Llyfrgell gan ddefnyddio ei chatalog arlein. Mae daliadau'r Llyfrgell hefyd i'w canfod yng nghatalogau y Llyfrgell Ewropeaidd a Copac.

Llawysgrifau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw nifer o lawysgrifau unigryw a phwysig, yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin (y llawysgrif gynharaf sy'n gyfan gwbl yn y Gymraeg), Llyfr Taliesin, Llawysgrif Hendregadredd, a gwaith Geoffrey Chaucer. Mae tua tri chant o lawysgrifau canoloesol yng nghasgliadau'r Llyfrgell: tua chant ohonynt yn y Gymraeg. Mae'r casgliad llawysgrifau yn gyfuniad o gasgliadau a ddaeth i'r Llyfrgell yn ei dyddiau cynnar, gan gynnwys llawysgrifau Hengwrt-Peniarth, Mostyn, Llanstephan, Panton, Cwrtmawr, Wrecsam ac Aberdar. Catalogwyd y llawysgrifau Cymraeg yn y casgliadau hyn gan Dr J. Gwenogvryn Evans yn ei adroddiadau ar lawysgrifau yn yr iaith Gymraeg i'r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol.

Llawysgrif Hengwrt Chaucer o Gasgliad Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mynediad Agored a chydweithio â Wikimedia[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn Ebrill 2012, gwnaed penderfyniad polisi blaenllaw iawn: nad oedd y Llyfrgell yn hawlio perchnogaeth yr hawlfraint mewn atgynhyrchiadau digidol. Golygai hyn fod yr hawliau sydd ynghlwm wrth gweithiau'n adlewyrchu statws hawlfraint y gwaith gwreiddiol (h.y. fod y gweithiau gwreiddiol sydd yn y parth cyhoeddus (e.e. lluniau ar Flickr) i barhau yn y parth cyhoeddus yn eu ffurf digidol. Mae'r llyfrgell wedi cymhwyso'r polisi hwn i brosiectau ers hynny gan gynnwys 'DIGIDO', Prosiect Papurau Newydd Cymru Arlein[7] a 'Cymru 1914'. Mae'r Llyfrgell hefyd yn parhau i ddiweddaru gwybodaeth am hawliau prosiectau a gwbwlhawyd cyn 2012, sy'n waith aruthrol, oherwydd y cyfoeth o weithiau sydd yn y Llyfrgell.

Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Gebedlaethol

Yn Chwefror 2013 treialwyd 50 o ddelweddau o Fynwy, sydd allan o hawlfraint. Y llun cyntaf a uwchlwythwyd oedd: Abaty Tintern o Bulpud y Diafol. Crewyd templad i "ddal" y lluniau sy'n cyfieithu'n otomatig i nifer o ieithoedd.

Ym Mawrth 2013 partnerodd y Llyfrgell gyda Wikimedia'r Iseldiroedd, y DU, Ffrainc ac Europeana, fel partner diwylliannol, gan eu cefnogi i greu offer toolset i uwchlwytho torfol delweddau a chlipiau sain o'r GLAMs (acronym am 'Galeriau, Llyfrgelloedd, Archifdai a Mwy') i Gomin Wicimedia. Hefyd yn 2013, enillodd y Llyfrgell wobr Wikimedia: GLAM y flwyddyn: a nodwyd mai'r Llyfrgell ydyw'r 'corff mwyaf ysbrydoledig yn y Deyrnas Unedig, sydd hefyd wedi arbrofi gyda chyhoeddi delweddau'n rhydd, yn agored ac am ddim; a hefyd am eu gwaith yn datblygu offer uwchlwytho torfol.' Cydnabyddodd Wikimedia UK hefyd mai 'dyma'r corff sy'n fwyaf triw i nodau ac amcanion WMUK yng Nghymru.'

Yn Ionawr 2015, penododd y Llyfrgell Wicipediwr Preswyl mewn partneriaeth â Wikimedia UK gyda'r nod o feithrin perthynas gynaliadwy rhwng y sefydliad a phrosiectau Wiki. Dyma'r cyfnod preswyl hiraf yn hanes y swyddogaeth Wicipediwr Preswyl, sy'n arwydd o'i lwyddiant yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]